Menu

Datrys Problemau a Modelu

4.1

Cyflwyniad

Pan fyddwch yn trafod y Fframwaith newydd gydag athrawon cynradd, maen nhw bob amser yn siarad yn bryderus am godio. Ond dydy’r term codio ddim hyd yn oed yn ymddangos yn y Fframwaith! Yr hyn sydd yn ymddangos ydy’r elfen yma – ‘Datrys Problemau a Modelu’.

Mae’r elfen yma yn cynnwys adnabod problem, ei rhannu yn ddarnau y mae modd eu trin, nodi patrymau a datrys y broblem.

Rydyn ni’n defnyddio codio fel un dull o ddysgu sgiliau’r elfen yma, a does dim angen bod yn bryderus. Mae Datrys Problemau a Modelu yn hwyl ac yn llawer iawn symlach nag y gwnaethoch ddychmygu. Bee-Bots, Logo, cyfarwyddiadau ysgrifennu – dyma’r pethau rydych chi wedi bod yn eu dysgu ers degawdau a dydy’r gweithgareddau codio syml a restrir isod yn ddim byd ond estyniad o’r sgiliau hynny.

Fframwaith

4.1 - Datrys Problemau a Modelu

  • arddangos sut y gellir bod angen ailadrodd rhan o ddatrysiad.
  • cyfleu datrysiad syml mewn siart llif sy'n cynnwys elfen sy'n cael ei lŵpio, e.e. pennu lle gallai lŵp neu ailadroddiad weithio mewn siart llif, megis goleuadau traffig a dewis newidynnau.

Sgil wrth Sgil

  • Ysgrifennwch algorithm syml am sefyllfa bywyd go iawn i gynrychioli dilyniant o gyfarwyddiadau.
  • Cynrychiolwch ateb syml mewn siart llif sydd yn cynnwys elfen dolennu.
  • Gan ddefnyddio amgylchedd rhaglennu syml, rhaglennwch nifer o gorluniau i symud yn ôl gorchymyn.
  • Dadfygio cod i nodi camgymeriadau wrth geisio gwneud i gorlun symud mewn amgylchedd rhaglennu syml.
  • Gan ddefnyddio cod enghreifftiol, creu cymeriad, rhif neu destun sydd yn newid dros amser.
  • Gyda chefnogaeth, dilyn cyfarwyddiadau wedi’u gwneud o flaen llaw i greu animeiddio neu gêm syml gan ddefnyddio amgylchedd rhaglennu syml ac yna rhowch eich nod eich hun arno trwy amrywio cefndiroedd a chymeriadau.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

cod     cyfarwyddiadau     rhaglen     crwydrwr     corlun     blociau     cefndir     dadfygio     camgymeriad     cywiro     dolen     ailadrodd

Gweithgaredd 1

Y Robot Brechdannau

Efallai y byddech yn disgwyl i weithgaredd codio ddechrau gydag iPad neu gyfrifiadur, ond mae ‘Datrys Problemau a Modelu’ yn disgwyl mwy na hynny ac felly rydyn ni’n dechrau heb yr un darn o dechnoleg. Fe fydd y disgyblion yn ysgrifennu ‘Codau’ ar gyfer ‘cogydd robot i wneud tair brechdan gaws. Mae’r gweithgaredd yma’n adeiladu ar weithgaredd y Plentyn Robot ym Mlwyddyn 3, felly gwnewch yn siŵr bod eich disgyblion wedi dysgu’r gweithgaredd hwnnw i ddechrau cyn rhoi cynnig ar hwn.

Paratoi:

  • Lluniwch fideo neu ddelwedd o gogydd robot i’r disgyblion ei helpu. Gall y robot cogydd yma fod ar sawl ffurf, yn dibynu ar eich dewis:
    • Fideo siarad Yakit Kids neuTellagami yn esbonio ei broblem.
    • Llun maint llawn ar eich wal arddangos
    • Het arbennig y gallwch ei rhoi ar unrhyw ddisgybl i’w troi yn gogydd robot.
  • Cael papur A3!
  • Llenwi siart llif enghreifftiol am gymryd pump cosb. (gweler yr enghraifft yn y ddolen)
  • Prynu cynhwysion ar gyfer ychydig o frechdannau caws!

Gweithgareddau:

  1. Cyflwynwch eich cogydd robot i’r dosbarth. Esboniwch eu bod yn mynd i godio’r robot i wneud brechdannau caws.
  2. Dangoswch eich cod enghreifftiol ar gyfer cymryd cosbau iddyn nhw
  3. Amlygwch yr iaith syml, y cyfarwyddiadau clir a’r ffaith bod siart llif yn ein tywys o un cam i’r nesaf.
  4. Pwyntiwch at y rhan dolennu (ailadrodd) lle mae’r cod yn dychwelyd i bwynt cynharach ar gychwyn pob cosb.
  5. Pwyntiwch at yr ychydig linellau o’r cod cyn yr elfen ddolennu (h.y. y pethau sydd ond yn digwydd ar y cychwyn) ac ar ôl yr elfen ddolennu (pethau sydd ond yn digwydd ar y diwedd un).
  6. Trafodwch y camau sylfaenol wrth wneud brechdan, ac efallai gwneud brechdan tra’n ei thrafod!
  7. Rhannwch dudalennau A3 a gofynnwch i’r disgyblion lunio siart llif o’u cod ar gyfer gwneud 3 brechdan. Y mwyaf cryno, y gorau. Gellir annog y disgyblion mwy galluog i gyfyngu eu hunain i 3 gair fesul cyfarwyddyd.
  8. Gofynnwch i un plentyn fod yn robot i ‘brofi’r’ codau, a’r disgyblon yn darllen eu codau gam wrth gam iddo.

Cofiwch

  • Dylid cadw cyfarwyddiadau siart llif yn syml ac fe ddylen nhw fod yn hawdd i’w dilyn heb fod angen cyd-destun.
  • Does dim angen brawddegau gramadegol llawn yn eu siartiau llif. Mae codio yn galw am symlrwydd ac eglurder.

Meini Prawf

  • Rwy’n gall ysgrifennu fy nghyfarwyddiadau mewn siart llif i blentyn arall ei ddilyn.
  • Rwy’n gallu cynnwys elfen ddolennu yn fy nghod.

Elfennau Fframwaith Eraill

3.3 – Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanasesiad arferol.

Geirfa

cod     robot     siart llif     symbolau     dolennu     ailadrodd

Syniadau Amrywio

Mae’n amlwg y gallech ddysgu’r elfen yma heb gyflwyno cogydd robot, ond dydy hynny fawr o hwyl!

Gweithgaredd 2

Cath Symudliw

Hyd yn hyn mae’r disgyblion wedi bod yn defnyddio amgylcheddau codio syml fel Scratch Jr, lle nad oes ond rhai pethau y gallwch godio eich codluniau (cymeriadau) i’w gwneud. Nawr rydyn ni’n cymryd ein camau cyntaf i raglen godio lawn lle mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd.

Yn y gweithgaredd syml yma fe fydd y disgyblion yn dilyn cod enghreifftiol i wneud i gath newid ei lliw bob ychydig eiliadau.

Paratoi:

  • Lluniwch gyfrif ac ymgyfarwyddo gyda meddalwedd Codio gweledol. Argymhellir Scratch ac mae am ddim ar-lein. (Dewis arall ydy J2Code sydd yn rhan o J2E)
  • Gan ddefnyddio’r cod yn y ddolen ymarferwch y gweithgaredd y bydd eich disgyblion yn ei wneud.

Gweithgareddau:

  1. Esboniwch ein bod yn symud o raglennu sylfaenol (Scratch Jr) i feddalwedd uwch (Scratch ar y cyfrifiadur). Fe fydd yna nifer o bethau yn y meddalwedd yma nad oes angen inni eu deall, felly peidiwch â phoeni am gymhlethdod y dewisiadau!
  2. Dangoswch enghraifft iddyn nhw o’r gath symudliw yr ydych wedi’i llunio o flaen llaw ac yna dangoswch iddyn nhww pa mor syml ydy’r cod. Dangoswch iddyn nhw sut i ddarganfod darnau yn ôl lliw a sut i’w llusgo i’r ardal Godio.
  3. Rhannwch allbrintiau o’r cod a gadewch i’r disgyblion ei ddilyn yn eu hamser eu hunain.
  4. Fel estyniad i’r gweithgaredd yma, gofynnwch i’r disgyblion ydyn nhw’n gallu ychwanegu un bloc i wneud i’r gath fewian rhwng pob newid lliw. (Rhowch gyfle iddyn nhw weithio hyn allan eu hunain. Peidiwch â rhoi cod enghreifftiol iddyn nhw.)

Cofiwch

  • Dim ond os bydd y disgyblion wedi gwneud y tasgau Codio mewn blynyddoedd blaenorol y byddan nhw’n barod i wneud y gweithgaredd yma. Cofiwch wirio hyn ac ystyried mynd yn ôl i weithgareddau’r flwyddyn flaenorol os ydyn nhw’n anghyfarwydd gyda’r pwnc.
  • Os ydych eisiau mwy na newid lliw yn unig, mae yna godau enghreifftiol eraill ar gael ar gyfer gweithgareddau Scratch syml. Cliciwch yma am rai enghreifftiau sydd ar gael ar-lein.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu codio fy nghodlun i newid lliw dros amser.

Elfennau Fframwaith Eraill

3.3 - Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanasesiad arferol.

Geirfa

cod     codlun

Syniadau Amrywio

Mae’r gweithgaredd syml yma wedi’i greu yn benodol ar gyfer newid lliw ar gyfnodau rheolaidd. Does yna ddim amrywiadau defnyddiol ar gael. Ond, os ydy eich disgyblion yn cyflawni’r dasg yn hawdd a’ch bod yn dymuno eu herio ymhellach, edrychwch ar y ddolen yn yr adran ‘Cofiwch’.

Gweithgaredd 3

Creu Gêm Gwis

scratch jr game

Fe ddylai eich disgyblion fod yn gyfarwydd gyda rhaglen godio syml o’u gweithgareddau ym Mlwyddyn 3. Y dewis a argymhellwn ydy Scratch Jr ac mae’r gweithgaredd yma yn adeilad ar y gweithgaredd ‘Codio Animeiddio’ ym Mlwyddyn 3.

Paratoi:

  • Lawrlwythwch ap codio syml sydd yn rhoi rhyddid i chi godio fel y mynnoch (argymhellir Scratch Jr).
  • Ymgyfarwyddwch gyda’r ap cyn ei gyflwyno i’ch dosbarth. Rhowch gynnig ar y gweithgaredd Spooky Forrest sydd ar gael ar wefan Scratch Jr (cliciwch yma).

Gweithgareddau

  • Atgoffwch y disgyblion sut i adeiladu cod syml yn Scratch Jr (gweler gweithgaredd ‘Datrys Problemau a Modelu' ym Mlwyddyn 3).
  • Dosbarthwch y ddalen gyfarwyddiadau Spooky Forest o wefan Scratch Jr a gofynnwch i’r disgyblion ddilyn y cyfarwyddiadau hynny.
  • Esboniwch bod y disgyblion wedi cael cais i greu gemau cwis syml ar gyfer disgyblion Blwyddyn 1. Fe ddylai eu gemau:
    • Cynnwys pedwar cwestiwn
    • Fe ddylid teipio pob cwestiwn naill ai fel teitl neu ei recordio fel sain a fydd yn chwarae’n awtomatig.
    • Fe ddylai pob cwestiwn gael tri dewis ateb Fe ddylai’r disgyblion ysgrifennu codau yn debyg i Spooky Forest fel bod tapio’r dewisiadau anghywir yn gwneud iddyn nhw grynnu neu ddiflannu, tra bod tapio’r dewisadau cywir yn eu llongyfarch ac yn symud ymlaen i’r olygfa nesaf.
  • Cliciwch ar y ddolen isod am gêm enghreifftiol.
  • Lluniwch gêm enghreifftiol fel dosbarth. Un syml oddi mewn i’r amgylchedd Scratch Jr ydy cael pysgodyn, cath ac arth wen mewn golygfa o dan y dŵr gyda’r cwestiwn “Pwy sydd yn byw yn y môr?"
  • Gofynnwch i’r disgyblion greu eu fersiwn eu hunain o’r gêm.
  • Ar ôl ei gorffen fe ddylai’r disgyblion fynd â’u iPads i ddosbarth iau i’w dangos i’r disgyblion iau a’u gwylio’n chwarae’r gêm.

Cofiwch

  • Mae’n debygol y bydd y gweithgaredd yma’n cymryd sawl gwers. Peidiwch â rhuthro pethau.
  • Dydych chi ddim yn gallu arbed gemau Scratch Jr oddi ar yr iPad felly fe fydd angen i chi dynnu lluniau, sgrinluniau neu fideos i recordio eich gwaith fel tystiolaeth.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu codio cymeriadau i symud pan maen nhw’n cael eu cyffwrdd.
  • Rwy’n gallu codio gêm i blant iau ei chwarae.

Elfennau Fframwaith Eraill

3.2 - Creu

Rydych chin creu gêm.

3.3 - Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanasesiad arferol.

Geirfa

cod     codlun (cymeriad)     blociau     cyfarwyddiadau     golygfa

Syniadau Amrywio

Mae yna ddigonedd o enghreifftiau codio y gallwch eu dilyn yn hytrach na Spooky Forest. Mae Scratch Jr yn boblogaidd iawn ac felly mae enghreifftiau newydd yn cael eu postio ar-lein gan bobl o amgylch y byd bob wythnos. Gwnewch chwiliad Google.