Menu

Llythrennedd Gwybodaeth a Data

4.2

Cyflwyniad

Mae ‘Llythrennedd a Gwybodaeth Data' yn elfen ddiddorol. Mae’n canolbwyntio ar gasglu, didoli a chyflwyno data.

Gall yr elfen yma fod yn ymdrech i athrawon CA2 wrth iddyn nhw ddelio gyda chronfeydd data a thaenlenni, ond i chi yn y Cyfnod Sylfaen mae’n debygol y byddwch yn darganfod eich bod eisoes yn dysgu’r rhan fwyaf o’r sgiliau yma trwy eich gwaith Rhifedd.

Fframwaith

4.1 - Llythrennedd Gwybodaeth a Data

  • Casglu data, a'i drefnu'n grwpiau, e.e. casglu data drwy bleidleisio neu sortio a chyfleu hynny gyda lluniau neu wrthrychau
  • Tynnu gwybodaeth o dablau a graffiau syml, e.e. ateb cwestiynau ar bapur graff
  • Cofnodi data a gesglir mewn amrywiaeth o fformatau priodol, e.e. rhestrau, tablau, graffiau bloc a phictogramau.

Sgil wrth Sgil

  • Darganfod gwybodaeth o ffynhonnell neilltuol, ei ddefnyddio i ateb cwestiynau syml.
  • Casglu a recordio gwybodaeth ar raglen graffio syml (e.e. pictogram, siart bloc, siart cyfrif).
  • Nodi mathau o feysydd mewn cronfa ddata.
  • Rhoi gwybodaeth mewn cofnod o raglen crofna ddata syml gyda rhywfaint o gymorth.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

grŵp     didoli    casglu     pictogram     cyfrif     bloc     cronfa ddata     maes

Gweithgaredd 1

Amser Arolwg

Mae’r gweithgaredd yma’n debyg iawn ym Mlwyddyn 2 i’r un ym Mlwyddyn 1. Mae angen i’r disgyblion gasglu gwybodaeth trwy siart cyfrif, yna creu graff bloc a pictogram gyda’r data a gasglwyd.

Dylai’r disgyblion greu siart cyfrif (ar bapur) a chasglu atebion i gwestiynau fel:

  • Hoff ffrwyth, mân fwystfil, lliw y disgyblion etc.
  • Sut mae disgyblion yn dod i’r ysgol (car, cerdded, bws, beic).
  • Beth wnaethon nhw ddarganfod ar helfa mân fwystfilod.

 

Graff Purple Mash

 

Yna, mewngofnodwch i feddalwedd pictogram neu siart bloc syml fel 2Count / 2Graph (Purple Mash) neu JIT (J2e in Hwb). Dylai disgyblion greu pictogram gan ddefnyddio data maen nhw wedi’i gasglu mewn siartiau cyfrif yn y dosbarth.

Ar gyfer y pictogramau, fe fydd angen i’r disgyblion ddarganfod llun i fynd gyda phob bar a’i osod i’r rhif cywir. Os ydyn nhw’n creu pictogram neu siart bloc, dylai’r disgyblion nodi’r enwau meysydd eu hunain.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu cofnodi gwybodaeth ar siart cyfrif.
  • Rwy’n gallu creu pictogram a siart bloc i ddangos fy nata.

Elfennau Fframwaith Eraill

2.3 – Storio a Rhannu

Fe fydd angen i’r disgyblion arbed eu gwaith a dewis enw ffeil da.

3.2 - Creu

Mae’r dasg yma yn cynnwys creu gan fod yna gyfuniad o ddelweddau a thestun.

3.3 – Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanasesiad arferol.

Geirfa

siart cyfrif     pictogram     siart bloc     meysydd    teitl

Syniadau Amrywio

Mae’n amlwg y gall yr arolwg fod ar unrhyw bwnc, ond cadwch brif agweddau’r gweithgaredd fel ag y maen nhw fel bod y disgyblion yn creu siartiau cyfrif, pictogramau a siartiau bloc.

Gweithgaredd 2

Darllen Grafff

Dyma sgil rydych wedi bod yn ei ddysgu yn eich gweithgareddau Rhifedd am flynyddoedd ac felly ni ddylai greu unrhyw anhwaster i chi. Cyflwynwch graff syml i’ch disgyblion yn dangos data fel:

  • Hoff anifeiliaid anwes 20 o blant.
  • Nifer yr adar o bob rhywogaeth a nodwyd yn ystod sesiwn gwylio adar.
  • Lliwiau ceir ym maes parcio’r ysgol.

Fe fydd angen i’r disgyblion ateb cwestiynau fel:

  • Pa anifail anwes oedd fwyaf poblogaidd?
  • Faint o geir gwyn oedd yn y maes parcio?
  • Wnaethon nhw weld mwy o adar du neu wylanod y môr?

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu darganfod data mewn graff.

Elfennau Fframwaith Eraill

Dim

Geirfa

siart cyfrif     pictogram     siart bloc     meysydd

Syniadau Amrywio

Ailadroddwch y gweithgaredd yn aml gyda gwahanol fathau o dablau a graffiau a gyda gwahanol ddata.

Darpariaeth Bellach

Arolygon Personol

Gadewch iddyn nhw greu eu harolygon eu hunain yn ystod eu cyfnod dysgu annibynnol. Mae modd iddyn nhw ddefnyddio’r un meddalwedd pictogram ag y gwnaethon nhw yn ystod y dasg benodol, neu argraffwch a lamineiddiwch siartiau cyfrif a phictogramau gwag iddyn nhw gael creu eu harolygon eu hunain.