Hawliau Digidol, Trwyddedu a Pherchnogaeth
1.3
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
- Mae’r elfen yma’n cael ei thrafod yn drylwyr yn yr adnawdd gwersi diogelwch ar-lein SWGfl a Llywodraeth Cymru – Gwers 5, Blwyddyn 4 sydd yn canolbwyttio ar ‘Eiddo pwy ydyw, beth bynnag?’.
- Atgoffwch y disgyblion i roi cydnabyddiaeth i’w ffynonellau pan yn creu cyflwyniadau ac yn defnddio delweddau ar-lein.