Llythrennedd Gwybodaeth a Data
4.2
Tasgau Ffocws
Casglu a Didoli
Mae yna ddwy brif her yn yr elfen yma. I ddechrau, mae angen inni wneud yn siŵr bod y disgyblion yn deall bod modd i ddatat gael ei gynrychioli mewn gwahanol ffyrdd. Yn ail, rhaid inni ddysgu sut i gasglu a didoli data.
Data Gwahanol
Gellir cyflwyno data mewn gwahanol ffyrdd.Er enghraifft, os ydyn nin edrych ar wahanol gŵn, mae modd inni gael:
- Cŵn go iawn o wahanol fridiau.
- Casgliad o gŵn tegan meddal.
- Edrych ar ddelweddau print o wahanol gŵn.
- Edrych ar ddelweddau neu fideos o wahanol gŵn ar sgrin.
Ffordd dda o sicrhau bod eich disgyblion yn deall y gwahaniaeth ydy rhoi casgliad iddyn nhw o anifeiliaid tegan meddal a lluniau o’r anifeiliaid go iawn cyfatebol. I ddechrau fe ddylai’r disgyblion eu didoli yn ‘degannau meddal’ a ‘ffotograffau’. Yna fe ddylen nhw baru’r tegan meddal gyda’r llun o’r aifail cyfatebol.
Casglu a Didoli
Gofynnwch i’ch disgyblion gasglu nifer o wrthrychau, rhai gwyrdd a rhai coch, Ar ôl iddyn nhw gasglu ychydig, rhowch ddau gylch hwla ar y llawr a gofynnwch iddyn nhw osod yr holl wrthrychau coch mewn un cylch a’r holl wrthrychau gwyrdd yn y cylch arall. Ymestynwch y gweithgaredd trwy ofyn iddyn nhw gasglu a didoli gwrthrychau gyda gwahaniaethau ychydig mwy cynnil (e.e. dail o ddwy wahanol goeden, pethau wedi’u gwneud o blastig a phethau wedi’u gwneud o bapur.)
Darpariaeth Bellach
Cornel Ddidoli
Bob wythnos, rhowch gasgliad gwahanol o eitemau mewn ‘Cornel Ddidoli’ neu mewn ‘Blwch Didoli’. Gallwch ddarparu penawdau er mwyn i’r disgyblion ddidoli (e.e. glas/gwyrdd neu pysgod/adar) neu gadewch i’r disgyblion ddewis eu meini prawf eu hunain. Atgoffwch y disgyblion i dynnu llun unwaith y byddan nhw wedi gorffen didoli.