Menu

Cyfathrebu

2.1

Cyflwyniad

Mae technoleg wedi newid byd cyfathrebu yn ddramatig yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n parhau i’w newid yn gyflym. Mae’n bwysig bod ein disgyblion yn anfon negeseuon e-bost ac yn gwneud galwadau fideo, ac mae cyn bwysiced eu bod yn deall manteision technolegau o’r fath a phryd y dylid eu defnyddio neu beidio.

Fframwaith

2.1 - Cyfathrebu

  • cyfnewid cyfathrebiadau ar-lein gyda dysgwyr eraill, gan ddefnyddio'r ystod gynyddol o nodweddion sydd ar gael, e.e. anfon e-byst gydag atodiadau a newid y fformatio (lle bo'r ddyfais yn caniatáu hynny).

Sgil wrth Sgil

  • Deall y defnydd o e-bost a’i fanteision.
  • Creu, darllen ac ateb negeseuon e-bost yn annibynnol.
  • Atodi ffeli i e-bost.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

cyfathrebu     e-bost     cyfeiriad     anfon     derbyn     agor     ateb     atodiad     manteision

Gweithgaredd 1

Clwb Llyfrau

Erbyn iddyn nhw gyrraedd Blwyddyn 4 fe ddylai fod gan y disgyblion brofiad o e-bostio. Mae’r gweithgaredd yma yn gwneud e-bostio yn rhan rheolaidd o wythnos disgybl trwy greu clwb llyfrau e-bost gyda’ch dosbarth.

Ebost Llyfr

Paratoi:

  • Gwnewch yn siŵr bod gan pob plentyn fynediad i rhyw ffurf o e-bost ysgol diogel. Gall hyn fod trwy Hwb, G Suite for Education neu trwy system e-bost ffug yn Purple Mash. Os nad ydy hyn wedi’i sefydlu eisoes yn eich ysgol, atgoffwch eich Arweinydd Technoleg pa mor bwysig ydy hynny!
  • Gwiriwch i weld os oes gan eich disgyblion brofiad o e-bostio ers Blwyddyn 3. Os na, edrychwch ar weithgareddau Blwyddyn 3 ar gyfer ‘Cyfathrebu’.
  • Dysgwch uned llythrennedd ar adroddiadau llyfrau (oni bai eu bod eisoes wedi gwneud hyn ym Mlwyddyn 3).

Gweithgareddau:

  1. Trafodwch beth mae’r disgyblion wedi’i ddysgu am adolygiadau llyfrau. Dywedwch wrthyn nhw ei bod yn mynd i ysgrifennui adolygiad byr o lyfr y dosbarth. Fe fddylai’r adolygiad yma gynnwys crynodeb, disgrifiad o hoff gymeriadau/rhannau ac ydyn nhw’n argymell y llyfr ai peidio.
  2. Fe ddylai’r disgyblion fewngofnodi i’w ebost (trwy Google neu Hwb).
  3. Gofynnwch iddyn nhw ysgrifenniu ebost i gyd-ddisgybl yn cynnwys eu hadolygiad byr o lyfr, ond i beidio â’i anfon ar unwaith.
  4. Atgoffwch nhw sut y gallwn wneud y testun yn fwy diddorol trwy newid lliwiau, maint a ffont. Gofynnwch i’r disgyblion arborfi gyda hyn yn eu negeseuon ebost.
  5. Fe ddylai pawb anfon eu hadroddiadau llyfr at eu cyd-ddisgyblion. Yna’r wythnos ganlynol fe ddylai’r disgyblion ateb y person a anfonodd ebost atyn nhw yn diolch iddyn nhw am yr adroddiad llyfr ac anfon adroddiad newydd ar lyfr newydd.

Cofiwch

  • O ran e-bost, mae angen i chi wybod pa brofiad blaenorol sydd gan eich dosbarth. Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn disgwyl i ddisgybl Blwyddyn 4 fod eisoes yn e-bostio yn annibynnol ym Mlynyddoedd 2  a 3 ac yn cyfrannu at negeseuon e-bost ers Blwyddyn 1. Wrth gwrs efallai nad ydy hynny’n wir eto yn eich dosbarth chi ac os felly, gall fod o gymorth i chi edrych ar weithgareddau Blwyddyn 3 i ddechrau cyn symud ymlaen i’r gweithgaredd Blwyddyn 4 yma.
  • Mae angen i chi bwysleisio agwedd e-ddiogelwch wrth ddysgu e-bost. Mae angen iddyn nhw ddeall pa mor bwysig ydy hi i ysgrifennu negeseuon e-bost priodol a pheidio â defnyddio geiriau annymunol.
  • Os byddwch yn sefydlu hyn yn gywir, gall ysgrifennu e-bost cyflym am eu llyfr darllen wythnosol ddod yn dasg wythnosol. Gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu at gyd-ddisgybl neilltuol un wythnos ac yna ateb e-bost gan ddisgybl gwahanol yr wythnos wedyn.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu ysgrifennu, agor ac ateb e-bost yn annibynnol.
  • Rwy’n gallu newid ffont, maint a lliw’r testun yn fy e-bost.

Elfennau Fframwaith Eraill

1.1 – Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da

Mae hwn yn gyfle da i ymgorffori gwers ar ddiogelwch cyfrinair.

1.2 – Iechyd a Llesiant

Mae gan nifer o gwmnïau e-bost a chyfryngau cymdeithasol gyfyngiadau oedran. Trafodwch y rhain tra’n esbonio pam bod e-bost yn cael ei redeg gan ysgol yn ddiogelach nag e-bost cyhoeddus (gardd gaerog, ni all y rhai o’r tu allan e-bostio cyfrifon ysgol etc).

1.4 – Ymddygiad Ar-lein a Seiberfwlio

Trafodwch fanteision ac anfanteision cyfathrebu ar-lein.

3.1 – Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

Gall y dosbarth feddwl am y Meini Prawf Llwyddiant am adroddiad byr da o lyfr.

3.3 – Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanwerthusiad arferol.

Geirfa

cyfathrebu     e-bost     cyfeiriad     anfon     derbyn     agor     ateb

Syniadau Amrywio

Does dim angen i’r gweithgaredd yma gynnwys adolygiad llyfr o angenrhaid. Fe fydd unrhyw weithgaredd sydd yn golygu eu bod yn e-bostio ac yn ateb negeseuon e-bost yn rheolaidd yn helpu’r sgil yma iddyn nhw.

Gweithgaredd 2

Atodi Cerddi

Mae’r gweithgaredd yma yn estyniad ar y gweithgaredd cyntaf gyda’r disgyblion yn anfon negeseuon ebost. Yr unig wahaniaeth y tro yma ydy y byddan nhw yn ychwanegu atodiadau ac yn ysgrifennu ar ffurf mwy ffurfiol.

Paratoi:

  • Gofynnwch i’r disgyblion ysgrifennu cerddi am rai o’r pethau maen nhw wedi ei wneud ym Mlwyddyn 4.
Atodi Cerdd

Gweithgareddau:

  1. Atgoffwch y disgyblion sut i atodi dogfennau o’u cyfrifiadur neu gyfrif cwmwl i ebost (fe fyddan nhw wedi gwneud hyn i raddau ym Mlwyddyn 3.)
  2. Esboniwch eu bod yn mynd i anfon eu cerddi at eu hathro/athrawes dosbarth blaenorol i ddangos sut maen nhw wedi setlo/mwynhau eu hamser ym Mlwyddyn 4.
  3. Trafodwch ddyluniad e-bost mwy ffurfiol oi’ gymharu gyda’r negeseuon e-bost maen nhw’n anfon at eu ffrindiau yn Ngweithgaredd 1 (Annwyl…. paragraff newydd ar gyfer cynnwys. Oddi Wrth…llai o newidiadau fformatio etc.)
  4. Ysgrifennwch y negeseuon ebost ac atodwch y cerddi.

Cofiwch

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod pam bod hyn yn sefyllfa dda i ddefnyddio e-bost yn hytrach na ffurfiau eraill o gyfathrebiadau ar-lein ac all-lein (h.y. mae’n eu galluogi i atodi’r gwaith ei hun, mae’n galluogi eu hathro/athrawes blaenorol i ddarllen eu gwaith pan mae ganddyn nhw amser, mae’n gyflymach na llythyrau ac ychydig yn llai ffurfiol.)

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu ysgrifennu e-bost gan ddefnyddio dyluniad mwy ffurfiol.
  • Rwy’n gallu atodi dogfen i fy e-bost.

Elfennau Fframwaith Eraill

1.1 – Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da

Mae hwn yn gyfle da i ymgorffori gwers ar ddiogelwch cyfrinair.

1.2 – Iechyd a Llesiant

Mae gan nifer o gwmnïau e-bost a chyfryngau cymdeithasol gyfyngiadau oedran. Trafodwch y rhain tra’n esbonio pam bod e-bost yn cael ei redeg gan ysgol yn ddiogelach nag e-bost cyhoeddus (gardd gaerog, ni all y rhai o’r tu allan e-bostio cyfrifon ysgol etc).

1.4 – Ymddygiad ar-lein a Seiberfwlio

Trafodwch fanteision ac anfanteision cyfathrebu ar-lein.

3.1 – Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

Gall y dosbarth feddwl am y Meini Prawf Llwyddiant am e-bost da tra’n edrych ar enghraifft

3.3 – Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanwerthusiad arferol.

Geirfa

cyfathrebu     ebost     anfon     derbyn     atodiad     ffurfiol     paragraff     cyfarchiad

Syniadau Amrywio

Os nad oes gennych amser cwricwlwm i ysgrifennu cerdd, yna gall fod yn ffotograffau o’r disgyblion ar drip ysgol. Neu cyfunwch y gweithgaredd yma gyda gweithgaredd creu fideo o 3.2 ‘Creu’ a gofynnwch iddyn nhw anfon fideos ohonyn nhw’u hunain yn cofio eu hoff atgofion o’r flwyddyn flaenorol.

Gweithgaredd 3

Galwadau Fideo

Dydy galwadau fideo ddim y dull hawsaf i’w ddysgu i ddisgyblion am gyfathrebu ar-lein. Yn aml mae hidlwyr Awurdodau Lleol yn blocio mynediad i Skype a Facetime mewn ysgolion, a gall yr angen i gael rhywun ar ben arall yr alwad fod yn hunllef os ydy pob plentyn yn mynd i wneud galwad bersonol.

skype

Yr ateb syml ydy cyfyngu Galwadau Fideo i weithgaredd dosbarth cyfan, gan ddefnyddio rhai o’r awgrymiadau isod. Fe fydd angen dadflocio Skype neu Facetime, ond dim ond ar gyfer cyfrifon athrawon. Gan fod Galwadau Fideo yn cael eu crybwyll yn benodol yn y Ffframwaith ni ddylai fod gan eich Awdurdod Lleol broblem gyda rhoi caniatâd i hyn.

Awgrymiadau ar gyfer Gweithgareddau

  • Pan fyddwch ar drip ysgol, treuliwch amser ar FaceTime neu Skype gyda dosbarth arall yn yr ysgol yn dweud wrthyn nhw sut hwyl rydych chi’n ei gael. Mae hyn yn gweithio hyd yn oed yn well ar drip preswyl.
  • Trefnwch ‘Skype/Hangout Dirgel'. Mae hyn yn cynnwys trefnu galwad fideo rhwng eich dosbarth a dosbarth arall mewn ardal, sir neu wlad arall (o fewn parth amser tebyg). Mae’r dosbarthiadau yn gofyn cwestiynau i’w giydd ac yn ceisio dyfalu ym mha ardal neu wlad mae’r dosbarth arall yn byw. Gallwch ddarganfod ysgol i wneud Skype Dirgel gyda nhw trwy wefan Mystery Skype Microsoft.
  • Treuliwch amser FaceTime gyda Siôn Corn! Os oes gennych wirfoddolwr sydd yn fodlon gwisgo fel Siôn Corn, gofynnwch iddyn nhw wneud galwad fideo gyda’r dosbarth cyfan cyn y Nadolig i ofyn cwestiynau ac i’w hatgoffa i fod yn dda.

Meini Prawf

  • Rwy’n deall beth ydy galwad fideo.
  • Rwy’n gallu cymryd rhan mewn galwad fideo grŵp neu ddosbarth.

Elfennau Fframwaith Eraill

1.1 – Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da

Trafodwch bwysigrwydd peidio â rhannu gwybodaeth breifat ar-lein gyda dieithriaid.

1.2 – Iechyd a Llesiant

Mae gan nifer o gwmnïau gyfyngiadau oedran (13 oed ydy Skype). Trafodwch y rhesymau am hyn.

1.4 – Ymddygiad ar-lein a Seiberfwlio

Trafodwch fanteision ac anfanteision cyfathrebu ar-lein a sut i ymateb os ydych yn cael ei bwlio trwy alwadau fideo neu negeseuon ar-lein.

Geirfa

galwad llais     fideo     cysylltu