Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da
1.1
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Rhannu Delweddau a Data
-
- Lluniwch set o reolau ar gyfer rhannu delweddau a’u troi yn boster/fideo/cân.
- Casglwch set o ddelweddau a gwybodaeth, rhai a fyddai’n iawn i’w rhannu heb ganiatâd, a rhai na fyddai’n iawn (e.e. llun o fynydd vs llun o ffrind neu ‘Mae Ifan yn hoffi Pizza vs ‘Mae Megan Jones yn byw ym Mhenygroes’). Yna gall y disgyblion eu rhoi mewn grwpiau ‘Gallu Rhannu’, ‘Dim yn gallu Rhannu’.
Strategaeth Cyfrinair
- Mae Gwers 1, Blwyddyn 3 o’r cynlluniau dysgu Diogelwch ar-lein SWGfL yn delio gyda ‘Chyfrineiriau Pwerus’.
- Defnyddiwch howsecureismypassword.net i geisio meddwl am gyfrineiriau cryf a chofiadwy. Pwy sydd yn gallu dyfeisio cyfrinair cofiadwy a fyddai’n cymryd yr amser hiraf i’w ddatrys?