Iechyd a Lles
1.2
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Yn anffodus, dydy cynlluniau gwaith SWGfL ar gyfer Blwyddyn 1 ddim yn delio gyda cyfyngu ar amser sgrin ac felly rhaid i chi sicrhau eich bod yn trafod yr elfen yma ar wahân. Dyma rai gweithgareddau y gallech eu hystyried:
- Yn ystod amser annibynnol, darparwch gloc cyfrif i lawr pan fo’r disgyblion yn defnyddio iPad.Pan fo disgyblion yn dechrau defnyddio’r iPad, maen nhw’n cychwyn y cloc cyfrif i lawr/amserydd tywod. Canmolwch a gwobrwywch y rhai sydd yn stopio yn annibynnol pan fo’u hamser ar ben.
- Cynhaliwch drafodaethau grŵp neu ddosbarth ynghylch pam y dylem gyfyngu ar amser sgrin.
Pan fo iPads allan ar gyfer tasg benodol, atgoffwch y disgyblion mai dim ond i’r diben hwnnw y dylid eu defnyddio. Gall defnyddio Mynediad dan Arweiniad helpu i’w hatal rhag gadael yr ap rydych chi wedi’i ddethol.