Iechyd a Lles
1.2
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Yn anffodus, dydy cynlluniau gwaith SWGfL ddim yn cynnwys dysgu am gydbwyso amser sgrin ac amser chwarae egnïol ac felly rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn cynnwys yr elfen yma ar wahân. Dyma rai gweithgareddau y gallech eu hystyried:
- Darparu nifer o ddatganiadau i’r disgyblion yn esbonio effeithiau cadarnhaol a negyddol defnyddio technoleg. Yna gall y disgyblion eu grwpio yn bethau cadarnhaol a negyddol.
- Gofynnwch i’r disgyblion greu bwrdd stori neu gomic (ap Comic Life) ar ‘Y Bachgen a Ddywedodd Na’, addasiad ar 'Y Bachgen a Waeddodd Blaidd' lle mae plentyn yn gwrthod gwahoddiadau i bartïon a gemau pêl droed oherwydd ei fod eisiau aros gartref a chwarae gyda’i gyfrifiadur. Yn y pendraw mae pawb yn rhoi’r gorau i’w wahodd i bethau ac mae’n unig.