Menu

Lluniau a Fideo

3.2 - Creu

Cyflwyniad

Yr agwedd Ffotograffau a Fideos ydy’r un mwyaf hwyliog o ‘Greu’ a dyma o bosibl ydy’r cymorth dysgu mwyaf effeithiol trwy’r holl gwricwlwm, ond os caiff ei ddysgu’n wael, gall hefyd wastraffu amser a bod yn ddibwrpas.

Fe fydd y gweithgareddau Blwyddyn 4 yma yn sicrhau eich bod yn dysgu’r sgiliau technoleg cywir ac yn rhoi offeryn defnyddiol i’ch disgyblion ar gyfer recordio eu dysgu trwy gydol y flwyddyn.

Fframwaith

3.2 - Creu

  • creu ac addasu cydrannau aml-gyfryngol mewn un iaith neu fwy gan ddefnyddio ystod o feddalwedd.
  • addasu a chyflwyno ystod o destun, delwedd, sain, animeiddiad a fideo at ddibenion penodol.

Sgil wrth Sgil

  • Recordiwch fideo yn annibynnol a dechrau eu tocio a’u golygu ar yr un ddyfais.
  • Ychwanegwch deitlau syml a cherddoriaeth ar offeryn golygu ffilm.
  • Edrychwch ar raglen animeiddio ac arbrofwch gyda golygfeydd ffotograffig i greu animeiddio stop.
  • Yn annibynnol, uwchlwythwch i yrrwr ar-lein a chreu cod QR, URL byr neu ddull rhannu arall.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

recordio     fideo     delwedd     animeiddio     stop-symudiad     tirwedd     uwchlwytho     mewnforio     allforio

Gweithgaredd 1

Y Fideo Tri Darn

iMovie

Fe fydd y disgyblion yn gyfarwydd gyda’r Fideo Tri Darn o Flwyddyn 3 (os cafodd ei ddysgu) ac felly gallwch ganolbwyntio ar ymestyn eu sgiliau. Argymhellir bod y gweithgaredd yma’n cael ei ddysgu yn gynnar yn y flwyddyn oherwydd gellir defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd drosodd a throsodd wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi i ddangos beth maen nhw wedi ei ddysgu mewn gwahanol wersi neu unedau neu i roi barn ar dasg, trip neu sioe.

Paratoi:

  • Pan fyddwch yn dysgu’r gweithgaredd yma am y tro cyntaf, rhaid canolbwyntio ar y sgiliau technoleg. Felly gwnewch yn siŵr bod gan y disgyblion dri ffaith syml yn barod i’w rhoi yn y fideo.
  • Mae eich ysgol angen system i gael fideo oddi ar yr iPad (neu dabled) i’w arbed ar y gweinydd neu’r cwmwl. Y dewisiadau cyffredin ydy Google Drive, J2E neu OneDrive.

Gweithgaredd:

  1. Mewn parau neu drioedd, gan ddefnyddio’r ap camera ar yr iPad, ffilmiwch dri chlip. Fe ddylai pob clip fod rhwng 5 – 15 eiliad o hir ac yn cynnwys disgybl yn adrodd ffaith ar un pwnc. Rhaid i bob disgybl gael tro ar ffilmio a rhaid i bob disgybl siarad ar y camera.
  2. Dechreuwch brosiect iMovie newydd, dewiswch Movie, nid Trailer, a dewiswch y tri chlip a ffilmiwyd.
  3. Dangoswch sut i docio’r clipiau trwy dorri allan y dechrau neu’r diwedd. Gofynnwch i’’r disgyblion docio eu fideos (os oes angen) i dorri allan unrhyw gamgymeriadau fel y person camera yn dweud ‘Ewch’ neu’r camera yn symud ar y diwedd wrth iddyn nhw stopio’r fideo.
  4. Ar ddechrau’r prosiect, ychwanegwch ffotograff o’r hyn rydych wedi bod yn siarad amdano. Gellir tynnu hyn gyda chamera neu ei ddarganfod ar-lein a’i arbed i’r Camera Roll.
  5. Ar ddiwedd y prosiect, defyddiwch y botwm ffotograff yn iMovie i dynnu hunanlun o’r plant yn y grŵp.
  6. Ychwanegwch deitlau i’r dechrau, dros y ffotograff. Ychwanegwch y credydau ar y diwedd, dros yr hunanlun
  7. Pan fydd popeth arall wedi’i gwblhau, ychwanegwch gerddoriaeth o’r detholiad yn iMovie.
  8. Allforiwch y ffilm i’r Camera Roll.

Cofiwch

  • Tair rheol bwysig wrth wneud fideo:
    • Rhaid gwneud pob fideo gan ddal yr iPad ar ei ochr (tirwedd). Dysgwch y plant na ddylen nhw fyth ffilmio mewn portread gan mai dim ond rhan fechan o’r sgrin y bydd hynny yn ei lenwi.
    • Gan fod iMovie yn ychwanegu pontio rhwng clipiau, mae’n arfer da i ddysgu’r disgyblion i adael eiliad rhwng dechrau ffilmio a siarad. Yn yr un modd fe ddylen nhw ychwanegu eiliad rhwng peidio siarad a stopio’r fideo.
    • Gwnewch yn siŵr bod y person camera yn sefyll yn agos at y person sy’n siarad er mwyn recordio’r llais yn glir. Dydy meicroffonau iPads ddim yn gryf iawn.
  • Arbedwch ddelwedd o chwiliad ar y we yn eich Camera Roll trwy ddal eich bys yn llonydd ar y ddelwedd a dewis ‘Arbed Delwedd’. Mae hon yn sgil holl bwysig i’w dysgu gan ei bod yn angenrheidiol ar gyfer cymaint o brosiectau ar yr iPad.
  • Fe fydd angen i chi symud y fideo o’r iPad i gyfrif gweinydd eich ysgol neu’r cwmwl (OneDrive, GoogleDrive). Fe fydd bywyd cymaint yn haws i chi os byddwch, yn ystod y tymor cyntaf, yn hyfforddi’r disgyblion i wneud hynny eu hunain!

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu ffilmio clip fideo, ei fewnforio i olygydd ffilm a’i docio.
  • Rwy’n gallu ychwanegu teitlau a cherddoriaeth i fy ffilm.

Elfennau Fframwaith Eraill

1.3 - Hawliau Digidol

Gallwch gynnal trafodaeth am hawlfraint delweddau a sut y dylen ni roi cydnabyddiaeth.

2.3 Storio a Rhannu

Mae dysgu eich disgyblion i allforio i camera roll ac yna cael y gwaith oddi ar yr iPad i weinydd neu i’r cwmwl yn arbed cymaint o amser i chi yn y pendraw!

3.1 Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

Trafodwch pa allweddeiriau i’w defnyddio pan yn chwilio ar-lein am ddelweddau.

3.3 Gwerthuso a Gwella

Gwnewch yn siŵr bod y fideos yn cael eu chwarae i weddill y dosbarth fel eu bod yn gallu rhoi adborth. (Dim ond rhyw 30 eiliad y bydd pob fideo yn para.)

Geirfa

recordio     fideo     mewnforio     golygydd fideo     tocio     delwedd     tirwedd     meicroffon     teitlau     cerddoriaeth     effeithiau sain     allforio

Syniadau Amrywio

Unwaith eu bod wedi dysgu gwneud Ffilmiau Tri Darn gallwch ddefnyddio’r gweithgaredd dro ar ôl tro i ddangos beth maen nhw wedi ei ddysgu neu i gyflwyno eu barn. Mae amseru’n hollbwysig yma, cadwch gyfyngiadau amser llym ar amser ffilmio.

Os oes rhai o’ch disgyblion yn swil, ceisiwch eu darbwyllo i ymddangos ar y camera. Os ydy hyn yn eu gwneud i deimlo’n anghyfforddus iawn, rhowch ddewis mwy diogel iddyn nhw drwy recordio eu ffaith ar ap fel Yakit Kids neu Tellagrami i ddechrau ac yna ei ychwanegu ar eu iMovie.

A dweud y gwir, mae Yakit Kids yn ffordd wych o wneud Ffilmiau Tri Darn ychydig yn wahanol, er enghraifft Harri VIII yn mynegi’r ffeithiau, neu filwr o’r Ail Ryfel Byd.

Activity 2

Animeiddio Stop-Symudiad

Mae disgyblion wrth eu bodd gyda’r gweithgaredd animeiddio stop symudiad ac mae’n un nad oes angen sgiliau technoleg cymhleth. Gallwch gael canlyniadau gwych mewn gwers neu ddwy yn unig. Mae’r gweithgaredd yma’r un fath â’r gweithgareddau ym Mlynyddoedd 3 a 4. Hynny ydy, ymarfer eu sgiliau fel bod modd iddyn nhw symud ymlaen i waith mwy cymhleth ym Mlwyddyn 5.

Paratoi:

  • Gwnewch yn siŵr bod ap stop-symudiad wedi’i osod (argymhellir Stop Motion Studio a Lego Movie, er nad ydy Lego Movie bellach ar gael yn yr App Store) a bod digon o Lego ar gael.

Gweithgareddau:

  1. Agorwch eich ap stop-symudiad a dechreuwch brosiect newydd.
  2. Gosodwch yr iPad wysg ei ochr (tirwedd) fel ei fod yn aros yn unionsyth. Efallai y bydd angen i chi ei osod yn erbyn llyfrau os nad oes gennych stand dal clawr.
  3. Tynnwch lun o’ch ardal adeiladu gwag (llawr neu fwrdd)
  4. Symudwch y person neu ddarn o Lego cyntaf ychydig i’r golwg, tynnwch lun arall.
  5. Ailadroddwch cam 4 dro ar ôl tro, gan symud darn neu ychwanegu un arall rhwng pob llun.
  6. Ar ôl gorffen, dewiswch y cyflymdra rydych eisiau ar gyfer y fideo ac yna ei allforio i Camera Roll.
stop motion

Cofiwch

  • Atgoffwch nhw i beidio â brysio. Dydyn nhw ddim eisiau gweld eu llaw yn ymddangos mewn llun sydd wedi’i dynnu ar frys.  Dangoswch iddyn nhw sut i ddileu un llun os ydy hynny’n digwydd.
  • Ar rai apiau, gallwch ychwanegu teitl, cerddoriaeth a hidlwr.
  • Fe fydd angen i chi symud y fideo o’r iPad i gyfrif gweinydd eich ysgol neu’r cwmwl (OneDrive, GoogleDrive). Fe fydd bywyd cymaint yn haws i chi os byddwch, yn ystod y tymor cyntaf, yn hyfforddi’r disgyblion i wneud hynny eu hunain!

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu ychwanegu nifer o glipiau i fy stop-symudiad, heb symud y camera.
  • Rwy’n gallu dileu delweddau gyda chamgymeriadau ynddyn nhw.
  • Rwy’n gallu allforio fy animeiddiad gorffenedig i’r Camera Roll.

Elfennau Fframwaith Eraill

2.3 Storio a Rhannu

Mae dysgu eich disgyblion i allforio i’r Camera Roll ac yna cael y gwaith oddi ar yr iPad i weinydd neu’r cwmwl yn arbed cryn dipyn o amser i chi yn y pendraw!

3.1 Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

Cynlluniwch eich animeiddio o flaen llaw, yn enwedig os oes yna rhyw fath o stori iddo.

3.3 Gwerthuso a Gwella

Gwnewch yn siŵr bod y fideos yn cael eu chwarae i weddill y dosbarth er mwyn iddyn nhw allu rhoi adborth (dim ond rhyw 30 eiliad y bydd fideo yn para).

Geirfa

delwedd     stop-symudiad     dileu     cyflymdra     haen nionod (haen winwns)     teitl     hidlwr     allforio

 

Syniadau Amrywio

Gallwch greu eich stop-symudiad gyda chlai yn hytrach na darnau o Lego, er y bydd hyn yn cymryd llawer mwy o amser. Gallwch hefyd ei greu gyda lluniau (h.y. tynnu un llinell o lun rhwng pob ffotograff).

Nodyn Pwysig

Rhannu, Rhannu, Rhannu

Gan fod y disgyblion bellach yn dod yn fwy hyderus wrth greu fideos ac animeiddio, mae’n holl bwysig eu bod yn gweld bod eu gwaith yn cael cynulleidfa. Dyma rai ffyrdd o sicrhau bod y plant yn teimlo eu bod wedi gweithio i bwrpas:

  • Dangoswch y fideos yn y dosbarth a thrafodwch yr adborth.
    • Dyma’r math mwyaf sylfaenol o rannu ac fe ddylid ei wneud gyda phob fideo a gwblheir.
  • Gwahodd rhieni/dosbarthiadau eraill/ y pennaeth i ‘Brynhawn Sinema’ i wylio eich gwaith gorffenedig. Dewch â phopcorn!
  • Uwchlwytho i gyfrif cwmwl (One Drive, Google Drive), ac anfon dolen i rieni drwy e-bost.
  • Uwchlwytho i gyfrif cwmwl (One Drive, Google Drive), creu codau QR i’w arddangos yn y dosbarth, o amgylch yr ysgol ac mewn llyfrau gwaith.
    • Mae hwn yn ddull syml iawn o rannu, a dylech ddysgu’r disgyblion sut mae modd ei wneud (neu fel arall fe fydd rhaid i chi ei wneud 30 gwaith eich hun, gan wastraffu llawer o amser!)