Menu

Storio a Rhannu

2.3

Cyflwyniad

"Ydych chi’n siŵr eich bod wedi ei arbed?" "Ym mha ffolder wnaethoch chi ei arbed?" "Pa gyfrifiadur wnaethoch chi ei ddefnyddio yn y wers ddiwethaf?" Sawl munud sydd wedi cael ei wastraffu mewn sawl gwers ar sgyrsiau o’r fath? Mae dysgu eich disgyblion i arbed yn gywir yn sgil bwysig, ac fe fydd hefyd yn arbed oriau o rwystredigaeth i chi ac iddyn  nhw yn y tymor hir!

Ym Mlwyddyn 3 fe ddylai disgyblion fod yn meddwl am enwau ffeil priodol a gallu darganfod ac agor gwaith maen nhw wedi ei arbed eisoes. Fe ddylen nhw fod yn arbed yn lleol ar y cyfrifiadur, ar y gweinydd ac yn dechrau ymgyfarwyddo gydag arbed at y cwmwl.

Fframwaith

2.3 - Storio a Rhannu

  • Arbed ffeiliau i leoliad penodol gan ddefnyddio enw ffeil priodol, e.e. dewis enw ffeil a fyddai’n gyfleus i chwilio amdano yn nes ymlaen
  • Deall pwysigrwydd arbed gwaith o dro i dro i beidio â'i golli.

Sgil wrth Sgil

  • Dewiswch enwau ffeil priodol, agor gwaith, golygu ac arbed eto.
  • Dechrau creu ac arbed ffeiliau yn y cwmwl.
  • Gyda chefnogaeth, uwchlwythwch i yrrwr ar-lein a chreu cod QR, URL byr neu ddull rhannu arall.

(Addaswyd o'r EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

arbed    agor   gweinydd   cwmwl   arbed yn lleol   enw ffeil    ffolder   rhannu     cod QR  

Arbed Mewn Manylder

Enwi Ffeiliau

Esboniwch iddyn nhw bod angen i enw ffeil ddweud dau beth wrthych chi. Yn bwysicaf, fe ddylai nodi’n glir beth ydy’r gwaith, fel bod modd ei adnabod yn hawdd yn y dyfodol. Yn ail, fe ddylai fod ag enw neu flaenlythrennau’r plentyn/plant sydd wedi’i greu. Ceisiwch ddyfeisio enwau i ffeiliau sydd yn bodloni’r meini prawf yma heb fod yn rhy hir.

Arbed yn Lleol, ar y Gweinydd ac yn y Cwmwl

Dysgwch y gwahaniaeth iddyn nhw rhwng y tri math yma o arbed.

  • Mae arbed yn lleol yn golygu bod y ffeil wedi’i harbed ar yr un ddyfais neilltuol yna.
  • Ewch â’r disgyblion i weld gweinydd yr ysgol (y cyfrifiadur mawr swnllyd yna sydd mewn cwpwrdd yn rhywle!). Esboniwch bod ffeiliau sydd wedi’u harbed ar y gweinydd yn cael eu cadw ar hwnnw a bod modd agor y ffeiliau o unrhyw ddyfais yn yr ysol.
  • Mae arbed yn y cwmwl yn cynnwys gwefan fel OneDrive, Google Drive Dropbox, J2E neu Purple Mash. Gallwch agor ffeiliau ar unrhyw ddyfais, yn unrhyw le. Fe ddylai plant fod yn dechrau arbed yn y cwmwl eu hunain. Fe fydd rhai angen cymorth.

Rhannu

Pa bleser sydd yna mewn gwneud fideo neu ddylunio poster os nad oes neb yn ei weld? Fe ddylai pob tasg fideo gorffenedig gael ei ddangos i’r dosbarth o leiaf. Fe ddylid arddangos pob poster. Mae arbed yn y cwmwl yn galluogi disgyblion i rannu gyda’i rhieni hefyd, gan ddefnyddio codau QR. Dysgwch nhw sut i wneud hyn i arbed gorfod creu 30 o godau QR!

Dydy arbed ddim yn anodd i’w addysgu na’i ddysgu. Dangoswch iddyn nhw yn union sut i wneud hynny ac fe fyddan yn gwneud hynny’n berffaith drwy’r flwyddyn!