Menu

Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

3.1

Cyflwyniad

Mae’r elfen hon yn cynwys dau gysyniad cwbl wahanol.

  • Mae ‘cynllunio’ yn cyfeirio at y cynllunio cyn gwneud tasg y byddech yn ei wneud mewn unrhyw bwnc h.y. nodi meini prawf llwyddiant.
  • Ar y llaw arall mae ‘Cyrchu a Chwilio’ yn golygu darganfod gwybodaeth a chyfrwng trwy dechnoleg.

Fframwaith

3.1 - Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

  • Cynllunio sut i gwblhau tasg mewn perthynas â meini prawf llwyddiant penodol
  • Defnyddio allweddeiriau i chwilio am wybodaeth benodol i ddatrys problem, e.e. teipio allweddeiriau i beiriant chwilio ac esbonio sut y gall eu dewis o wefan helpu i ddatrys y broblem.

Sgil wrth Sgil

  • Cynlluniwch waith yn unol â meini prawf llwyddiant.
  • Chwiliwch am wefan gan ddefnyddio allweddeiriau.

Geirfa

meini prawf llwyddiant     cynllunio     chwilio   allweddeiriau    peiriant chwilio

Rhan 1

Cynllunio

Mae’n debygol y bydd eich disgyblion yn cael eu hannog i gynllunio eu gwaith yn naturiol. Does dim angen penodol iddyn nhw ddefnyddio technoleg i wneud hynny. Y peth pwysig ydy eu bod yn mynd trwy’r Meini Prawf Llwyddiant cyn dechrau’r dasg, meddwl am sut y byddan nhw’n sicrhau eu bod yn cyflawni pob maen prawf.

Rhan 2

Cyrchu a Chwilio

Mae peiriannau chwilio yn rhan bwysig o’n bywydau digidol ac fe fydd ein disgyblion yn elwa trwy allu chwilio am wybodaeth yn gyflym ac yn gywir. I wneud hynny, mae angen inni eu cyflwyno i beiriannau chwilio a’u dysgu sut i ddewis allweddair da.

Camau:

  • Trafodwch sut rydyn ni’n darganfod gwefan ar-lein. Gallwn deipio’r cyfeiriad, clicio ar y dolenni neu ddargafnod gwefan trwy beiriant chwilio. Ydy’r disgyblion yn gallu meddwl am unrhyw wefannau sydd yn gallu eich helpu i chwilio am wefannau eraill?
  • Esboniwch, er mai Google ydy’r peiriant chwilio mwyaf adnabyddus efallai, bod yna filoedd o rai eraill, rhai yn benodol ar gyfer plant.
  • Byddwch yn ofalus wrth ddethol peiriant chwilio priodol. Does dim y fath beth â ‘pheiriant chwilio plant’ sydd yn 100% ddiogel. Tra bod y rhan fwyaf yn hidlo cynnwys penodol, mae yna siawns bob amser i bethau lithro drwodd. Yr un gorau rydyn ni wedi ei ddarganfod ydy KidRex (dim hysbysebion ond dim chwiliad delweddau) neu Kiddle (mae ganddo chwiliad delweddau a hysbysebion hefyd). Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael golwg eich hun cyn gofyn i’r disgyblion chwilio.
  • Gofynnwch i’r disgyblion ddarganfod gwefannau penodol trwy deipio eu henwau (e.e. BBC Kids, Cyw, DK Find Out).
  • Yna, gofynnwch iddyn nhw ddarganfod delweddau o bethau neilltuol (e.e. afalau, uncorn, cestyll).
  • Tynnwch luniau fel tystiolaeth.
kids search engine