Menu

Datrys Problemau a Modelu

4.1

Cyflwyniad

Pan fyddwch yn trafod y Fframwaith newydd gydag athrawon cynradd, maen nhw bob amser yn siarad yn bryderus yn aml am godio. Ond dydy’r term codio ddim hyd yn oed yn ymddangos yn y Fframwaith! Yr hyn sydd yn ymddangos ydy’r elfen yma – ‘Datrys Problemau a Modelu’.

Mae’r elfen yma yn cynnwys adnabod problem, ei rhannu yn ddarnau y mae modd eu trin, nodi patrymau a datrys y broblem.

Rydyn ni’n defnyddio codio fel un dull o ddysgu sgiliau’r elfen yma, a does dim angen bod yn bryderus. Wedi’r cyfan, trwy ddysgu plant i ddilyn cyfarwyddiadau sylfaenol, i reoli’r Bee-Bot, ac i ddeall y symbolau saeth, mae athrawon Meithrin wedi bod yn dysgu codio ers blynyddoedd. Dyna beth ydy’r elfen yma mewn dosbarth Meithrin.

Fframwaith

4.1 - Datrys Problemau a Modelu

  • Cwblhau patrymau a dilyniannau.
  • Dilyn dilyniant syml o gyfarwyddiadau.
  • Creu cyfarwyddiadau un cam a phennu'r cam nesaf.

Sgil wrth Sgil

  • Datblygu dealltwriaeth o gyfarwyddiadau a throi’n gorfforol.
  • Rhaglennu Crwydrwr o un sgwâr i un arall trwy fentro a methu.
  • Dangos ymwybyddiaeth o arddodiaid a symudiad yn ystod eu gweithgaredd corfforol eu hunain.
  • Deall cyfarwyddiadau a throadau fel symbolau.
  • Symud crwydrwr rhithwir i leoliad trwy fentro a methu

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

troi    ymlaen    yn ôl     tu ôl     o flaen     wrth ochr     nesaf at     chwith     de  botwm     crwydrwr     BeeBot

Cyngor

Cyn i ni edrych ar weithgareddau penodol i'r Meithrin yn is ar y dudalen, darllenwch ein cyngor ar Feddwl yn Gyfrifiadurol gyda'r Cyfnod Sylfaen isod.

Cyngor

Meddwl yn Gyfrifiadurol gyda'r Cyfnod Sylfaen

Os ydych yn athro/athrawes Cyfnod Sylfaen, mae’n debyg y bydd gennych brofiad eisoes o ddysgu nifer o’r sgiliau meddwl yn gyfrifiadurol sydd ynghlwm gyda chodio. Efallai nad ydych wedi meddwl amdanyn nhw fel gweithgareddau codio, ond mae’n debygol eich bod wedi dysgu gyda’r Bee-Bot ac wedi dysgu’r disgyblion sut i ddilyn cyfarwyddiadau. Mae’r ddau beth yn weithgareddau codio.

Mae’r adran hon yn rhoi rhywfaint o gyngor cyffredinol ar wahanol dechnegau codio cyn i chi gychwyn ar y gweithgareddau ar gyfer eich grŵp blwyddyn isod.

Cyflwyniad

Mae meddwl yn gyfrifiadurol yn y Cyfnod Sylfaen yn ymwneud yn bennaf gyda chyfarwyddiadau a rhoi cyfarwyddiadau i symud pobl neu wrthrychau o un lle i’r llall.  Ym mhob gweithgaredd, fe fydd un person yn rhoi’r cyfarwyddiadau ac fe fydd person neu wrthrych arall yn symud yn unol â hynny.

Y tri prif ’beth’ yr ydym yn eu rheoli trwy godio yn y Cyfnod Sylfaen ydy robotiaid (e.e. Bee-Bot), pobl eraill neu gymeriad ar sgrin. Fe fyddwn yn edrych ar bob un o’r rhain yn eu tro.

Symud robot (e.e. Bee-Bot)

Mae’r rhan fwyaf o athrawon Cyfnod Sylaen yn gyfarwydd gyda Bee-Bot, ond ydych chi’n ei ddefnyddio’n effeithiol i ddysgu’r sgiliau angenrheidiol?

Yn y cyfnod cynnar yma, y pethau pwysig i ganolbwyntio arnyn nhw ydy:

  • Sut i fewnbynnu cyfarwyddiadau i’ch robot (h.y. beth mae’r gwahanol fotymau yn eu gwneud)?
  • Sut i symud ymlaen, yn ôl, troi i’r chwith ac i’r dde?
  • Defnyddio arddodiaid ac, yn dibynnu ar allu, pwyntiau cwmpawd.
  • Adnabod a defnyddio symbolau saeth.

Wrth ddefnyddio Bee-Bot,mae’n ddefnyddiol gwybod bod pob symudiad ymlaen neu yn ôl yn 15cm o hyd. Mae hyn yn wybodaeth ddefnyddiol am ddau reswm:

  • Gallwch greu grid o sgwariau 15cm x 15cm ar y llawr gan ddefnyddio tâp. Yna gall y disgyblion godio’r Bee-Bot i amrywiol leoliadau oddi mewn i’r grid.
  • Gallwch wneud prennau mesur Bee-Bot 15cm o hyd (allan o gardfwrdd neu gyda lego/ciwbiau) a gall y disgyblion eu defnyddio i ragweld faint o symudiadau ymlaen y mae’r Bee-Bot eu hangen i gyrraedd ei gyrchfan heb gymorth grid.

Symud Pobl

Does dim gwell ffordd o gyflwyno codio na gofyn i’r disgyblion roi cyfarwyddiadau i athro/athrawes neu i ffrind er mwyn eu symud o gwmpas yr ystafell. Mae hyn y helpu eu sgiliau iaith, geirfa a hyder wrth iddyn nhw orfod gweiddi eu cyfarwyddiadau yn uchel, ond mae hefyd yn dod â chysyniadau meddwl yn gyfrifiadurol yn fyw mewn ffordd nad ydy chwarae gêm codio ar iPad yn ei wneud.

Symud Cymeriad Ar-Sgrin

Mae yna gannoedd o gemau codio ar gael ar iPads neu ar-lein, y rhan fwyaf ohonyn nhw am ddim ac o safon da. I’r disgyblion iau, fe fyddem yn awgrymu apiau syml fel Bee-Bot a Kodable (neu Botio, ap codio yn yr iaith Gymraeg!). Tra bydd gadael iddyn nhw chwarae gyda’r apiau yn unig yn helpu i ddatblygu eu sgiliau, mae yna dasgau penodol i flwyddyn ar gael isod sydd yn ymestyn y dysgu.

coding game lightbot
coding games

Tasgau Ffocws

Datrys Problemau yn y Meithrin

Mae’r rhan fwyaf o sgiliau’r elfen yma yn y Meithrin yn golygu bod y disgyblion yn dilyn cyfarwyddiadau yn hytrach na chreu eu codau eu hunain. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer pob un o’r sgiliau:

Cwblhau patrymau a dilyniannau.

  • Darganfod/creu cardiau yn dangos amrywiol gamau trefn beunyddiol (e.e. paratoi yn y bore, gwneud brechdan) neu stori llyfr darllen dosbarth. Gwnewch yn siŵr bod y cerdyn olaf wedi’i guddio. Mae’r disgyblion yn rhoi’r lluniau yn eu trefn ac yna yn tynnu eu llun eu hunain ar gyfer y cam olaf.
Duplo

Dilyn dilyniant syml o gyfarwyddiadau.

  • Mae’r athro/athawes yn adeiladu rhywbeth syml gyda Duplo ac yn rhoi cyfarwyddiadau i’r disgyblion ar sut i’w gopïo gam wrth gam.
  • Addurno cacennau bach gan ddilyn cyfarwyddiadau syml (e.e. rhowch eisin glas ar y gacen a thri smarties etc.)
  • Cuddiwch ‘drysor’ yn y dosbarth ac arweiniwch y disgyblion  i’w ddarganfod, gan eu helpu i ddysgu’r termau ‘ymlaen, ‘yn ôl’, ‘troi i’r chwith’, a ‘throi i’r dde’. Ymestyn hyn trwy ddechrau defnyddio arddodiaid (e.e. ‘tu ôl’,’o flaen’, ‘nesaf at’)
  • Y disgyblion yn symud Bee-Bot (neu unrhyw degan) â llaw yn ôl eich cyfarwyddiadau chi.
  • Noder: Gellir rhoi’r cyfarwyddiadau uchod ar ffurf lluniau/symbolau neu ar lafar.

Creu cyfarwyddiadau cam wrth gam a nodi’r cam nesaf

Dyma un gweithgaredd lle mae’r disgyblion yn creu eu cyfarwyddiadau eu hunain. Gan ddefnyddio’r Bee-Bots dylai’r disgyblion roi un gorchymyn ar y tro i wneud i’r Bee-Bot symud i leoliad penodol. Os oes gennych fat Bee-Bot yna mae’n debyg y bydd yna leoliadau arno eisoes i chi eu defnyddio. Fel arall, lluniwch grid ar y llawr allan o dâp (dylai pob sgwâr fod yn 15cm x 15cm) ac ychwanegwch rai lleoliadau sydd yn cydweddu gyda’ch thema (e.e. ffrwythau gwahanol).

Darpariaeth Bellach

Chwarae gyda Problemau

Fel gyda phob darpariaeth estynedig, y nod ydy rhoi cyfleoedd rheolaidd i’r disgyblion ymarfer eu sgiliau.

Unwaith y bydd y disgyblion wedi cwbhlau unrhyw un o’r tasgau uchod, gellir addasu’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddigon hawdd i ddarpariaeth estynedig. Er enghraifft:

  • Creu "Duplo’r Wythnos" gyda chyfarwyddiadau lluniau. Mae’r disgyblion yn dilyn y cyfarwyddiadau i gopïo eich creadigaeth.
  • Creu cardiau gyda dilyniannau o bob math o ddigwyddiadau y bydd y disgyblion yn gyfarwydd â nhw (brwsio dannedd, gwneud tôst, dod i’r ysgol, diwrnod ysgol, mynd i nofio etc). Cofiwch adael y cerdyn olaf allan. Rhowch set gwahanol allan bob wythnos i’r disgyblion eu trefnu a’u cwblhau.
  • Darparu darnau o drysor y gall un disgybl eu cuddio cyn rhoi cyfarwyddiadau i helpu eu partner i’w ddarganfod.
  • Y Bee-Bots a’r gridiau/matiau ar gael i’r disgyblion eu defnyddio yn eu hamser eu hunain. (Gwnewch yn siŵr bod y batri’n gweithio!)