Cyflwyno
3.2 - Creating
Gweithgaredd 1
Cyflwyno Cyflwyniadau
Yn y gweithgaredd yma fe fydd y disgyblion yn creu sleid ar unrhyw bwnc o’u dewis nhw (seren, tîm chwaraeon, Pokemon, unrhyw beth!). Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn treulio amser yn canolbwyntio ar y sgiliau digidol sydd eu hangen.
Paratoi:
- Lluniwch sleid enghreifftiol ar unrhyw bwnc gan ddefnyddio Keynote, Google Slides neu PowerPoint. Fe fydd angen teitl yng nghanol y sleid, digon o ddelweddau o’r we ac ychydig o frawddegau gyda ffeithiau neu farn am y pwnc.
Gweithgareddau:
- Dechreuwch trwy ddangos eich cyflwyniad enghreifftiol. Nodwch bod ganddo bennawd mawr, ychydig o ffeithiau a delweddau.
- Dangoswch i’r disgyblion sut i agor y meddalwedd cyflwyno rydych wedi ei ddewis (Slides, PowerPoint neu Keynote) a dechreuwch ffeil newydd.
- Fe fydd angen i chi ddangos y sgiliau canlynol:
- Ychwanegu blwch testun newydd.
- Newid maint y ffont.
- Mewnosod delweddau o’r we.
- Gofynnwch i’r disgyblion am syniadau ar y pwnc y bydden nhw’n ei ddewis ar gyfer cyflwyniad.
- Mae’r disgyblion yn gweithio’n unigol i greu sleid ar eu dewis bwnc.
- Dangoswch yr holl sleidiau i’r dosbarth pan fydd pawb wedi cwblhau’r dasg.
Cofiwch
- Mae’n debygol na fydd gennych ddigon o ddyfeisiadau i bob disgybl yn y dosbarth gael un yr un. Ni ddylid rhannu cyfrifiaduron. Nid dyna ydy diben yr elfen yma. Trefnwch bod un grŵp yn gweithio ar y tro.
Darpariaeth Bellach
Oherwydd y bydd meddalwedd cyflwyno yn dod mor hanfodol yn nes ymlaen, mae’n gyfle da i’ch disgyblion ymarfer eu sgiliau trwy ailadrodd y brif dasg benodol gyda llawer o wahanol bynciau yn ystod Blwyddyn 2. Dyma rai awgrymiadau:
- Sleid amdanyn nhw’u hunain, gyda’u henw ac ychydig o frawddegau disgrifiadol ynghyd â rhai delweddau o’r we o’u hoff bethau.
- Sleid am eu hoff gymeriad animeiddio o ffilmiau Disney / Pixar / Dreamworks.
- Sleid amdanoch chi, eu hathro/athrawes (os ydych yn meiddio!)