Menu

Gwerthuso a Gwella

3.3

Cyflwyniad

Mae gwerthuso a gwella gwaith yn gonglfaen addysgu a dysgu. I feistrioli’r elfen yma o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, does dim angen i chi o angenrhaid ddefnyddio technoleg. Gall eich disgyblion ddefnyddio’r technegau hunanasesu ac asesiadau cymheiriaid y maen nhw’n gyfarwydd â nhw.

Ond, wedi dweud hynny, mae yna ffyrdd ardderchog o ddefnyddio technoleg yn effeithiol ar gyfer hunanasesu ac asesiadau cymheiriaid. Dyma rai awgrymiadau isod.

Fframwaith

3.3 - Gwerthuso a Gwella

  • rhoi barn am eu gwaith eu hunain ac awgrymu gwelliannau, e.e. canfod camgymeriadau a defnyddio dulliau golygu i wella eu gwaith eu hunain.

Sgil wrth Sgil

  • Nodi a chywiro camgymeriadau yn eu gwaith.
  • Gwneud sylwadau ar eu gwaith eu hunain a gwaith eraill.

Geirfa

hunanasesu     asesu cymheiriaid     camgymeriad     cywiro     gwneud sylw     gwella     cryfder

Gweithgareddau

  1. Gadewch iddyn nhw dynnu llun o’u gwaith sydd yn mynd i gael ei hunanasesu a’i fewnosod yn Explain Everything ar yr iPad. Yna fe ddylen nhw nodi hynny a recordio troslais yn rhoi eu hadborth.
  2. Os ydy’r gwaith wedi cael ei deipio ar Office 365 neu Google Drive, gofynnwch wrth y disgyblion i ddefnyddio’r swyddogaeth Sylw i ychwanegu sylwadau am yr hyn yr hoffen nhw ei wella.
  3. Gofynnwch iddyn nhw wneud Fideo Tri Darn (gweler 3.2c 'Ffotograffau a Fideos') yn cyflwyno dau beth yr oedden nhw’n eu hoffi am eu gwaith ac un peth y bydden nhw’n hoffi ei wella. Fe ddylen nhw gynnwys llun neu glip fideo o’u gwaith.
explain everything
iMovie