Cydweithio
2.2
Gweithgaredd 1
Bywiogi’r Gwaith
Yn y dasg ragarweiniol syml yma, fe fydd y disgyblion yn ychwanegu delweddau ac yn newid maint ffont a lliw i wneud i ddarn o destun edrych yn fwy diddorol. Mae’r sgiliau angenrheidiol i wneud hynny yn cael eu trafod yn y gweithgareddau ‘Creu’ yn 3.2, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dysgu hynny iddyn nhw’n gyntaf (neu cyfunwch y ddau).
Paratoi:
- Agorwch raglen brosesu geiriau cydweithio (2Write ar Purple Mash ydy’r symlaf, ond gallwch wneud y gweithgaredd gyda Google Docs neu Word 365 trwy Hwb hefyd).
- Teipiwch rigwm syml a’i chadw.
- Gwnewch gopïau o’r ddogfen fel bod gan pob pâr o ddisgyblion un yr un.
Gweithgareddau:
- Atgoffwch eich disgyblion sut i newid maint a lliw testun (gweler 3.2 ‘creu’) a sut i ychwanegu delweddau. (Cafodd hyn ei ddysgu ym Mlwyddyn 1. Mae’r ffordd i wneud hynny yn amrywio ychydig yn dibynnu ar y rhaglen brosesu geiriau rydych chi wedi’i dewis).
- Agorwch gopi o’ch rhigwm ar ddau ddyfais, un ohonyn nhw’n gysylltiedig gyda’ch taflunydd.
- Ar y ddyfais nad yw’n gysylltiedig gyda’ch taflunydd, dechreuwch newid maint a lliw y geiriau. Nodwch y gallwch olygu’r ddogfen o’r ddau gyfrifiadur.
- Mae parau o ddisgyblion yn cymryd cyfrifiadur eu hunain ac yn agor y ddogfen trwy glicio ar yr eicon cywir.
- Mae’r parau yn golygu lliw a maint y testun yn ôl eu dewis nhw ar yr un pryd cyn ychwanegu rhai delweddau o dan y rhigwm.
Cofiwch:
- Os nad oes gan eich ysgol Purple Mash yna fe fydd angen i chi ddefnyddio G Suite for Education neu Office 365 (Mae’r ddau am ddim a mae cyfrifon gan eich disgyblion drwy Hwb.)
- Fe fyddwch angen copi gwahanol o’r rhigwm ar gyfer pob pâr i weithio arnyn nhw.
- Gallwch gael y ffolder cywir ar agor iddyn nhw ar y cyfrifiadur, ond gadewch iddyn nhw ddarganfod a chlicio ar yr eicon cwir i agor y ddogfen.
Darpariaeth Bellach
Ymgyfarwyddo gyda Chydweithio
Rhowch cymaint o gyfleoedd â phosibl i’ch disgyblion weithio gyda’i gilydd ar waith cydweithredol. Fe fyddan nhw’n defnyddio llawer o feddalwedd prosesu geiriau a chyflwyno yn CA2, ac felly dyma gyfle iddyn nhw ymgyfarwyddo gyda meddalwedd o’r fath.