Ymddygiad Ar-lein a Seiberfwlio
1.4
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Mae’r elfen yma ym Mlwyddyn 4 yn cael ei thrafod yn fanwl gan Adnawdd Diogelwch Ar-lein Cymru SWGfl. Edrychwch ar y gwersi isod i sicrhau eich bod yn cynnwys yr elfen yma.
- Mae Gwers 1, Blwyddyn 4 o’r Adnawdd Diogelwch Ar-lein Cymru SWGfL “Cylchoedd Cyfrifioldeb” yn delio gyda sut i gyfathrebu a chydweithio’n gyfrifol ar-lein.
- Mae Gwers 3, Blwyddyn 4, "Grym Geiriau" yn wers i ddysgu disgyblion sut i wrthsefyll seiberfwlio.