Lluniau a Fideos
3.2 - Creu
Gweithgaredd 1
Fideo Tri Darn
Y Fideo Tri Darn fyddai un o’r gweithgareddau cyntaf y buaswn yn eu dysgu ym Mlwyddyn 3, gan fod modd defnyddio’r sgiliau a ddysgir dro ar ôl tro i ddangos beth maen nhw wedi ei ddysgu wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi. Mae’n cynnwys creu fideo gyda thri chlip byr yn delio gydag un pwnc. Er enghraifft, efallai eu bod yn ffilmio tri chlip yn trafod eu gwybodaeth blaenorol am bwnc, neu dri chlip am rhywbeth maen nhw wedi ei ddysgu yn ystod gwers neu efallai tri chlip ar sut mae eu barn wedi newid oherwydd beth maen nhw wedi ei ddysgu.
Paratoi:
- Pan fyddwch yn dysgu’r gweithgaredd yma am y tro cyntaf, rhaid canolbwyntio ar y sgiliau technoleg. Felly gwnewch yn siŵr bod gan y disgyblion dri ffaith syml yn barod i’w rhoi yn y fideo.
- Mae eich ysgol angen system i gael fideo oddi ar yr iPad (neu dabled) i’w arbed ar y gweinydd neu’r cwmwl. Y dewisiadau cyffredin ydy Google Drive, J2E neu OneDrive.
Gweithgaredd:
- Mewn parau neu drioedd, gan ddefnyddio’r ap camera ar yr iPad, ffilmiwch dri chlip. Fe ddylai pob clip fod rhwng 5 – 15 eiliad o hir ac yn cynnwys disgybl yn adrodd ffaith ar un pwnc. Rhaid i bob disgybl gael tro ar ffilmio a rhaid i bob disgybl siarad ar y camera.
- Dechreuwch brosiect iMovie newydd, dewiswch Movie, nid Trailer, a dewiswch y tri chlip a ffilmiwyd.
- Ar ddechrau’r prosiect, ychwanegwch ffotograff o’r hyn rydych wedi bod yn siarad amdano. Gellir tynnu hyn gyda chamera neu ei ddarganfod ar-lein a’i arbed i’r Camera Roll.
- Ar ddiwedd y prosiect, defyddiwch y botwm ffotograff yn iMovie i dynnu hunanlun o’r plant yn y grŵp.
- Gallech ychwanegu tasg ychwanegol drwy ofyn iddyn nhw fewnosod testun ar frig y ffotograff agoriadol fel teitl a hyd yn oed ychwanegu cerddoriaeth fel cefndir. Neu gallech adael hyn hyd nes y byddan nhw’n fwy profiadol wrth greu Fideos Tri Darn.
- Allforiwch y ffilm i’r Camera Roll.
Cofiwch
- Tair rheol bwysig wrth wneud fideo:
- Rhaid gwneud pob fideo gan ddal yr iPad ar ei ochr (tirwedd). Dysgwch y plant na ddylen nhw fyth ffilmio mewn portread gan mai dim ond rhan fechan o’r sgrin y bydd hynny yn ei lenwi.
- Gan fod iMovie yn ychwanegu pontio rhwng clipiau, mae’n arfer da i ddysgu’r disgyblion i adael eiliad rhwng dechrau ffilmio a siarad. Yn yr un modd fe ddylen nhw ychwanegu eiliad rhwng peidio siarad a stopio’r fideo.
- Gwnewch yn siŵr bod y person camera yn sefyll yn agos at y person sy’n siarad er mwyn recordio’r llais yn glir. Dydy meicroffonau iPads ddim yn gryf iawn.
- Arbedwch ddelwedd o chwiliad ar y we yn eich Camera Roll trwy ddal eich bys yn llonydd ar y ddelwedd a dewis ‘Arbed Delwedd’. Mae hon yn sgil holl bwysig i’w dysgu gan ei bod yn angenrheidiol ar gyfer cymaint o brosiectau ar yr iPad.
- Fe fydd angen i chi symud y fideo o’r iPad i gyfrif gweinydd eich ysgol neu’r cwmwl (OneDrive, GoogleDrive). Fe fydd bywyd cymaint yn haws i chi os byddwch, yn ystod y tymor cyntaf, yn hyfforddi’r disgyblion i wneud hynny eu hunain!
Creu Fideo Tair Ffaith
Gweithgaredd 2
Animeiddio Stop-Symudiad
Mae disgyblion wrth eu bodd gyda’r gweithgaredd animeiddio stop-symudiad ac mae’n weithgaredd nad oes angen unrhyw sgiliau technoleg cymhleth. Mae modd cael canlyniadau ardderchog mewn gwers neu ddwy yn unig.
Paratoi:
- Gwnewch yn siŵr bod ap stop-symudiad wedi’i osod (argymhellir Stop Motion Studio a Lego Movie, er nad ydy Lego Movie bellach ar gael yn yr App Store) a bod digon o Lego ar gael.
Gweithgareddau:
- Agorwch eich ap stop-symudiad a dechreuwch brosiect newydd.
- Gosodwch yr iPad wysg ei ochr (tirwedd) fel ei fod yn aros yn unionsyth. Efallai y bydd angen i chi ei osod yn erbyn llyfrau os nad oes gennych stand dal clawr.
- Tynnwch lun o’ch ardal adeiladu gwag (llawr neu fwrdd)
- Symudwch y person neu ddarn o Lego cyntaf ychydig i’r golwg, tynnwch lun arall.
- Ailadroddwch cam 4 dro ar ôl tro, gan symud darn neu ychwanegu un arall rhwng pob llun.
- Ar ôl gorffen, dewiswch y cyflymdra rydych eisiau ar gyfer y fideo ac yna ei allforio i Camera Roll.
Animeiddio Stop-Symudiad gyda Lego
Cofiwch
- Atgoffwch nhw i beidio â brysio. Dydyn nhw ddim eisiau gweld eu llaw yn ymddangos mewn llun sydd wedi’i dynnu ar frys. Dangoswch iddyn nhw sut i ddileu un llun os ydy hynny’n digwydd.
- Ar rai apiau, gallwch ychwanegu teitl, cerddoriaeth a hidlwr.
- Fe fydd angen i chi symud y fideo o’r iPad i gyfrif gweinydd eich ysgol neu’r cwmwl (OneDrive, GoogleDrive). Fe fydd bywyd cymaint yn haws i chi os byddwch, yn ystod y tymor cyntaf, yn hyfforddi’r disgyblion i wneud hynny eu hunain!
Sut i Greu Animeiddiad Stop-Symudiad
Gweithgaredd 3
Sioe Sleidiau Fideo
Yn ôl pob sôn cafodd mwy o luniau eu tynnu y llynedd nag yn ystod holl hanes ffotograffau analog. Yn yr ysgol, rydyn ni’n dysgu ein disgyblion i dynnu nifer o luniau ar dripiau ysgol ac yn ystod digwyddiadau arbennig. Ond sut y dylen nhw gael eu cyflwyno a’u harddangos? Mae dyddiau’r hen albwm lluniau wedi hen fynd. Sgil amlgyfryngau defnyddiol ydy rhoi’r lluniau gorau hynny mewn sioe sleidiau fideo gan ychwanegu cerddoriaeth a theitlau.
Paratoi:
- Gwneud yn siŵr bod y disgyblion yn tynnu casgliad da o luniau yn ystod trip ysgol neu ddigwyddiad arbennig.
Gweithgaredd:
- Gan ddefnyddio’r un iPad ag a ddefnyddiwyd i dynnu’r lluniau, agorwch iMovie a dewiswch yr holl luniau rydych eu heisiau yn y sioe sleidiau.
- Tapiwch ar y lluniau a llusgwch y bar melyn i leihau hyd yr amser y byddan nhw ar y sgrin.
- Gofynnwch iddyn nhw arbrofi gyda chynnau a diffodd yr effaith Ken Burns. Pan fyddwch yn tapio ar lun fe fyddwch yn gweld y "Ken Burns Enabled" yn y gornel dde gwaelod.
- Ychwanegwch deitl i’r llun cyntaf ac ychwanegwch gerddoriaeth gefndir.
- Allforiwch i Camera Roll.
Creu Sioe Sleidiau Gyda iMovie
Cofiwch
- Ychwanegu cerddoriaeth ar y diwedd un. Mae hwn yn arferiad da i’w ddilyn oherwydd fe fydd y gerddoriaeth yn tawelu’n awtomatig y tu ôl i unrhyw sain ar y fideo.
- Fe fydd angen i chi symud y fideos o’r iPad i gyfrif gweinydd eich ysgol neu’r cwmwl (OneDrive, GoogleDrive). Fe fydd bywyd cymaint yn haws i chi os byddwch, yn ystod y tymor cyntaf, yn hyfforddi’r disgyblion i wneud hynny eu hunain!