Ymddygiad Ar-lein a Seiberfwlio
1.4
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Cysylltu’n lleol ac yn fyd-eang gyda thechnoleg digidol.
- Gweler y gweithgareddau yn yr elfen ‘Cyfathrebu’ 2.1 sydd yn ymwneud ag anfon negeseuon e-bost.
Rhyngweithio’n briodol gydag eraill
- Teitl Gwers 3, Blwyddyn 2 o Adnawdd Ar-lein SWGfL ydy 'Screen Out the Mean' ac mae’n delio gyda seiberfwlio.
- Os oes gan eich ysgol fynediad i Purple Mash, anfonwch e-bost at eich disgyblion oddi wrth Mr Twit gan ddefnyddio 2Email (gweler Gweithgaredd Cyfathrebu Blwyddyn 1 am gyfarwyddiadau). Fe ddylai’r neges e-bost gynnwys rhai geiriau a brawddegau annymunol (ond dim rhy annymunol!). Gofynnwch i’ch disgyblion ateb y neges e-bost. Unwaith maen nhw wedi gwneud hynny, trafodwch beth oedden nhw’n feddwl o neges e-bost wreddiol Mr Twit.Oedden nhw’n teimlo ei bod yn annymunol? Sut wnaethon nhw ateb? Beth ddylen nhw wneud os ydyn nhw’n derbyn negeseuon e-bost annymunol yn y dyfodol? Cofiwch esbonio ar y diwedd mai chi anfonodd y neges e-bost a bod pob ateb wedi eich cyrraedd chi ac nid Mr Twit!
- Pan fydd disgyblion yn gweithio ar dasg sydd yn cynnwys e-bost (er enghraifft, pan fyddan nhw’n gweithio ar y tasgau yn 2.1 Cyfathrebu) atgoffwch nhw y dylen nhw ymddwyn ar-lein yn union fel y maen nhw’n ymddwyn all-lein.