Cyfathrebu
2.1
Gweithgaredd 1
E-bostio’r Athro/Athrawes
Mae gan ddisgyblion rhywfaint o brofiad o anfon ebost o Flwyddyn 1, pan roedden nhw’n ateb neges ebost gan gymeriad o lyfr. Ym Mlwydydn 2, maen nhw nawr yn cael cyfe i anfon eu ebost eu hunan, teipio cyfeiriad ebost a llinell pwnc yn ogystal ag ysgrifennu’r neges. Mae’r gweithgaredd yma’n gweithio orau gyda rhaglen ebost syml, rydym yn argymell 2Email ar Purple Mash. Ond os nad oes gennych raglen o’r fath, yna gellir gwneud y gweithgaredd gan ddefnyddio cyfeiriad ebost ysgol y disgyblion (Hwb neu Google Apps, pa un bynnag y mae eich ysgol yn ei ddefnyddio).
Paratoi:
- Ysgrifennwch ebost enghreifftiol at athro/athrawes arall, yn sôn am eich hoff gêm neu raglen deledu. Does dim angen ei anfon, ond gwnewch yn siŵr eich bod wedi ysgrifennu’r ebost ar y fformat cywir – cyfarchion ar un llinell, neges ar linell newydd, ‘Hwyl Fawr’ ar linell newydd.
Gweithgareddau
- Atgoffwch y disgyblion sut i ddarganfod eu negeseuon ebost os ydyn nhw’n defnyddio Purple Mash neu dangoswch iddyn nhw gam wrth gam sut i wneud hynny os ydyn nhw’n defnyddio rhaglen fel Outlook neu Gmail am y tro cyntaf.
- Dangoswch eich ebost enghreifftiol iddyn nhw. Holwch nhw am y cyfeiriad ebost rydych chi wedi’i deipio yn y maes ‘I’. Gobeithio y byddan nhw’n cofio ystyr y gwahanol rannau o’r cyfeiriad ebost o Flwyddyn 1.
- Sut rydyn ni’n teipio’r symbol @. Dangoswch iddyn nhw sut mae dal y bysell ‘Shift' yn ein galluogi i deipio’r symbolau sydd uwchben y rhifau neu symbolau eraill ar y bysellfwrdd.
- Amlygwch fformat yr ebost fel yr esboniwyd yn ‘Paratoi’ uchod.
- Gan weithio gydag un grŵp ar y tro, gofynnwch iddyn nhw fewngofnodi i’w ebost. Dangoswch iddyn nhw sut i ddechrau cyfansoddi ebost.
- Rhowch yr ebost sgerbwd iddyn nhw i’w hatgoffa sut mae’n cael ei osod allan ac ysgrifennwch y cyfeiriad ebost y byddan nhw’n anfon neges iddo (eich un chi mae’n debygol).
- Mae’r disgyblion yn anfon neges ebost atoch chi neu at athro/athrawes arall yn sôn am eu hoff gêm neu raglen deledu.
Cofiwch
- Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu Office 365 neu G Suite for Education eto, mae’n hen bryd iddyn nhw wneud hynny. Mae’r ddau am ddim ac ar gael drwy Hwb. Mae’r disgyblion angen cyfrifon os ydyn nhw am wneud tasgau fel cydweithio ac anfon negeseuon e-bost. Soniwch am hyn wrth yr Arweinydd Technoleg neu’r Pennaeth cyn gynted â phosibl!
Darpariaeth Bellach
Ebyst Wythnosol
Unwaith y byddan nhw wedi gorffen Gweithgaredd 1, rhowch gyfleoedd rheolaidd i’r disgyblion anfon negeseuon ebost. Er enghraifft:
- E-bostio Siôn Corn (fe fydd rhaid iddyn nhw ei anfon i’ch ebost chi ‘ i gael ei wirio’ cyn y gallwch ei ‘anfon ymlaen i Siôn Corn’!)
- Dewiswch un grŵp yr wythnos i ysgrifennu ebost at y Pennaeth yn sôn am yr hyn maen nhw’n hoffi yn yr ysgol.
- Anfonwch ebost at athro/athrawes dosbarth arall.