Menu

Datrys Problemau a Modelu

4.1

Cyflwyniad

Pan fyddwch yn trafod y Fframwaith newydd gydag athrawon cynradd, maen nhw bob amser yn siarad yn bryderus am godio. Ond dydy’r term codio ddim hyd yn oed yn ymddangos yn y Fframwaith! Yr hyn sydd yn ymddangos ydy’r elfen yma – ‘Datrys Problemau a Modelu’.

Mae’r elfen yma yn cynnwys adnabod problem, ei rhannu yn ddarnau y mae modd eu trin, nodi patrymau a datrys y broblem.

Rydyn ni’n defnyddio codio fel un dull o ddysgu sgiliau’r elfen yma, a does dim angen bod yn bryderus. Mewn gwirionedd, mae athrawon y Cyfnod Sylfaen wedi bod yn dysgu codio am flynyddoedd trwy ddysgu sut i greu a dilyn cyfarwyddiadau a rheoli’r Bee-Bot.

Ym Mlwyddyn 2 fe fyddan nhw’n creu rheolau ar gyfer gêm ac yn creu codau.

Fframwaith

4.1 - Datrys Problemau a Modelu

  • Egluro i eraill sut mae datrysiad yn gweithio, e.e. esbonio dyluniad gêm maes chwarae syml a phrawf, gan gywiro unrhyw faterion sy'n codi
  • Rhagweld canlyniad dilyniant syml o gyfarwyddiadau, e.e. rhagweld beth fyddai'n digwydd pe na bai'r cyfarwyddiadau'n cael eu dilyn yn gywir
  • creu datrysiad syml sy'n profi syniad, e.e. rhagweld beth fyddai'n digwydd pe bai'n mynd o'i le, megis y dilyniant o ddeffro i fynd i'r ysgol.

Sgil wrth Sgil

  • Rhaglennu crwydrwr i symud i leoliad neilltuol a disgrifio’r troadau gan ddefnyddio troadau chwarter a gyda’r cloc ac yn groes i’r cloc.
  • Rhaglennu crwydrwr i symud i leoliad neilltuol a defnyddio cyfarwyddiadau prifol.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

troi    ymlaen    yn ôl     tu ôl     o flaen     wrth ochr     nesaf at     chwith     de   botwm     crwydrwr     BeeBot

Cyngor

Meddwl yn Gyfrifiadurol gyda'r Cyfnod Sylfaen

Os ydych yn athro/athrawes Cyfnod Sylfaen, mae’n debyg y bydd gennych brofiad eisoes o ddysgu nifer o’r sgiliau meddwl yn gyfrifiadurol sydd ynghlwm gyda chodio. Efallai nad ydych wedi meddwl amdanyn nhw fel gweithgareddau codio, ond mae’n debygol eich bod wedi dysgu gyda’r Bee-Bot ac wedi dysgu’r disgyblion sut i ddilyn cyfarwyddiadau. Mae’r ddau beth yn weithgareddau codio.

Mae’r adran hon yn rhoi rhywfaint o gyngor cyffredinol ar wahanol dechnegau codio cyn i chi gychwyn ar y gweithgareddau ar gyfer eich grŵp blwyddyn isod.

Cyflwyniad

Mae meddwl yn gyfrifiadurol yn y Cyfnod Sylfaen yn ymwneud yn bennaf gyda chyfarwyddiadau a rhoi cyfarwyddiadau i symud pobl neu wrthrychau o un lle i’r llall.  Ym mhob gweithgaredd, fe fydd un person yn rhoi’r cyfarwyddiadau ac fe fydd person neu wrthrych arall yn symud yn unol â hynny.

Y tri prif ’beth’ yr ydym yn eu rheoli trwy godio yn y Cyfnod Sylfaen ydy robotiaid (e.e. Bee-Bot), pobl eraill neu gymeriad ar sgrin. Fe fyddwn yn edrych ar bob un o’r rhain yn eu tro.

Symud robot (e.e. Bee-Bot)

Mae’r rhan fwyaf o athrawon Cyfnod Sylaen yn gyfarwydd gyda Bee-Bot, ond ydych chi’n ei ddefnyddio’n effeithiol i ddysgu’r sgiliau angenrheidiol?

Yn y cyfnod cynnar yma, y pethau pwysig i ganolbwyntio arnyn nhw ydy:

  • Sut i fewnbynnu cyfarwyddiadau i’ch robot (h.y. beth mae’r gwahanol fotymau yn eu gwneud)?
  • Sut i symud ymlaen, yn ôl, troi i’r chwith ac i’r dde?
  • Defnyddio arddodiaid ac, yn dibynnu ar allu, pwyntiau cwmpawd.
  • Adnabod a defnyddio symbolau saeth.

Wrth ddefnyddio Bee-Bot,mae’n ddefnyddiol gwybod bod pob symudiad ymlaen neu yn ôl yn 15cm o hyd. Mae hyn yn wybodaeth ddefnyddiol am ddau reswm:

  • Gallwch greu grid o sgwariau 15cm x 15cm ar y llawr gan ddefnyddio tâp. Yna gall y disgyblion godio’r Bee-Bot i amrywiol leoliadau oddi mewn i’r grid.
  • Gallwch wneud prennau mesur Bee-Bot 15cm o hyd (allan o gardfwrdd neu gyda lego/ciwbiau) a gall y disgyblion eu defnyddio i ragweld faint o symudiadau ymlaen y mae’r Bee-Bot eu hangen i gyrraedd ei gyrchfan heb gymorth grid.

Symud Pobl

Does dim gwell ffordd o gyflwyno codio na gofyn i’r disgyblion roi cyfarwyddiadau i athro/athrawes neu i ffrind er mwyn eu symud o gwmpas yr ystafell. Mae hyn y helpu eu sgiliau iaith, geirfa a hyder wrth iddyn nhw orfod gweiddi eu cyfarwyddiadau yn uchel, ond mae hefyd yn dod â chysyniadau meddwl yn gyfrifiadurol yn fyw mewn ffordd nad ydy chwarae gêm codio ar iPad yn ei wneud.

Symud Cymeriad Ar-Sgrin

Mae yna gannoedd o gemau codio ar gael ar iPads neu ar-lein, y rhan fwyaf ohonyn nhw am ddim ac o safon da. I’r disgyblion iau, fe fyddem yn awgrymu apiau syml fel Bee-Bot a Kodable (neu Botio, ap codio yn yr iaith Gymraeg!). Tra bydd gadael iddyn nhw chwarae gyda’r apiau yn unig yn helpu i ddatblygu eu sgiliau, mae yna dasgau penodol i flwyddyn ar gael isod sydd yn ymestyn y dysgu.

coding game lightbot
coding games

Tasgau Ffocws

Cymryd y Camau Nesaf

Create a Game

Esbonio i eraill sut mae datrysiad bwriadol yn gweithio

  • Trefnwch y dosbarth yn grwpiau o 4 a rhowch gylchoedd hwla, bagiau ffa, cylchoedd taflu, peli o amrywiol feintiau a chonau iddyn nhw.  Gofynnwch iddyn nhw ddylunio gêm gan ddefnyddio unrhyw rai o’r offer, neu’r cyfan. Rhaid cael rheolau clir i’r gêm (h.y. pwyntiau neu’r amser cyflymaf). Rhowch 20 munud iddyn nhw greu gêm, yna gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu/teipio’r rheolau cyn cyflwyno’r gêm i weddill y dosbarth.

Rhagweld canlyniad dilyniant syml o gyfarwyddiadau.

  • Ysgrifennwch set o gyfarwyddiadau i Bee-Bot yn cynnwys y termau ‘gyda’r cloc’ ‘yn erbyn y cloc’ a’r pedwar cyfarwyddyd prifol (G, D, Dw, Gor). Dylai’r cyfarwyddiadau dywys y Bee-Bot drwy grid, yn croesi dros sawl delwedd. Mae’r disgyblion yn edrych ar eich cyfarwyddiadau ac yn gweithio allan pa wrthrychau y bydd y Bee-Bot yn eu croesi. Yna maen nhw’n profi eu rhagfynegiant trwy godio’r Bee-Bot.

Darpariaeth Bellach

Creu Codau Eraill

Fel gyda phob darpariaeth estynedig, y nod ydy rhoi cyfleoedd rheolaidd i’r disgyblion ymarfer eu sgiliau.

Unwaith y bydd y disgyblion wedi gorffen unrhyw un o’r tasgau penodol uchod, gellir addasu’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddigon hawdd i ddarpariaeth estynedig. Er enghraifft:

  • Ni ddylid cyfyngu ar reoli dyfeisiadau i Bee-Bot a thegannau.  Dangoswch iddyn nhw sut i reoli rhai dyfeisiadau go iawn fel llungopïwr neu gloc larwm digidol.
  • Rhowch gyfleoedd iddyn nhw esbonio rheolau gemau. Gofynnwch iddyn nhw ddod â gemau bwrdd i’r ysgol er mwyn iddyn nhw allu esbonio’r rheolau i ddisgyblion eraill, neu gofynnwch iddyn nhw esbonio rheolau gêm gyfrifiadur y maen nhw’n ei chwarae yn eu hamser rhydd.
  • Trefnwch helfeydd trysor ‘Gogledd, De, Dwyrain, Gorllewin’ lle maen nhw’n cyfeirio ei gilydd at ‘drysor’ gan ddefnyddio’r pedwar gair yna yn unig.
  • Sicrhau bod y Bee-Bot a’r gridiau/matiau ar gael i’r disgyblion eu defnyddio yn eu hamser eu hunain. (Gwnewch yn siŵr bod y batri yn gweithio!)