Menu

Hawliau Digidol, Trwyddedu a Pherchnogaeth

1.3

Cyflwyniad

Mae 'Hawliau DIgidol, Trwyddedu a Pherchnogaeth’ yn delio’n bennaf gyda hawlfraint a phwysigrwydd cydnabod ffynonellau.

Ym Mlwyddyn 2 yr unig beth mae angen i ddisgyblion allu ei wneud ydy ychwanegu eu henw a’r dyddiad at eu gwaith a deall pam bod hyn yn bwysig.

Fframwaith

1.3 - Hawliau Digidol, Trwyddedu a Pherchnogaeth

  • Ychwanegu eu henw a dyddiad at waith a grëwyd ganddynt a nodi rhesymau pam fod hyn yn bwysig, e.e. teipio eu henw cyntaf a chyfenw, ychwanegu dyddiad at ddarnau o waith a rhoi rhesymau ar lafar am wneud hynny.

Geirfa

enw     dyddiad    digidol     perchnogaeth

Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.

20161118_141908

Adnodd Diogelwch Ar-Lein SWGfL

Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.

Gweithgareddau

Hyd yn oed ar gyfer yr elfen symlaf yma (y cyfan sydd angen iddyn nhw allu ei wneud ydy ysgrifennu eu henw a’r dyddiad ar eu gwaith) mae cymorth ar gael o adnawdd SWGfL. (Efallai eu bod wedi gwneud y wers yma ym Mlwyddyn 1).

Teitl Gwers 4, Blwyddyn 1  o Adnawdd Diogelwch Ar-lein SWGfL ydy ‘Fy Ngwaith Creadigol’ ac mae’n ymwneud â disgyblion yn rhoi eu henwau a’r dyddiad ar eu gwaith.

Y cyfan sydd yn newydd ym Mlwyddyn 2 ydy eich bod yn esbonio pam bod hyn yn bwysig:

  • Fel bod pawb yn gwybod pwy wnaeth y gwaith.
  • Fel nad oes neb arall yn gallu hawlio mai nhw wnaeth y gwaith.
  • Fel eich bod chi yn gallu cofio pryd y gwnaethoch y gwaith.