Cyflwyno
3.2 - Creu
Gweithgaredd 1
Creu Cyflwyniad
Rhyw fersiwn o "Lluniwch PowerPoint ar Awstralia / Llewod / Sêr" fu’r wers TGC nodweddiadol i’r rhan fwyaf o athrawon am gyfnod llawer rhy hir. Yn anffodus, mae nifer yn syrthio i’r fagl o dybio bod eu disgyblion yn gwybod sut i ddefnyddio PowerPoint heb i neb ddysgu’r sgliau iddyn nhw erioed. Canolbwyntiwch ar agweddau newydd a diddorol o’r dechnoleg ac fe ddaw PowerPoint neu Google Slides yn werth chweil unwaith eto!
Paratoi:
- Y dechnoleg ydy canolbwynt y gweithgaredd yma felly gwnewch yn siŵr bod y disgyblion naill ai wedi ymchwilio i’w pwnc mewn gwersi blaenorol neu bod ganddyn nhw daflenni ffeithiau clir o’u blaenau.
- Lluniwch ffolder fel bod y disgyblion yn gallu arbed eu gwaith.
Gweithgaredd:
- Dechreuwch trwy ddangos cyflwyniad enghreifftiol. Fe ddylech drafod y gwahanol fathau o gyfryngau (testun, delweddau, fideo, sain).
- Penderfynwch fel dosbarth beth fydd strwythur eich cyflwyniad (e.e. os mai Awstralia ydy’r pwnc, un sleid ar gyfer cyflwyniad, un ar gyfer hanes, un ar gyfer bwyd, un ar gyfer chwaraeon etc).
- Trafodwch y gwahanol feddalwedd Cyflwyno sydd ar gael (PowerPoint, Google Slide, Prezi etc) a sut y gall gwahanol feddalwedd fod yn addas i wahanol gynulleidfaoedd.
- Dangoswch iddyn nhw sut i ychwanegu blychau testun a delwedd at eu sleid teitl.
- Ychwanegwch, ad-drefnwch a dilewch sleidiau ychwanegol, newid lliw’r cefndir a dyluniad ar gyfer gwahanol sleidiau.
- Ychwanegwch ffeiliau sain a fideos o’r cyfrifiadur (neu yn uniongyrchol o YouTube o ran fideos).
- Gwnewch yn siŵr eu bod yn cael cyfle i gyflwyno eu cyflwyniad terfynol i gynulleidfa (hyd yn oed os mai gweddill y dosbarth ydy’r gynulleidfa honno). Diben cyflwyniadau ydy eu cyflwyno!
Cofiwch
- Yn dibynnu ar brofiad blaenorol eich disgyblion, efallai bod pawb yn gweithio ar yr un meddalwedd (e.e. PowerPoint) ond yn y pendraw y nod ydy rhoi hyder i’r disgyblion ddewis pa feddalwedd cyflwyno i’w ddefnyddio.
- Pwysleisiwch y neges nad ydyn ni’n argraffu popeth, dim ond y gwaith gorffenedig rydyn ni eisiau ei arddangos. Diben cyflwyniadau ydy eu cyflwyno ac nid eu hargraffu.
- Trafodwch y gwahaniaeth rhwng arbed ar y cyfrifiadur (yn lleol) ac ar y gweinydd (rhwydwaith). Efallai y gallech fynd â nhw i weld gweinydd yr ysgol er mwyn iddyn nhw allu gwerthfawrogi beth yn union ydy e.
Gweithgaredd 2
Mosaig Castell
Er mwyn ymarfer mewnosod delweddau, eu hailfeintio a’u tocio, fe fydd y disgyblion yn creu mosaig o gastell yn y dasg yma, gan ddefnyddio delweddau o gestyll Cymru fel y blociau adeiladu.
Paratoi:
- Does dim angen unrhyw waith paratoi ar gyfer y dasg yma. Ond, fe fyddai’n ddefnyddiol pe bai’r disgyblion yn gwybod enwau rhai o gestyll niferus Cymru.
Gweithgaredd:
- Edrychwch ar rai enghreifftiau o’r mathau o fosaigau y byddan nhw’n eu creu
- Agorwch raglen gyhoeddi (Publisher, PowerPoint, Google Slides) a phorwr rhyngrwyd (Chrome, Firefox, Edge).
- Chwiliwch ar-lein am ddelweddau o gestyll Cymru, copïwch a gludwch nhw i’r cyflwyniad. Fe fydd angen llawer o luniau.
- Symudwch, ailfeintiwch a thociwch y delweddau (rhaid dysgu hyn!) i greu delwedd o gastell, wedi’i wneud allan o’r holl ddelweddau llai.
- Argraffwch i’r argraffydd cywir.
Golygu Lluniau yn Google Slides
Cofiwch
- Peidiwch â chymryd yn ganiataol eu bod yn gwybod sut i ailfeintio heb aflunio’r ddelwedd (o’r corneli) a sut i docio. Dangoswch sut i wneud hyn a chael rhai disgyblion sydd eisoes yn hyderus i helpu’r rhai sy’n cael trafferth.
- Mae dewis argraffydd i argraffu ohono yn rhywbeth mae’n rhaid inni ei ddangos i’r disgyblion, neu fel arall fyddan nhw fyth yn gwybod sut i wneud hynny.