Menu

Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

3.1

Cyflwyniad

Mae’r elfen hon yn cynwys dau gysyniad cwbl wahanol.

  • Mae ‘cynllunio’ yn cyfeirio at y cynllunio cyn gwneud tasg y byddech yn ei wneud mewn unrhyw bwnc h.y. nodi meini prawf llwyddiant.
  • Ar y llaw arall mae ‘Cyrchu a Chwilio’ yn golygu darganfod gwybodaeth a chyfrwng trwy dechnoleg.

Fframwaith

3.1 - Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

  • Pennu rhai meini prawf llwyddiant wrth ymateb i gwestiynau, e.e. dewis lliw priodol ac ychwanegu teitl at fideo
  • Defnyddio testun wrth chwilio am wybodaeth/cyfryngau (delwedd, fideo, sain) a defnyddio porwr rhyngrwyd yn annibynnol, e.e. agor porwr a theipio un allweddair i chwilio.

Sgil wrth Sgil

  • Nodi meni prawf llwyddiant (gyda chwestiynau arweiniol gan yr athro/athrawes).
  • Llywio gan ddefnyddio porwr we.

Geirfa

Meini prawf llwyddiant     yn ôl    ymlaen     dolen

Rhan 1

Cynllunio

Does fawr o wahaniaeth rhwng yr elfen hon Mlwyddyn 1 a’r hyn roedden nhw’n ei wneud yn y Derbyn. Mae’n ymwneud â dechrau adnabod meini prawf llwyddiant eu hunain, er gyda chwestiynau gan yr athro/athrawes i’w harwain.

Nodi Meini Prawf Llwyddiant

Gofynnwch gwestiynau sydd yn eu harwain i adnabod meini prawf llwyddiant boddhaol. Er enghraifft:

  • Wrth ddefnyddio meddalwedd peintio gofynnwch “Ddylen ni dynnu llun bach yn. y canol?" i gael gobeithio, yr ateb “Na, fe ddylai lenwi’r sgrin”.
  • Wrth dynnu lluniau "Os ydych yn tynnu llun o’ch hoff degan, ydych chi’n tynnu llun o hanner y tegan?” i gael yr ateb “Na, mae angen i’r tegan cyfan fod yn y llun”.
  • Wrth deipio eu henw o dan eu gwaith gofynnwch “Ddylai pob llythyren fod yn fach?” i gael yr ateb “Na, rhaid i’r llythyren gyntaf fod yn briflythyren".

Rhan 2

Cyrchu a Chwilio

Mae llywio’r we yn gymaint rhan o’n bywydau y dyddiau yma. Os ydych yn ei wneud ar gyfrifiadur, tabled neu ar ffôn, mae’r profiad yn gymharol debyg.

Camau:

  • Dangoswch sut i symud rhwng tudalennau’r we drwy glicio ar ddolenni. Y ffordd orau o ddangos ac ymarfer hyn ydy trwy ddefnyddio gwefannau cyfeillgar i blant lle y mae modd iddyn nhw lywio trwy glicio’n ôl ac ymlaen. Gall fod yn wefan ffeithiol neu yn wefan gemau neu unrhyw wefan briodol.
  • Dangoswch iddyn nhw sut i ddefnyddio’r botymau yn ôl ac ymlaen.
  • Rhowch gyfle iddyn nhw ymarfer llywio!