Iechyd a Lles
1.2
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Yn anffodus, dydy cynlluniau gwaith SWGfL ar gyfer Blwyddyn 2 ddim yn cynnwys manteision ac anfanteision y cyfryngau cymdeithasol ac felly fe fydd rhaid i chi sicrhau eich bod yn trafod yr elfen yma ar wahân.
- Trafodwch beth rydyn ni’n ei olygu gyda ‘chyfryngau cymdeithasol’ (h.y. ffilmiau, fideos YouTube, apiau, gemau, ffotograffau, gwefannau etc.).
- Rhowch gardiau i grwpiau yn dangos effeithiau cadarnhaol a negyddol cyfryngau cymdeithasol ar blant (gweler isod). Mae’r disgyblion yn cael cyfle i drafod pa rai sydd yn gadarnhaol a pha rai sydd yn negyddol.
Mae’r effeithau cadarnhaol yn cynnwys:
- Gallwn ddysgu trwy gemau fideo ac addysgol.
- Gallwn ddysgu am bobl a lleoedd ymhell i ffwrdd.
- Gallwn ddysgu ein rhieni sut i ddefnyddio technoleg.
- Gallwn ddysgu sut i ddatrys problemau mewn gemau cyfrifiadur.
- Gallwn fod yn greadigol trwy wneud ein fideos, cyflwyniadau neu luniau ein hunain.
Mae’r effeithiau negyddol yn cynnwys:
- Mae nifer o fideos a gemau yn amhriodol i blant.
- Mae amser sydd yn cael ei dreulio gyda thechnoleg yn amser y gallwn fod wedi’i dreulio yn chwarae yn yr awyr agored neu yn gwneud gwaith cartref.
- Gall eistedd i lawr gyda thechnoleg eich gwneud yn ddiog ac yn anffit.
- Dydy rhai pobl ddim yn cysgu digon oherwydd eu bod ar eu ffonau neu iPads ar bob awr.
- Gall pobl anfon negeseuon annymunol.