Menu

Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da

1.1

Cyflwyniad

Mae ‘Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da’ yn golygu cadw ein data personol yn ddiogel ar-len. Ym Mlwyddyn 4 rydyn ni’n canolbwyntio ar ôl troed digidol, amddiffyn ein hunain rhag lladrad hunaniaeth a’r risgiau wrth lawrlwytho a gosod.

Fframwaith

1.1 - Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da

  • deall sut i ddiogelu eu hunain rhag cael eu hunaniaeth wedi'i ddwyn ar-lein, e.e. dechrau adnabod y risg o negeseuon e-bost twyllodrus a chyfathrebiadau gwe-rwydo, gwefannau sgamio a hysbysebion sy'n gofyn am wybodaeth bersonol
  • deall bod rhoi gwybodaeth ar-lein yn gadael ôl-troed digidol, e.e. sy'n gallu hwyluso lladrata hunaniaeth
  • pennu risgiau o ran hunaniaeth a manteision gosod meddalwedd, e.e. pennu risgiau posibl o osod meddalwedd am ddim a meddalwedd y mae'n rhaid talu amdano, megis gallai meddalwedd am ddim lawrlwytho firysau i'ch dyfais/cyfrifiadur.

Geirfa

data     gwybodaeth     rhannu   llwybr    lladrad hunaniaeth   lawrlwytho   meddalwedd   feirws    sgan    gwe-rwydo   ôl troed digidol     

Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.

20161118_141908

Adnodd Diogelwch Ar-Lein SWGfL

Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.

Gweithgareddau

Rhannu Delweddau a Data

  1. Mae Gwers 2, Blwyddyn 4 o gynlluniau dysgu Diogelwch Ar-lein SWGfL yn delio gyda ‘Gwybodaeth Breifat a Phersonol '.
  2. Lluniwch boster a chyflwyniad neu fideo ar sut i osgoi cael eich dal gan e-bost sgam neu we-rwydo (Ewch i weithgareddau y llinyn Creu i'ch helpu gyda gweithgareddau fel hyn)

Trafodwch yn rheolaidd yr anhebygrwydd bod unrhyw gynnig ‘Rhy Dda i Fod yn Wir’ yn wir. Pwysleisiwch y ffaith mai unwaith yr ydych yn rhannu rhywbeth ar-lein yna rydych chi wedi colli rheolaeth dros yr wybodaeth honno. Gall unrhyw un ei weld.

Risgiau Lawrlwytho a Gosod

  1. Trafodwch sut y mae feirysau yn gallu cuddio mewn pethau rydych chi’n eu lawrlwytho a’u gosod, yn enwedig meddalwedd am ddim.