Menu

Prosesu Geiriau

3.2 - Creu

Cyflwyniad

Mae prosesu geiriau yn un o’r elfennau o ‘Creu’ 3.2. Mae’n golygu defnyddio bysellfwrdd i deipio testun.

Oeddech chi’n gwybod nad ydy 33*% o oedolion yn y DU wedi ysgrifennu unrhyw beth â llaw yn y 6 mis diwethaf? Ac mae yna 41 diwrnod ers i’r oedolyn Prydeinig cyffredin wneud hynny ddiwethaf? (Ffynhonnell: Guardian 2014).

Mae’n ffaith syml bod y rhan fwyaf o ysgrifennu yn cael ei wneud y dyddiau yma drwy deipio, ac eithrio yn ein hysgolion. Dydy hynny ddim yn golygu nad ydy ffurfio llythrennau a llawysgrifen yn sgiliau hanfodol sydd angen cryn dipyn o’ch amser yn y dosbarth, ond does bosib y dylech fod yn neilltuo cyfnod o amser cyffelyb yn dysgu sut i deipio?

Ym Mlwyddyn 2 mae disgwyl i’r disgyblion symud o amgylch y testun gan ddefnyddio’r llygoden i gywiro a golygu eu gwaith, ac i newid maint a lliw eu testun.

Fframwaith

3.2 - Creu

  • creu a golygu cydrannau aml-gyfryngol er mwyn datblygu testun, delwedd, sain, animeiddiad a fideo ar gyfer ystod o dasgau.

Sgil wrth Sgil

  • Newid maint testun ar offeryn prosesu geiriau syml.
  • Dileu testun gan ddefnyddio dileu ac ôl ofod.
  • Defnyddio clo CAPS neu SHIFT i deipio priflythrennau.
  • Defnyddio llygoden i osod y cyrchwr ar fan neilltuol mewn darn o destun i osod neu ddileu testun ar y man hwnnw.
  • Mewnosod gwrthrych e.e. llun neu siâp i offeryn prosesu geiriau syml o gamera neu wefan.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

clo caps     Shift     Dileu      Ôl-ofod      golygu     testun      maint     lliw cyrchwr

Tasg Ffocws

Golygu Testun

Eich prif dasg ym Mlwyddyn 2 ydy rhoi cymaint o gyfleoedd â phosibl i’ch disgyblion ymarfer eu sgiliau teipio. Ond mae yna rai sgiliau penodol sydd yn galw am eu tasg neilltuol eu hunain.

Golygu Testun

  • Gan ddefnyddio rhaglen brosesu geiriau syml (2Write neu J2E) gofynnwch i’ch disgyblion deipio tri ffaith y maen nhw wedi eu dysgu am eich pwnc cyfredol. Tra’n gwneud hynny, dangoswch iddyn nhw:
    • Sut i newid maint a lliw y testun.
    • Sut i ddefnyddio’r bysellau ‘Dileu’ ac ‘Ôl-ofod’ i olygu testun (mae ‘Dileu’ yn golygu’r llythrennau i’r dde, ‘Ôl-ofod’' i’r chwith).
    • Y gwahaniaeth rhwng ‘Clo Caps’ a ‘Shift’.
    • Sut i ddefnyddio’r llygoden i ddewis unrhyw bwynt yn y testun i gywiro camgymeriadau teipio.

Mewnosod Lluniau

  • Mae’r rhan fwyaf o raglenni prosesu geiriau (J2E, Google Slides, Word 365) yn eich galluogi i chwilio am ddelweddau ar-lein o’ch gwaith. Mae hyn yn llawer symlach na chopïo a gludo o dab arall. Dangoswch iddyn nhw sut i wneud hyn a rhowch gyfle iddyn nhw ymarfer.
Deinosoriaid - Ysgrifen

Darpariaeth Bellach

Teipio trwy’r Amser

Fel y crybwyllwyd uchod, mae teipio yn sgil allweddol nad yw’n cael ei ddysgu’n ddigonol yn y rhan fwyaf o ddosbarthiadau Cyfnod Sylfaen. Ymarfer yn rheolaidd ydy’r ateb, felly rhowch ddigon o gyfleoedd iddyn nhw deipio bob wythnos ac atgoffwch nhw’n gyson am y sgiliau uchod. Anogwch nhw i:

  • Teipio tri ffaith yn rheolaidd am eu pwnc cyfredol ac ychwanegu delweddau.
  • Ysgrifennu ffeithiau am eu diddordebau neu eu hoff gymeriadau llyfr.
  • Teipio tudalennau o straeon rydych chi wedi eu darllen fel dosbarth (gan ddefnyddio unrhyw raglen prosesu geiriau).
  • Chwarae gemau teipio ar-lein i gyflymu eu teipio.
  • Ffugio teipio gan ddefnyddio’r bysellfyrddau sydd yn eich ardaloedd chwarae rôl.