Lluniau a Fideos
3.2 - Creu
Gweithgaredd 1
Y Diwrnod Ysgol Gorau Erioed
Yn ystod eu blynyddoedd cynnar fe fydd eich disgyblion wedi cael digon o gyfleoedd i recordio clipiau fideo, ond ni fyddan nhw erioed wedi eu golygu nhw i brosiect mwy. Ym Mlwyddyn 2 fe fyddan nhw’n creu rhaghysbyseb i ffilm – peidiwch â phoeni, mae hyn yn ddigon hawdd os oes gennych iPad.
Paratoi
- Edrychwch i weld faint o brofiad recordio fideo y mae eich disgyblion wedi’i gael cyn hyn. Edrychwch ar weithgareddau Blwyddyn 1 ac ystyriwch os oes angen i’ch disgyblion eu hailadrodd cyn mynd ati i wneud y gweithgaredd yma.
- Gwnewch yn siŵr bod iMovie ar eich iPad (mae hyn am ddim gydag unrhyw iPad a brynwyd yn y pedair blynedd ddiwethaf).
- Chwaraewch o gwmpas gyda’r gweithrediad Rhaghysbysiad trwy gychwyn prosiect newydd a dethol ‘Rhaghysbysiad’. Y ffordd orau i baratoi ydy dilyn y camau isod i greu eich rhaghysbysiad eich hun.
- Chwiliwch am 3 neu 4 rhaghysbysiad ffilmiau priodol ar YouTube i ddangos yn ystod eich cyflwyniad.
Gweithgareddau:
- Dywedwch wrth eich disgyblion am y ffilm newydd wych yma sy’n cael ei ffilmio yn dangos cymaint o hwyl y mae plant yn ei gael yn yr ysgol. Dangoswch eich poster ffilm iddyn nhw.
- Esboniwch eu bod wedi cael cais i greu rhaghysbysiad ar gyfer y ffilm. Gofynnwch beth ydy rhaghysbysiad a dangoswch eich enghraifft chi.
- Dangoswch sut i agor iMovie a chreu prosiect newydd. Dewiswch ‘Trailer’ a dangoswch rai o’r themâu sydd ar gael. Dewiswch un priodol.
- Peidiwch â phoeni am olygu’r credydau, ac eithrio ar gyfer y maes ‘Movie Name’. Cliciwch ar ‘Storyboard’ i ddechrau ffilmio.
- Nodwch sut bod gan pob gofod ar gyfer clip slot amser penodol, a’u bod yn eithaf byr. Mae’r delweddau ar gyfer y clipiau hefyd yn dangos y math o saethiad maen nhw eisiau (tirwedd, agos, canolig, llydan neu gymeriad newydd).
- Ffilmiwch ychydig o glipiau enghreifftiol ac yna, mewn grwpiau, gadewch i’r disgyblion ddechrau creu eu rhaghysbysebion eu hunain.
- Yn dibynnu ar allu eich disgybion, gallwch ddangos iddyn nhw sut i olygu teitlau rhwng clipiau neu eu llenwi ar eu rhan.
- Gwnewch yn siŵr bod gennych amser i wylio’r rhaghysbysebion gyda’ch gilydd fel dosbarth.
Cofiwch:
- Mae fideos yn cael eu gwneud ar gyfer eu gwylio. Gwnewch yn siŵr bod eich disgyblion yn cael cyfle i ddangos eu rhaghysbysebion i‘r dosbarth, neu fel arall efallai y byddan nhw’n teimlo eu bod wedi gwastraffu amser.
- Atgoffwch eich disgyblion o’r rheol euraidd – daliwch yr iPad mewn modd tirwedd, nid mewn modd portread, wrth ffilmio.
Gweithgaredd 2
Golygu Ffotograffau
Mae’r rhan fwyaf o’r delweddau a welwn mewn print neu ar y teledu y dyddiau yma wedi cael eu newid yn ddigidol (neu ‘photoshopped’). Mae hon yn dasg sydd angen cryn dipyn o sgil a hyfforddiant proffesiynol, ond rydyn ni’n mynd i roi cynnig ar fersiwn syml yn y gweithgaredd Blwyddyn 2 yma!
Paratoi
- Y ffordd orau i baratoi ydy dilyn y camau isod i olygu eich ffotograff eich hun cyn i chi ddysgu’r gweithgaredd yma.
- Mewn gwers flaenorol gofynnwch i’r disgyblion dynnu ychydig luniau o ddeinosor tegan, tegan meddal neu ddoli gyda chefndir gwyn gwag (dalen fawr o bapur). Yna fe ddylen nhw edrych ar eu ffotograffau a dewis yr un gorau a dileu’r gweddill. Yna fe ddylech uwchlwytho ac arbed y ddelwedd er mwyn cael mynd ato o gyfrifiadur.
Gweithgaredd
- Dangoswch sut i fewngofnodi i raglen sydd yn eich galluogi i beintio dros ffotograffau (2Publish 'Book Cover' yn Purple Mash, J2E5 trwy Hwb).
- Uwchlwythwch ffotograff o’r cyfrifiadur
- Yn 2Publish cliciwch ar yr arwydd plws ar gornel dde uchaf eich ‘Book Cover’.
- Yn J2E5 cliciwch ar yr eicon delwedd ar y brig, yna’r plws coch ar yr ochr dde ac yna ar ‘Choose File’.
- Defnyddiwch yr offer peintio i ychwanegu cefndir i’r ffotograff (e.e. glaswellt ac awyr). Po fwyaf y dychymyg, y gorau.
- Gofynnwch i’r disgyblion olygu eu ffotograffau eu hunain, ond byddwch yn barod i’w helpu i uwchlwytho ffotograffau.
Golygu Lluniau Gyda Purple Mash
Golygu Lluniau gyda J2E
Cofiwch:
- Golygu ffotograffau ydy’r sgil yr ydyn ni’n canolbwytnio arno yma. Gallwch helpu i uwchlwytho ffotograffau, er anogwch nhw i wneud cymaint ag sy’n bosibl eu hunain.
Darpariaeth Bellach
Cadw’r Camerâu’n Brysur
Tra bydd y ddau weithgaredd hir yna yn cymryd cryn dipyn o waith, fe ddylai’r disgyblion fod yn tynnu lluniau ac yn recordio fideos a llais ar bob cyfle trwy gydol Blwyddyn 2.
Ffotograffau
- Anogwch y disgyblion i dynnu lluniau’n rheolaidd. Mae’n debygol y byddwch angen fffotograffau o’r rhan fwyaf o weithgareddau i ddibenion tystiolaeth felly gallai ‘Monitor Ffotograffau’ dosbarth wythnosol fod yn ddefnyddiol.
- Arbedwch ddetholiad o ffotograffau gyda chefndir gwyn fel bod y disgyblion yn cael cyfle i geisio golygu’r cefndir yn ystod eu hamser annibynnol.
Fideos
- Yn ystod gwersi ymarfer corff sydd yn cynnwys grwpiau yn gwneud gweithgareddau gwahanol ac yn symud o un i’r llall, lluniwch ‘Orsaf Recordydd Fideo’ lle mae’r disgyblion yn creu fideos o’r disgyblion mewn grwpiau eraill. Mae hyn yn gweithio hyd yn oed yn well os ydyn nhw’n dangos y fideo ar unwaith i’r disgybl sydd yn y fideo fel bod modd iddi/o adolygu eu perfformiad a gwella ar yr ymdrech nesaf.
- Ffilmio eu partner yn esbonio sut maen nhw’n datrys cwestiwn mathemateg.
- Bob dydd Gwener, mae’r disgyblion yn ffilmio ei gilydd yn esbonio beth oedd rhan gorau eu hwythnos. Atgoffwch nhw i stopio ffilmio ar ôl 15 eiliad ar y mwyaf.
- Rhowch gyfle iddyn nhw greu rhaghysbysebion yn annibynnol, unwaith y byddan nhw weid dysgu sut i wneud hynny wrth gwrs.
Recordio Llais
- Dangoswch i’ch disgyblion sut i ddefnyddio ap recordio llais ar yr iPads (e.e. Recordydd Llais). Gofynnwch iddyn nhw recordio sgwrs eu grŵp wrth drafod gweithgaredd neilltuol.
- Mae apiau recordio llais fel Yakit Kids a Book Creator yn addas i unrhyw bwnc (ac mae plant wrth eu bodd yn eu defnyddio!) Gwnewch yn siŵr bod digon o iPads ar gael i’r disgyblion ddefnyddio apiau o’r fath mor aml â phosibl