Menu

Iechyd a Lles

1.2

Cyflwyniad

Mae ‘Iechyd a Lles’ yn ymwneud yn bennaf gyda chydbwyso amser sgrin gydag amser chwarae mwy egnïol a sichrau bod y disgyblion yn deall bod gan rai technolegau gyfyngiadau oedran.

Ym Mlwyddyn 3 rydyn ni’n canolbwyntio ar gyfyngiadau oedran ar y cyfryngau cymdeithasol a gemau fideo ac effeithiau gwylio neu ddefnyddio cynnwys amhriodol.

Fframwaith

1.2 - Iechyd a Lles

  • cydnabod cyfyngiadau oedran ac addasrwydd cyfryngau a dyfeisiau digidol, e.e. lleoli sgorau PEGI a dechrau eu deall a chanllawiau cyfyngiadau oedran
  • pennu effeithiau corfforol ac emosiynol chwarae gemau a gwylio cynnwys amhriodol.

Geirfa

priodol     cyfyngiad oedran     cyfyngedig   anaddas     graddfeydd PEGI

Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.

20161118_141908

Adnodd Diogelwch Ar-Lein SWGfL

Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.

Gweithgareddau

Yn anffodus, dydy cynlluniau gwaith SWGfL ar gyfer Blwyddyn 3 ddim yn cynnwys dysgu am gyfryngau cyfyngedig i oedran ac felly fe fydd rhaid i chi sicrhau eich bod yn cynnwys yr elfen yma ar wahân. Dyma rai gweithgareddau y gallech eu hystyried:

  • Dangoswch gardiau gyda delweddau o gêm gyfrifiadur ar gyfer gwahanol raddfeydd oedran (gan sicrhau nad oes dim amhriodol ar y delweddau). Gofynnwch i’r disgyblion benderfynu i ba oedran y dylid cyfyngu pob gêm cyn dangos y raddfa gywir iddyn nhw.
  • Arweiniwch drafodaeth dosbarth ar beth sydd yn gwneud i blant ifanc fod eisiau chwarae gemau sydd wedi’u bwriadu ar gyfer pobl hŷn (e.e. pwysau gan gymheiriaid, eisiau bod fel oedolion, dim yn ymwybodol o gyfyngiadau oedran, dangos eu hunain i’w cymheiriaid, rhieni yn rhoi caniatâd etc) a pham bod hyn yn ddrwg i blant.
  • Trafodwch beth arall sydd â chyfyngiadau oedran ar wahân i gemau. Efallai y byddan nhw’n meddwl ar unwaith am fideos ac efallai cyfryngau cymdeithasol, ond nodwch bod hyn yn ymestyn i bethau eraill mewn bywyd (yfed, gyrru, pleidleisio, gadael ysgol, tân gwyllt). Maen nhw yn bodoli i gadw plant yn ddiogel. Mae cyfyngiadau ar gemau yn gwneud yn union yr un fath.