Ymddygiad Ar-lein a Seiberfwlio
1.4
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Cymariaethau a Gwahaniaethau rhwng Cyfathrebiadau Ar-lein ac All-lein
- Mae Gwers 2, Blwyddyn 3 o’r Adnawdd Diogelwch Ar-Lein Cymru SWGfL yn delio gyda ‘Fy Nghymuned Ar-lein’. Mae’r agwedd yma’n cael ei thrafod hefyd yn eu 5ed gwers ym Mlwyddyn 3, ‘Ysgrifennu Negeseuon E-bost Da’.
Ysgrifennu Negeseuon Clir a Phriodol
- Mae Gwers 4, Bwyddyn 3 o gynlluniau dysgu Diogelwch Ar-lein SWGfL yn delio gyda ‘Dangos Parch Ar-lein’. Mae’r agwedd yma’n cael ei thrafod hefyd yn eu 5ed gwers ym Mlwyddyn 3, ‘Ysgrifennu Negeseuon E-bost Da’.
- Dyma agewedd mae’n amlwg y gellir ei phwysleisio pan fyddwch yn dysgu ysgrifennu negeseuon e-bost yn 2.1 ‘Cyfathrebu’.
Nodi Strategaethau i ddelio gyda Seiberfwlio
- Dydy’r agwedd yma ddim yn cael ei thrafod yn ddigonol yng ngwersi Blwyddyn 3 SWGfL (er bod gwers Blwyddyn 4 ‘Grym Geiriau’ yn berthnasol).
- Ewch i thinkuknow.co.uk i gael amrediad o wersi ac adnoddau gwrth-seiberfwlio.