Menu

Cyfathrebu

2.1

Cyflwyniad

Mae technoleg wedi newid byd cyfathrebu yn ddramatig yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n parhau i’w newid yn gyflym. Hyd yn oed yn yr oedran ifanc yma dylai disgyblion ddechrau ymgyfarwyddo gyda’r ffaith bod yna sawl ffordd o gyfathrebu gydag eraill trwy ddefnyddio’r rhyngrwyd a chyfrannu at negeseuon grŵp.  

Fframwaith

2.1 - Cyfathrebu

  • cyfrannu at gyfathrebiad grŵp neu ddosbarth cyfan ar-lein mewn un iaith neu fwy, e.e. e-bost neu galwad fideo.

Sgil wrth Sgil

  • Deall bod gan bobl gyfeiriadau e-bost a bod modd derbyn negeseuon e-bost.
  • Teipio neges e-bost gan ddefnyddio rhaglen syml  (e.e. Purple Mash).
  • Cyfrannu at gyfathrebu dosbarth cyfan neu grŵp ar-lein mewn un neu ragor o ieithoedd.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

neges     e-bost     cyfeiriad    post     cod post     parth   anfon     ateb    derbyn    anfonwr

Gweithgaredd 1

Beth ydy Cyfeiriad?

Fe fydd disgyblion yn ymwybodol o beth ydy e-bost o’r gwaith yn y Derbyn, ond mae’n debyg na fyddan nhw wedi edrych ar un yn fanwl. Rydyn ni felly yn dechrau trwy edrych ar gyfeiriadau e-bost.

Paratoi:

  • Argraffwch gopïau o gyfeiriad post yr ysgol, cyfeiriadau ar gyfer adeiladau adnabyddus yn eich pentref/tref ac ardaloedd cyfagos, a rhai cyfeiriadau ffug i dai yn lleol.
  • Torrwch nhwi’i fyny fel bod pob llinell o’r cyfeiriadau ar wahân.
  • Gwnewch yr un fath gyda chyfeiriadau e-bost yr ysgol, ac ychydig o gyfeiriadau e-bost eraill ar gyfer lleoedd maen nhw’n eu hadnabd a rhai e-byst personol ffug. Torrwch y rhain yn dri rhan (y darn cyn yr @, y darn ar ôl yr atalnod llawn (e.e. .com) a’r parth  (e.e. @gmail) (e.g. @gmail).

Tasgau Gweithgaredd:

  • Dangoswch gyfeiriad yr ysgol i’r disgyblion.
  • Beth ydy pwrpas cyfeiriad? (Mae’n helpu’r postmon i ddosbarthu post, mae’n helpu pobl i fynd i’r lle cywir).
  • Esboniwch beth ydy ystyr pob llinell (person/lle, rhif a stryd, pentref/ardal, tref, sir, cod post).
  • Dangoswch gyfeiriadau eraill i atgyfnerthu.
  • Rhowch y darnau o gyfeiriad i grwpiau/parau o ddisgyblion a gofynnwch iddyn nhw eu rhoi yn y drefn gwir. Unwaith y byddan nhw wedi gorffen un cyfeiriad, rhowch un arall iddyn nhw.
  • Dangoswch gyfeiriad e-bost yr ysgol. Gofynnwch beth ydy e. Esboniwch bod cyfeiriad e-bost yn debyg i gyfeiriad post. Maen nhw’n helpu’r neges e-bost i gyrraedd y lle cywir.
  • Dangoswch y gallwch rannu’r e-bost yn ddarnau hefyd.
    • Y rhan gyntaf (y rhan ‘lleol’ ydy hunaniaeth y person y mae’r neges e-bost yn cael ei hanfon ato. Gall fod yn enw, yn ffugenw neu yn deitl swydd.
    • Y ‘parth’ sy’n dilyn yr @. Dyma pwy sydd yng ngofal y cyfeiriad e-bost (naill ai cwmni fel Gmail neu Outlook neu fusnes neu gorff arall fel eich ysgol). Ail hanner y ‘parth’ ydy’r diwedd (.com .org.cymru etc). Esboniwch nad oes fawr o wahaniaeth rhwng y rhain, ond rhaid i chi ddefnyddio’r un cywir er mwyn i’r e-bost ddarganfod ei ffordd.
  • Dangoswch ychydig rhagor o gyfeiriadau e-bost i atgyfnerthu’r uchod.
  • Ar bapur, gall y disgyblion feddwl am gyfeiriad e-bost:
    • iddyn nhw’u hunain gan ddefnyddio parth yr ysgol
    • rhiant, gan ddefnyddio @gmail.com neu @outlook.com
    • busnes lleol adnabyddus (e.e. siop, tec awê, garej) gan greu parth ar eu cyfer (e.e. john@garejda.cymru)
Beth yw cyfeiriad ebost

Meini Prawf

  • Rwy’n gwybod pwrpas a fformat cyfeiriadau post ac e-bost.
  • Rwy’n gallu meddwl am gyfeiriadau e-bost defnyddiol.

Elfennau Fframwaith Eraill

Dim!

Geirfa

e-bost     cyfeiriad     post     stryd     pentref     tref   sir     cod post     parth

Syniadau Amrywio

Mae hon yn weithgaredd benodol iawn heb fawr o gyfle i’w newid.

Gweithgaredd 2

Fy Neges E-bost Gyntaf

Mae hi’n amser iddyn nhw nawr anfon eu neges e-bost gyntaf. Mae’r gweithgaredd yma’n gweithio orau gyda rhaglen e-bost syml. Rydyn ni’n argymell 2Email ar Purple Mash. Dyma rhywfaint o waith paratoi, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwylio’r fideo ‘Sut’ isod. Os nad oes gennych fynediad i 2Email (neu gyfatebol) mae yna rhywfaint o gyngor ar waelod y gweithgaredd yma.

Ebost Gruffalo

Paratoi:

  • Darllenwch stori i‘r dosbarth sydd yn cynnwys cymeriad a fydd yn hawdd i’w ddisgrifio (e.e. Gruffalo). Dysgwch rhai gwersi ansoddeiriau yn canolbwyntio ar sut i ddisgrifio’r cymeriad.
  • Mewngofnodwch i gyfrif Purple Mash eich athro/athrawes ac ewch i’r gosodiadau ar gyfer 2EAL. Gwnewch yn siŵr bod y blwch wedi’i labelu ‘Allow emailing to staff members’ ar ‘Yes’.  
  • Ewch i mewn i 2Email a newidiwch i Modd Athro/Athrawes. Cyfansoddwch neges e-bost i’ch disgyblion. Cliciwch ar y blwch ‘From’ a newidiwch hunaniaeth yr anfonwr i gymeriad arall o’ch stori (ar gyfer ein henghraifft Gruffalo, rydyn ni’n defnyddio Llygoden).
  • Yn y neges e-bost esboniwch eich bod chi (Llygoden) yn ceisio chwilio am y prif gymeriad (Gruffalo) ac angen help y disgyblion i’w ddisgrifio.
  • Anfonwch y neges e-bost at eich disgyblion. Efallai y byddwch eisiau anfon gwahanol fersiynau o’r e-bost i ddisgyblion o wahanol allu.
  • Gofynnwch i athro/athrawes arall anfon e-bost atoch oddi mewn i Purple Mash yn gofyn cwestiwn syml (e.e. “Pryd mae’r Diwrnod Athletau y tymor yma?” neu “Faint o’r gloch mae’r gwasanaeth yfory?”)
  • Lluniwch sgerbwd e-bost i helpu’ch disgyblion gyda’r dyluniad. Cyfarchiad ydy’r llinell gyntaf, llinel newydd ar gyfer y brif neges, llinellau newydd ar gyfer cloi (e.e. Dymuniadau gorau ac enw’r anfonwr)

Gweithgaredd

  • Dangoswch i’r disgyblion sut i ddarganfod eu negeseuon e-bost yn Purple Mash. Gobeithio eu bod wedi dysgu sut i fewngofnodi yn y Derbyn.
  • Dangoswch sut rydych yn agor eu e-bost newydd. Pwyntiwch at y blwch ‘From’ i weld pwy sydd wedi anfo yr e-bost.Gofynnwch i ddisgybl ddarllen y neges e-bost i’r dosbarth.
  • Amlygwch fformat yr e-bost fel yr esboniwyd uchod.
  • Gan weithio gydag un grŵp ar y tro, gofynnwch iddyn nhw fewngofnodi i’w e-bost Purple Mash a darllen y neges e-bost gan Llygoden. Trafodwch pa fath o ddisgrifiadau y gallan nhw eu defnyddio ar gyfer Gruffalo.
  • Rhowch sgerbwd e-bost iddyn nhw i’w hatgoffa o’r ffurf.
  • Mae’r disgyblion yn ateb y Llygoden gan deipio ychydig frawddegau yn disgrifio’r Gruffalo. (Fe fydd nifer y brawddegau a’u hyd yn dibynnu ar alluoedd eich grwpiau).
  • Os ydy eu hatebion yn rhy fyr, atebwch eu negeseuon e-bost yn gyflym (fel y Llygoden) gan ofyn am ragor o wybodaeth.

Cofiwch

  • Os ydych yn hyderus i ddefnyddio 2Email, defnyddiwch 2Respond Creator i greu eich ail neges e-bost o flaen llaw. Ac felly, cyn gynted ag y bydd disgybl yn anfon eu neges e-bost gyntaf, fe fyddan nhw’n derbyn ateb yn gofyn am ragor o wybodaeth.
  • Pan fyddwch yn gwirio’r gosodiadau ar gyfer 2Email, ystyriwch ydych chi eisiau iddyn nhw allu anfon negeseuon e-bost at ei gilydd ai peidio. Mae’n ffordd dda o ymarfer anfon negeseuon e-bost, ond gall greu problemau os nad ydyn nhw wedi cael eu dysgu sut i gyfathrebu’n gyfrifol ar-lein.

Dim Purple Mash?

Fe fyddai’r gweithgaredd yma’n anodd iawn i’w wneud gyda rhaglen e-bost arferol fel Outlook neu Gmail am ddau reswm. Mae’n amhosibl creu cymeriad ar gyfer yr ‘Anfonwr’ ac mae’r rhaglenni yn rhy gymhleth i’r disgyblion yma. Os nad oes gennych Purple Mash, dyma beth y gallech chi ei wneud:

Teipiwch yr un neges e-bost o flaenllaw, ond anfonwch hi atoch chi. Y ffordd orau fyddai creu cyfeiriad e-bost newydd (am ddim gyda Gmail neu Outlook) gydag enw’r cymeriad a’i anfon atoch chi eich hun. Os nad ydy hynny’n bosibl, gofynnwch i athro/athrawes arall ei anfon atoch ac ychwanegu brawddeg yn esbonio eu bod yn gofyn “ar ran ffrind”.

Yna gall y disgyblion deipio eu hymateb ar unrhyw brosesydd geiriau (Pages, Word, Google Docs).

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu mewngofnodi a darllen fy negeseuon e-bost.
  • Rwy’n gallu ateb e-bost.

Elfennau Fframwaith Eraill

1.1 – Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da

Trafodwch bwysigrwydd peidio â rhannu gwybodaeth breifat ar -lein gyda deithriaid

1.2 – Iechyd a Llesiant

Mae gan nifer o gwmnïau e-bost a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol gyfyngiadau oedran. Trafodwch y rhain tra’n esbonio pam bod e-bost sy’n cael ei redeg gan ysgol yn fwy diogel nag e-bost cyhoeddus (gardd gaerog, ni all rhai o’r tu allan e-bostio cyfrifon ysgol).

1.4 – Ymddygiad ar-lein a Seiberfwlio

Trafodwch fanteision ac anfanteision cyfathrebu ar-lein.

3.1 – Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

Gall y dosbarth feddwl am Feini Prawf Llwyddiant ar gyfer e-bost da tra’n edrych ar eich enghraifft (eich e-bost gwreiddiol).

3.3 – Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanwerthusiad arferol

Geirfa

e-bost     cyfeiriad     anfon    derbyn     agor     ateb     cyfarchiad     dymuniadau gorau

Syniadau Amrywio

Yn hytrach na disgrifio cymeriad, gallai’r disgyblion:

  • Ysgrifennu eu rhestrau i Siôn Corn
  • Cyflwyno eu hunain i‘w hathro/athrawes Blwyddyn 2.
  • Disgrifio eu hardal leol i ymwelydd

Os nad oes gennych fynediad i Purple Mash, gweler yr adran uchod dan y teitl 'Dim Purple Mash?'

Darpariaeth Bellach

Negeseuon E-bost Wythnosol

Ar ôl cwblhau Gweithgaredd 2, afonwch neges e-bost at eich disgyblion oddi wrth gymeriad gwahanol bob wythnos, gyda chwestiwn iddyn nhw ei ateb.