Storio a Rhannu
2.3
Tasg Ffocws
Arbed, Arbed, Arbed!
Mae yna dri cham i arbed yn gywir, a gellir dysgu’r camau yma ar yr oedran cynnar yma:
- Cofiwch glicio’r botwm ‘Arbed’. Dylai disgyblion fod wedi datblygu’r arferiad yma yn y Meithrin, ond mae eu hatgoffa yn rheolaidd yn dal yn bwysig.
- Arbed yn y ffolder gywir. Peidiwch â phoeni gormod am yr agwedd yma ar hyn o bryd. Os ydych yn defnyddio meddalwedd fel Purple Mash neu J2E yna fel rheol fe fydd y ffolder gywir yn cael ei dewis yn awtomatig.
- Dewis enw ffeil priodol. Hyd yn oed yn CA2, ni fydd llawer o ddisgyblion yn enwi eu dogfennau, neu fe fyddan nhw yn eu henwi mewn ffordd sydd yn ei gwneud yn anodd i’w hadnabod yn nes ymlaen. Dysgwch eich disgyblion y dylen nhw deipio eu henw ac enw’r gwaith pan fyddan nhw’n arbed, e.e. ‘Dafydd – llythyr Siôn Corn’ (Mae’n amlwg y bydd angen i chi roi teitl y gwaith iddyn nhw ei gopïo bob tro).
Y gyfrinach, fel gyda phob sgil, ydy modelu a rhoi cyfleoedd i ymarfer.
Cofiwch
- Esboniwch yn glir i’r disgyblion pam maen nhw’n cadw. Ailagorwch eu gwaith ar ddyfais wahanol i ddangos beth mae cadw yn ei feddwl.
Darpariaeth Bellach
Arbed Popeth
- Gwnewch yn siŵr bod yna luniau mawr o’r gwahanol fotymau Arbed wrth ymyl eich cyfrifiaduron y gallan nhw ddod ar eu traws (yn dibynnu ar y meddalwedd rydych chi’n ei ddefnyddio yn y dosbarth, o bosibl Purple Mash neu J2E).
- Bob tro mae disgybl yn defnyddio cyfrifiadur, boed ar gyfer tasg benodol neu fel darpariaeth estynedig, anogwch nhw i arbed eu prosiect. (Cofiwch roi teitl iddyn nhw i’w gopïo fel rhan o’u henw ffeil).