Llythrennedd Gwybodaeth a Data
4.2
Gweithgaredd 1
Amser Arolwg
Mae’r gweithgaredd yma’n debyg iawn ym Mlwyddyn 2 i’r un ym Mlwyddyn 1. Mae angen i’r disgyblion gasglu gwybodaeth trwy siart cyfrif, yna creu graff bloc a pictogram gyda’r data a gasglwyd.
Dylai’r disgyblion greu siart cyfrif (ar bapur) a chasglu atebion i gwestiynau fel:
- Hoff ffrwyth, mân fwystfil, lliw y disgyblion etc.
- Sut mae disgyblion yn dod i’r ysgol (car, cerdded, bws, beic).
- Beth wnaethon nhw ddarganfod ar helfa mân fwystfilod.
Yna, mewngofnodwch i feddalwedd pictogram neu siart bloc syml fel 2Count / 2Graph (Purple Mash) neu JIT (J2e in Hwb). Dylai disgyblion greu pictogram gan ddefnyddio data maen nhw wedi’i gasglu mewn siartiau cyfrif yn y dosbarth.
Ar gyfer y pictogramau, fe fydd angen i’r disgyblion ddarganfod llun i fynd gyda phob bar a’i osod i’r rhif cywir. Os ydyn nhw’n creu pictogram neu siart bloc, dylai’r disgyblion nodi’r enwau meysydd eu hunain.
Gweithgaredd 2
Darllen Grafff
Dyma sgil rydych wedi bod yn ei ddysgu yn eich gweithgareddau Rhifedd am flynyddoedd ac felly ni ddylai greu unrhyw anhwaster i chi. Cyflwynwch graff syml i’ch disgyblion yn dangos data fel:
- Hoff anifeiliaid anwes 20 o blant.
- Nifer yr adar o bob rhywogaeth a nodwyd yn ystod sesiwn gwylio adar.
- Lliwiau ceir ym maes parcio’r ysgol.
Fe fydd angen i’r disgyblion ateb cwestiynau fel:
- Pa anifail anwes oedd fwyaf poblogaidd?
- Faint o geir gwyn oedd yn y maes parcio?
- Wnaethon nhw weld mwy o adar du neu wylanod y môr?
Darpariaeth Bellach
Arolygon Personol
Gadewch iddyn nhw greu eu harolygon eu hunain yn ystod eu cyfnod dysgu annibynnol. Mae modd iddyn nhw ddefnyddio’r un meddalwedd pictogram ag y gwnaethon nhw yn ystod y dasg benodol, neu argraffwch a lamineiddiwch siartiau cyfrif a phictogramau gwag iddyn nhw gael creu eu harolygon eu hunain.