Menu

FAQ Aelodau

Cyffredinol

Cliciwch ar 'Safle Sgiliau' a dewis y flwyddyn ysgol gywir i weld y gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth. Cofiwch hefyd am y gweithgareddau ar gyfer digwyddiadau pwysig - mae'r rhain ar gael ar y dudalen 'Tymhorol'.

Mae TwT 360 yn cael ei ddiweddaru’n gyson. Mae hyn yn golygu eich bod yn cael mynediad i gynnwys newydd yn aml, a hefyd gallwch fod yn sicr y byddwn yn gweithio i ddiweddaru ein gweithgareddau a gwybodaeth os a phan fydd newidiadau’n cael eu wneud i’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol neu i gwricwlwm Cymru.

Ydyn, cliciwch ar y ddolen Hyfforddiant yn y ddewislen uchod.

Gweinyddu

Peidiwch â phoeni, ewch i'r dudalen Mewngofnodi a clicio ‘Anghofio eich Cyfrinair’ neu e-bostiwch ni ar post@twt360.com ac fe fyddwn yn ei ailosod i chi. (Dyw ein staff methu dweud wrthych beth ydy eich cyfrinair cyfredol gan ein bod yn amgryptio cyfrineiriau fel nad oes posib i'n staff eu gweld).

Ydych. Mae'r person a danysgrifwyd ar ran eich ysgol wedi derbyn ebost gyda dolen i'w rannu gyda'r staff. Gallwch ddefnyddio'r ddolen hon i greu cyfrif personol o dan danysgrifiad yr ysgol.

Pan fydd gennych ychydig dros fis yn weddill o’ch tanysgrifiad 12 mis fe fyddwn yn anfon anfoneb newydd atoch i adnewyddu eich aelodaeth. Gwnewch yn siŵr bod yr anfoneb yma’n cael ei thalu cyn diwedd eich tanysgrifiad ac fe fydd eich aelodaeth yn para’n ddi-dor.

Os nad ydych yn dymuno adnewyddu, rhowch wybod inni drwy e-bostio post@twt360.com ac fe fyddwn yn canslo’r anfoneb adnewyddu. Does dim rhwymedigaeth arnoch chi i adnewyddu.

Noder: Oherwydd penderfyniad TwT 360 i roi mynediad am ddim i'n hadnoddau yn ystod y cyfnod pan mae'r ysgolion wedi cau, bydd cyfrifon pawb a gofrestrwyd rhwng Mawrth 2019 a Mawrth 21ain 2020 yn cael eu hymestyn 5 mis.

I chi sydd yn cymryd mantais o'n cyfrifon am ddim, bydd eich cyfrif yn parhau hyd 1af o Fedi 2020. Byddwn yn cysylltu â chi'r adeg hynny i holi os yr hoffech barhau gyda chyfrif taledig.

Mae eich tanysgrifiad yn para 12 mis. Yn agos at ddiwedd y cyfnod o 12 mis fe fyddwch yn derbyn anfoneb adnewyddu. Os nad ydych yn dymuno adnewyddu, rhowch wybod inni drwy e-bostio post@twt360.com ac fe ddaw eich tanysgrifiad i ben pan fo’r 12 mis yn dirwyn i ben.

Os na chaiff yr anfoneb adnewyddu ei thalu, ac nad ydych yn dweud wrthym nad ydych eisiau adnewyddu yna fe fyddwn yn atal eich cyfrif dros dro hyd nes y byddwch yn cadarnhau os ydych eisiau adnewyddu ai peidio. Does yna ddim rhwymedigaeth i adnewyddu .