Hawliau Digidol, Trwyddedu a Pherchnogaeth
1.3
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Yn anffodus dydy cynlluniau gwaith SWGfL ddim yn cynnwys hawlfraint a sut i’w gydnabod, felly fe fydd rhaid i chi sicrhau eich bod yn trafod yr elfen yma ar wahân. Ond, dydy’r elfen yma ddim yn cael y prif sylw ym Mlwyddyn 3 ac felly dylai fod yn hawdd i’w gynnwys. Dyma rai gweithgareddau y gallech eu hystyried:
- Pan fo’r disgyblion yn chwilio ar-lein am ddelweddau ar gyfer tasg arall (e.e. '3.2b Cyflwyno'), amlygwch y delweddau sydd â dyfrnodau ar eu traws. Trafodwch pam bod y dyfrnodau yno (h.y. i atal pobl rhag defnyddio’r delweddau heb dalu i’r perchennog). Perswadiwch y disgyblion i beidio â defnyddio delweddau o’r fath yn eu gwaith gan y byddai hynny yn ffurf ar ddwyn.
- Gofynnwch i’r disgyblion roi cydnabyddiaeth i lyfrau neu wefannau maen nhw wedi eu defnyddo wrth ymchwilio. Does dim angen rhestr fanwl o ffynonellau – fe ddaw hynny’n nes ymlaen.