Menu

Gwerthuso a Gwella

3.3

Cyflwyniad

Mae gwerthuso a gwella gwaith yn gonglfaen addysgu a dysgu. I feistrioli’r elfen yma o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, does dim angen i chi o angenrhaid ddefnyddio technoleg. Gall eich disgyblion ddefnyddio’r technegau hunanasesu ac asesiadau cymheiriaid y maen nhw’n gyfarwydd â nhw.

Ond, wedi dweud hynny, mae yna ffyrdd ardderchog o ddefnyddio technoleg yn effeithiol ar gyfer hunanasesu ac asesiadau cymheiriaid. Dyma rai awgrymiadau isod.

Fframwaith

3.3 - Gwerthuso a Gwella

  • rhoi barn am eu gwaith eu hunain ac eraill ac awgrymu gwelliannau wrth weithio'n annibynnol neu ar y cyd, e.e. gwirio'u gwaith a chywiro sillafu /defnyddio gwirydd sillafu; penderfynu a yw llinell goch o dan eiriau yn golygu eu bod wedi'u camsillafu; defnyddio'r sillafiadau a awgrymir lle bo hynny'n briodol
  • rhoi rhesymau am ddewisiadau, e.e. trafod manteision a chyfyngiadau gwiriwr sillafu, yn enwedig mewn dogfennau Cymraeg.

Sgil wrth Sgil

  • Nodi a chywiro gamgymeriadau yn eu gwaith.
  • Gwneud sylwadau ar eu gwaith eu hunain ac ar waith disgyblion eraill.

Geirfa

hunanasesiad     asesiad cymheiriaid     camgymeriad     cywiro     sylw     adeiladol     gwella     cryfder

Gweithgareddau

  1. Gadewch iddyn nhw dynnu llun o’u gwaith sydd yn mynd i gael ei hunanasesu a’i fewnosod yn Explain Everything ar yr iPad. Yna fe ddylen nhw nodi hynny a recordio troslais yn rhoi eu hadborth.
  2. Os ydy’r gwaith wedi cael ei deipio ar Office 365 neu Google Drive, gofynnwch wrth y disgyblion i ddefnyddio’r swyddogaeth Sylw i ychwanegu sylwadau am yr hyn yr hoffen nhw ei wella.
  3. Gofynnwch iddyn nhw wneud Fideo Tri Darn (gweler 3.2c 'Ffotograffau a Fideos') yn cyflwyno dau beth yr oedden nhw’n eu hoffi am eu gwaith ac un peth y bydden nhw’n hoffi ei wella. Fe ddylen nhw gynnwys llun neu glip fideo o’u gwaith.
explain everything
iMovie