Cronfeydd Data
4.2 - Llythrennedd Gwybodaeth a Data
Gweithgaredd 1
Cronfa Ddata Ganghennog
Fe fydd y rhan fwyaf o athrawon yn gyfarwydd gyda’r math cyntaf o gronfa ddata, y gronfa ddata ganhennog. Fel rheol mae’r math yma o gronfa ddata yn cynnwys 4-8 o drychfilod wedi’u didoli trwy gyfrwng cyfres o gwestiynau. Mae pob ateb yn arwain at gwestiwn pellach hyd nes nad oes ond un gwrthrych ar ôl. Gellir creu’r math yma o gronfa ddata gan ddefnyddio J2Data (J2E), 2Question (Purple Mash) neu yn gorfforol gyda chardiau a saethau.
Paratoi:
- Paratowch gronfa ddata ganghennog syml gyda 4 creadur (e.e. arth, dolffin, eryr, cath) ar J2Data neu 2Question.
- Lluniwch ail gronfa ddata ganghennog gyda 4 trychfil ar y gwaelod ond gyda phob gofod cwestiwn yn wag. Gallwch hefyd greu fersiwn 8 trychfil, unwaith eto gyda gofod cwestiynau gwag ar gyfer eich disgyblion mwyaf galluog.
Gweithgaredd:
- Dangoswch ddelweddau o’r pedwar anifail sydd yn eich enghraifft o gronfa ddata ganghennog. Gofynnwch i un disgybl ddewis anifail a’i ddangos i’r dosbarth heb i chi ei weld. Gofynnwch y cwestiynau sydd ar y gronfa ddata ganghennog i ddarganfod pa anifail sydd wedi cael ei ddewis.
- Ailadroddwch yr enghraifft uchod neu, yn well fyth, dangoswch y gronfa ddata ar y sgrin a rhowch gyfle i’r disgyblion chwarae mewn parau.
- Esboniwch eich bod wedi dewis cwestiwn fyddai’n rhannu’r pedwar yn ddau bâr, ac yna dewiswch gwestiwn pellach i rannu’r parau hynny.
- Dangoswch ddelweddau o’r pedwar anifail arall. Gofynnwch i’r disgyblion i feddwl-paru-rhannu cwestiwn a fyddai’n eu rhannu yn ddau bâr.
- Dangoswch dwy ddelwedd o drychfilod gwahanol iawn. Gofynnwch yn ôl pa briodoleddau y gellir grwpio’r trychfilod? (e.e. adennydd, coesau, antenau, darnau o’r corff)
- Rhannwch eich cronfa ddata ganghennog, pedwar mân fwystfil, sydd wedi hanner ei adeiladu. Gofynnwch i’r disgyblion ysgrifennu cwestiynau i lenwi’r bylchau. Ailadroddwch gydag 8 trychfil ar gyfer eich disgyblion mwy galluog. Esboniwch iddyn nhw y dylai’r cwestiwn cyntaf eu rhannu yn ddau grŵp o bedwar.
- Rhowch gyfle i’r disgyblion chwarae gyda chronfeydd data canghennog ei gilydd.
Cofiwch
- Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu Purple Mash neu J2E eto, mae’n hen bryd iddyn nhw wneud hynny. Mae’r J2E am ddim trwy Hwb a gellir talu tanysgrifiad i gael Purple Mash. Soniwch am hyn wrth yr Arweinydd Technoleg neu’r Pennaeth cyn gynted â phosibl!
- Gellir gwneud y gweithgaredd yma heb dechnoleg, gan ddefnyddio cardiau mân fwystfilod ac ysgrifennu’r cwestiynau. Fe fyddwch yn dal i gyflawni elfen y Fframwaith.
Gweithgaredd 2
Top Trumps Minion
Mae symud o gronfeydd data canghennog i gronfeydd data llawn yn ddryslyd weithiau. Mae’r gweithgaredd yma yn helpu’r disgyblion i ddeall beth ydy cronfa ddata, gan ddefnyddio math o gronfa ddata sydd yn wybyddus i’r rhan fwyaf o blant - Top Trumps!
Paratoi:
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfforddus gydag esbonio beth ydy cronfa ddata a’ch bod yn gallu defnyddio’r termau ‘Record/Cofnod’ a ‘Meysydd’.
- Lluniwch dempled Top Trumps mewn Word neu Google Docs (dau flwch, pob un yn llenwi ychydig dan chwarter y sgrin. Sgwâr mawr y tu mewn ar gyfer llun, 5 neu 6 o flychau testun ar gyfer y gwahanol briodoleddau. Cliciwch y botwm ‘Cerdyn Enghraifft’ ar gyfer delwedd).
Cerdyn Top Trumps Minion
Gweithgaredd:
- Esboniwch mai casgliad ydy cronfa ddata o gardiau cofnodi, pob un am wahanol eitem (person, anifail, planhigyn neu beth). Mae gwybodaeth ar bob cofnod am yr eitem sydd yn y gwahanol feysydd (e.e. enw, oedran, taldra, cryfder).
- Gofynnwch i’r disgyblion lle mae’n debygol y maen nhw wedi gweld cardiau cofnodi o’r fath o’r blaen. Mae’n debyg bydd rhywun yn crybwyll Top Trumps neu gardiau pêl droed. Cadarnhewch bod set o gardiau Top Trumps yn gronfa ddata.
- Chwaraewch gêm o Top Trumps mewn parau. Os oes gennych ddigon o setiau, gorau oll. Os na, chwaraewch Disney Top Trumps ar-lein ar y wefan Dan Dare (ni fydd yn gweithio ar iPads). Gofynnwch gwestiynnau fel "Pa record ydy hwn?" neu "Pa faes fyddwch chi’n chwarae?" yn gyson.
- Esboniwch y byddwch yn creu eich set eich hun o gardiau Top Trumps. Defnyddiwch y Minion Maker i greu cymeriad, arbed y ddelwedd i’r cyfrifiadur a’u mewnosod i’ch templed Top Trumps.
- Rhowch enw i’r Minion, llanwch ei feysydd ac mae’ch cerdyn wedi’i gwblhau.
- Unwaith y bydd pob disgybl wedi gwneud 1 neu 2 o gardiau, argraffwch ychydig o setiau ar gardfwrdd, eu lamineiddio a chwarae!
Cofiwch
- Mae’r gweithgaredd yma’n defnyddio llawer o sgiliau technoleg gwahanol, yn cynnwys copïo a gludo, arbed i’r cyfrifiadur ac argraffu. Os nad ydy’ch disgyblion yn hyderus mewn sgiliau o’r fath, dydy hwn ddim yn weithgaredd cyflym!
- Atgoffwch nhw yn gyson am bwysigrwydd y termau ‘Cofnod/Record’ a ‘Meysydd’.
Gweithgaredd 3
Cronfa Ddata Rygbi
Diben y gweithgaredd olaf yma ydy rhoi cyfle i’r disgyblion ychwanegu cofnodion i gronfa ddata ddigidol. Mae’n weithgaredd digon syml ond mae angen cryn dipyn o waith paratoi. Mae yna ddull cyflymach ar Purple Mash i athrawon sydd ddim yn hyderus (gweler y syniad amrywiad).
Paratoi:
- Gwnewch yn siŵr bod gan y disgyblion gyfrifon mewngofnodi ar gyfer meddalwedd cronfa ddata (Purple Mash neu J2Data)
- Lluniwch gronfa ddata mewn 2Investigate neu J2Data yn cynnwys meysydd ar gyfer Safle, Oedran, Taldra, Capiau, Ceisiau, Pwyntiau, Clwb.
- Ychwanegwch gofnod ar gyfer un chwaraewr fel enghraifft.
- Arbedwch y gronfa ddata mewn ffeil y gall eich disgyblion ei hagor (e.e. Ffeil Dosbarth) neu ei gosod fel 2Do os yn Purple Mash.
Sut i Greu Cronfa Ddata (Purple Mash)
Sut i Greu Cronfa Ddata (J2Data)
Gweithgaredd:
- Mae’r disgyblion yn agor y gronfa ddata, ac os yn J2Data, yn arbed fersiwn o dan eu henw eu hunain. Os ydy’r gwaith wedi’i osod fel 2Do yn Purple Mash, yna does dim angen gwneud hyn.
- Mae’r disgyblion yn ychwanegu eu cofnodion eu hunain o chwaraewyr rygbi Cymru gan ddefnyddio Google i ddarganfod eu cofnodion maes.
- Gofynnwch i’r disgyblion chwilio’r gronfa ddata gyda chwestiynau fel "Pa chwaraewr sydd wedi sgorio’r nifer mwyaf o geisiau?", "Faint o chwaraewr y Scarlets sydd yn nhîm Cymru?"
Cofiwch
- Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu Purple Mash neu J2E eto, mae’n hen bryd iddyn nhw wneud hynny. Mae’r J2E am ddim trwy Hwb a gellir talu tanysgrifiad i gael Purple Mash. Soniwch am hyn wrth yr Arweinydd Technoleg neu’r Pennaeth cyn gynted â phosibl!
- Mae’n debygol na fydd gennych ddigon o ddyfeisiadau i bob disgybl yn y dosbarth gael un yr un. Peidiwch â chael eich temptio i rannu cyfrifiaduron. Nid dyna ydy diben yr elfen yma. Os ydy dyfeisiadau yn gyfyngedig, trefnwch i un grŵp weithio ar y tro.
- Edrychwch ar y gweithgaredd cronfa ddata cydweithio yn 2.2 ‘Cydweithio’ am syniadau ynghylch sut i wneud hwn yn weithgaredd cydweithio.