Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da
1.1
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Deall yr ôl troed digidol
Gelwir Gwers 2, Blwyddyn 2 o’r cynlluniau Diogelwch Ar-lein SWGfL yn ‘Dilyn y Llwybr Digidol’ ac mae yma gasgliad o adnoddau a syniadau ar gyfer gweithgareddau sydd yn delio’n drylwyr gyda’r agwedd yma o’r elfen.
Nodi camau i gadw gwybodaeth bersonol yn breifat
- Holwch eich disgyblion beth sy’n cadw ein gwybodaeth yn ddiogel ar-lein? Sut y gallan nhw fod yn sicr na fydd eu ffrindiau yn mewngofnodi i’w cyfrifon ysgol ar-lein (e.e. Hwb, Purple Mash, Sumdog)?
- Trafodwch pam bod gennym ni gyfrineiriau, cymharwch nhw gyda chlo ar sêff.
- Gofynnwch iddyn nhw gyda phwy y gallan nhw rannu eu cyfrinair? (Rhiant/Gwarcheidwad). Atgoffwch nhw na ddylai hyd yn oed eu ffrind gorau gael mynediad i’w cyfrinair.