Menu

Cyfathrebu

2.1

Cyflwyniad

Mae technoleg wedi newid byd cyfathrebu yn ddramatig yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n parhau i’w newid yn gyflym. Mae’n bwysig bod ein disgyblion yn anfon negeseuon e-bost ac yn gwneud galwadau fideo, ac mae cyn bwysiced eu bod yn deall manteision technolegau o’r fath a phryd y dylid eu defnyddio neu beidio.

Fframwaith

2.1 - Cyfathrebu

  • cyfnewid cyfathrebiad ar-lein syml mewn un iaith neu fwy, e.e. e-bost neu alwad fideo
  • esbonio manteision cyfathrebu'n electronig, e.e. arbed amser (yn enwedig o ran anfon pethau'n bell ar unwaith), arbed adnoddau, effeithlonrwydd cost, gallu i gael sawl defnyddiwr o wahanol wledydd yn cyfathrebu ar yr un pryd, hawdd rhannu/arbed/storio/tagio cynnwys.v

 

Sgil wrth Sgil

  • Creu neges e-bost yn annibynnol, rhoi cyfeiriad e-bost, teipio neges ac anfon e-bost.
  • Gyda chefnogaeth, atodi ffeil i e-bost ac agor atodiad a dderbyniwyd.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

cyfathrebu     e-bost     cyfeiriad     anfon    derbyn   agor    ateb   atodiad

Gweithgaredd 1

E-bostio’r Athro/Athrawes

Mae’r gweithgaredd yma’n cymryd yn ganiataol bod y disgyblion wedi cael rhywfaint o brofiadau cyfyngedig o anfon negeseuon e-bost yn eu blynyddoedd cynharach, ond eu bod bellach yn barod i ddod yn e-bostwyr profiadol trwy ysgrifennu yn y ffurf gywir ac atodi dogfennau.

Ebost Athrawes

Paratoi:

  • Sicrhewch bod gan pob disgybl fynediad i e-bost ysgol diogel. Gall hyn fod trwy Hwb, G Suite for Education neu system e-bost ffug yn Purple Mash. Os nad ydy hyn wedi’i greu eto yn eich ysgol, atgoffwch eich Arweinydd Technoleg neu eich Pennaeth o’i bwysigrwydd
  • Anfonwch neges e-bost at eich disgyblion yn gofyn cwestiynau am eu hwythnos/penwythnos/gwyliau.
  • Ysgrifennwch e-bost drafft (i’w anfon yn nes ymlaen) yn diolch iddyn nhw am eu neges ac yn gofyn iddyn nhw anfon darn o waith a wnaethon nhw mewn gwers flaenorol (unrhyw waith wedi’i arbed).

Gweithgareddau:

  1. Dylai’r disgyblion fewngofnodi i’w e-bost  (trwy Google, Hwb neu Purple Mash). Os ydyn nhw’n graddio i system uwch (e.e. o Purple Mash i G Suite for Education) treuliwch fwy o amser yn llywio i’r wefan a mewngofnodi’n gywir.
  2. Gadewch i’r disgyblion ddarganfod eich e-bost a’i ddarllen. Rhowch enghraifft o sut i ateb gan drafod beth sydd yn mynd i bob blwch a sut i osod e-bost (Annwyl..., Cynnwys y Neges, Oddi Wrth/Cofion, Enw)
  3. Rhowch gyfle iddyn nhw ateb. Cadwch lygad ar eich mewnflwch i weld os ydy negeseuon wedi’u gosod allan yn gywir. Os na, awgrymwch bod y disgybl yn anfon ateb arall gan ddefnyddio’r fformat cywir. Gall y rhai sydd wedi’i wneud yn gywir helpu’r disgyblion eraill.
  4. Anfonwch yr ail e-bost at bawb, gadewch iddyn nhw ei ddarllen.
  5. Dangoswch sut i atodi ffeil o’r cyfrifiadur, gweinydd neu gwmwl a rhowch gyfle iddyn nhw ateb gydag atodiad.

Cofiwch

  • O ran e-bost, mae angen i chi wybod pa brofiad blaenorol sydd gan eich dosbarth. Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn disgwyl i ddisgybl Blwyddyn 3 fod wedi bod yn anfon negeseuon e-bost yn annibynnol ym Mlwyddyn 2 ac yn cyfrannu at negeseuon e-bost hyd yn oed yn gynharach. Wrth gwrs, efallai nad ydy hynny’n wir yn eich dosbarth chi. Os felly, efallai y byddai’n syniad i chi edrych ar weithgareddau Blwyddyn 2 i ddechrau, cyn symud ymlaen i’r gweithgaredd Blwyddyn 3 yma.
  • Mae angen i chi bwysleisio agwedd e-ddiogelwch wrth ddysgu am e-bost. Mae angen iddyn nhw ddeall pa mor bwysig ydy ysgrifennu negeseuon e-bost priodol a pheidio â defnyddio geiriau annymunol.
  • Oni bai eich bod eisiau cael eich boddi gan negeseuon e-bost oddi wrth y plant bob gyda’r nos, esboniwch mai tasg yn y wers ydy hon ac nad ydych yn edrych nac yn ateb negeseuon e-bost yn aml, ac felly does dim pwynt eich e-bostio ar ôl ysgol. Ymhen amser, efallai y gallwch ddysgu’r disgyblion i’ch e-bostio o dro i dro gyda chwestiynau’n berthynol i’r ysgol, ond mae hyn yn anhebygol ar yr oedran ifanc yma.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu mewngofnodi a darllen fy negeseuon e-bost.
  • Rwy’n gallu ateb negeseuon e-bost a chynnwys atodiad.

Elfennau Fframwaith Eraill

1.1 – Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da

Trafodwch bwysigrwydd peidio â rhannu gwybodaeth breifat ar-lein gyda dieithriaid. Mae hwn yn gyfle da hefyd i ymgorffori gwers ar ddiogelwch cyfrinair (gweler tudalen lawn ar ‘1.1. Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da’).

1.2 – Iechyd a Llesiant

Mae gan nifer o gwmnïau e-bost a chyfryngau cymdeithasol gyfyngiadau oedran. Trafodwch y rhain tra’n esbonio pam bod e-bost yn cael ei redeg gan ysgol yn ddiogelach nag e-bost cyhoeddus (gardd gaerog, ni all y rhai o’r tu allan e-bostio cyfrifon ysgol etc).

1.4 – Ymddygiad ar-lein a Seiberfwlio

Trafodwch fanteision ac anfanteision cyfathrebu ar-lein.

3.1 – Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

Gall y dosbarth feddwl am y Meini Prawf Llwyddiant am e-bost da tra’n edrych ar eich enghraifft chi (eich e-bost gwreiddiol).

3.3 – Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanwerthusiad arferol.

Geirfa

cyfathrebu     e-bost    cyfeiriad   anfon   derbyn    agor   ateb   atodiad     

Syniadau Amrywio

Os oes gennych Purple Mash yna mae gan yr ap 2Email swyddogaeth defnyddiol sydd yn galluogi athrawon i anfon negeseuon oddi wrth unrhyw gymeriad o’u dewis nhw. Gallech anfon negeseuon e-bost oddi wrth gymeriad llyfr, tywysydd o drip ysgol diweddar neu oddi wrth seren/person   enwog. Fe fyddai hyn yn gyfle perffaith hefyd i drafod e-ddiogelwch a phwysigrwydd peidio â rhoi manylion preifat i ddieithriaid, hyd yn oed os mai Rapsgaliwn ydy’r dieithryn!  

Gweithgaredd 2

E-bostio’r Tywysydd

Mae’r gweithgaredd yma yn estyniad ar y gweithgaredd cyntaf gan fod y disgyblion yn anfon negeseuon e-bost. Yr unig wahaniaeth y tro yma ydy nad ydyn nhw’n ateb neges e-bost rydych chi wedi ei hanfon, ond yn hytrach yn ysgrifennu at y tywysydd oedd gyda nhw ar drip ysgol diweddar. Mae hyn yn golygu trafod cyfeiriadau e-bost a sut i’w teipio.

Paratoi:

  • Ewch ar drip!
  • Ysgrifennwch neges diolch e-bost enghreifftiol i’r tywysydd.
Ebost tywysydd

Gweithgareddau:

  1. Esboniwch y dasg i’r disgyblion. Trafodwch beth fydd angen ei roi yn y neges e-bost (e.e. diolch, darnau gorau, beth rydyn ni wedi ei ddysgu etc).
  2. Y tro yma dydyn nhw ddim yn eich ateb chi, maen nhw’n anfon neges newydd. Fe fydd angen iddyn nhw deipio cyfeiriad e-bost.
  3. Rhannwch gyfeiriad e-bost i:
    • Enw neu ffugenw’r person.
    • @ = 'at'.
    • Cwmni sydd yn anfon yr e-bost.
    • '.com', '.org', '.co.uk' – yn dweud wrthyn ni pa fath o gwmni ydyn nhw neu o lle maen nhw’n dod.
  4. Esboniwch sut mae e-bost yn gweithio, eu bod yn gadael ein cwmni e-bost ni, yna ymlaen i gwmni e-bost y derbynnydd ac yna i ddyfais y derbynnydd.
  5. Gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu neges e-bost am eu trip at y tywysydd, ond ei anfon atoch chi, yr athro/athrawes, fel eich bod yn gallu dewis y rhai gorau i’w hanfon ymlaen.

Cofiwch

  • Mae’n amlwg nad ydy hi’n syniad da cael 30 o’ch disgyblion yn anfon negeseuon e-bost at dywysydd yn ddirybudd! Mewn gwirionedd ni fyddai hyn yn bosibl yn y rhan fwyaf o ysgolion gan mai dim ond i eraill yn yr ysgol y mae modd iddyn nhw anfon negeseuon e-bost ('sandboxed'). Dyna pam mae’r disgyblion yn cyfeirio eu negeseuon e-bost atoch chi, ac wedyn gallwch chi ddewis un neu ddau i’w hanfon at y tywysydd.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod pam bod hwn yn amgylchiad da i anfon negeseuon e-bost. Mae’n neges hanner ffurfiol ac felly dydy e ddim yn achlysur addas i anfon neges destun neu alwad fideo. Hefyd, rydych chi eisiau diolch yn gyflym i’r tywysydd ac felly mae’n gyflymach na llythyr.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu adnabod cyfeiriad e-bost a deall bod ganddo rannau gwahanol.
  • Rwy’n gallu anfon neges e-bost newydd.

Elfennau Fframwaith Eraill

1.1 - Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da

Trafodwch bwysigrwydd peidio â rhannu gwybodaeth breifat ar-lein gyda dieithriaid. Mae hwn yn gyfle da hefyd i ymgorffori gwers ar ddiogelwch cyfrinair (gweler tudalen lawn ar ‘1.1. Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da’).

1.2 – Iechyd a Llesiant

Mae gan nifer o gwmnïau e-bost a chyfryngau cymdeithasol gyfyngiadau oedran. Trafodwch y rhain tra’n esbonio pam bod e-bost yn cael ei redeg gan ysgol yn ddiogelach nag e-bost cyhoeddus (gardd gaerog, ni all y rhai o’r tu allan e-bostio cyfrifon ysgol etc).

1.4 – Ymddygiad ar-lein a Seiberfwlio

Trafodwch fanteision ac anfanteision cyfathrebu ar-lein.

3.1 – Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

Gall y dosbarth feddwl am y Meini Prawf Llwyddiant am e-bost da tra’n edrych ar eich enghraifft chi (eich e-bost gwreiddiol).

3.3 – Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanwerthusiad arferol.

Geirfa

cyfathrebu    e-bost    cyfeiriad    anfon     ffugenw    gweinydd

Syniadau Amrywio

Gall yr ymarferiad e-bost yma gynnwys unrhyw sefyllfa lle mae’r disgybion yn anfon negeseuon e-bost at rhywun yn yr ysgol. Efallai eu bod yn anfon neges e-bost at y Pennaeth i ofyn am ragor o amser chwarae neu am ganiatâd i fynd ar drip ysgol. Efallai eu bod yn anfon neges e-bost at eu hen athro/athrawes yn sôn am eu blwyddyn ysgol newydd.

Gweithgaredd 3

Galwadau Fideo

Dydy galwadau fideo ddim y dull hawsaf i’w ddysgu i ddisgyblion am gyfathrebu ar-lein. Yn aml mae hidlwyr Awurdodau Lleol yn blocio mynediad i Skype a Facetime mewn ysgolion, a gall yr angen i gael rhywun ar ben arall yr alwad fod yn hunllef os ydy pob plentyn yn mynd i wneud galwad bersonol.

skype

Yr ateb syml ydy cyfyngu Galwadau Fideo i weithgaredd dosbarth cyfan, gan ddefnyddio rhai o’r awgrymiadau isod. Fe fydd angen dadflocio Skype neu Facetime, ond dim ond ar gyfer cyfrifon athrawon. Gan fod Galwadau Fideo yn cael eu crybwyll yn benodol yn y Ffframwaith ni ddylai fod gan eich Awdurdod Lleol broblem gyda rhoi caniatâd i hyn.

Awgrymiadau ar gyfer Gweithgareddau

  • Pan fyddwch ar drip ysgol, treuliwch amser ar FaceTime neu Skype gyda dosbarth arall yn yr ysgol yn dweud wrthyn nhw sut hwyl rydych chi’n ei gael. Mae hyn yn gweithio hyd yn oed yn well ar drip preswyl.
  • Trefnwch ‘Skype Dirgel'. Mae hyn yn cynnwys trefnu galwad fideo rhwng eich dosbarth a dosbarth arall mewn ardal, sir neu wlad arall (o fewn parth amser tebyg). Mae’r dosbarthiadau yn gofyn cwestiynau i’w giydd ac yn ceisio dyfalu ym mha ardal neu wlad mae’r dosbarth arall yn byw. Gallwch ddarganfod ysgol i wneud Skype Dirgel gyda nhw trwy wefan  Mystery Skype Microsoft.
  • Treuliwch amser FaceTime gyda Siôn Corn! Os oes gennych wirfoddolwr sydd yn fodlon gwisgo fel Siôn Corn, gofynnwch iddyn nhw wneud galwad fideo gyda’r dosbarth cyfan cyn y Nadolig i ofyn cwestiynau ac i’w hatgoffa i fod yn dda.

Meini Prawf

  • Rwy’n deall beth ydy galwad fideo.
  • Rwy’n gallu cymryd rhan mewn galwad fideo grŵp neu ddosbarth.

Elfennau Fframwaith Eraill

1.1 – Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da

Trafodwch bwysigrwydd peidio â rhannu gwybodaeth breifat ar-lein gyda dieithriaid.

1.2 – Iechyd a Llesiant

Mae gan nifer o gwmnïau gyfyngiadau oedran (13 oed ydy Skype). Trafodwch y rhesymau am hyn.

1.4 – Ymddygiad ar-lein a Seiberfwlio

Trafodwch fanteision ac anfanteision cyfathrebu ar-lein a sut i ymateb os ydych yn cael ei bwlio trwy alwadau fideo neu negeseuon ar-lein.

Geirfa

galwad llais      fideo     cysylltu