Menu

Taenlenni

4.2 - Llythrennedd Gwybodaeth a Data

Cyflwyniad

Taenlenni. Mae’r gair ei hun yn ddigon i roi cur pen i rai pobl. Ond ar lefel ysgol gynradd, mae taenlenni yn syml. Fydd hi fawr o dro cyn y bydd eich disgyblion yn llunio fformiwlau a graffiau!

Mae’r tri gweithgaredd yma yn cynnwys sgiliau gwahanol yn berthynol i daenlenni ac felly rydyn ni’n argymell eich bod yn gwneud y tri.

Fframwaith

4.2 - Llythrennedd Gwybodaeth a Data

  • Dechrau creu setiau data a thynnu gwybodaeth ohonynt ar ffurf tablau siartiau, taenlenni a chronfeydd data.

Sgil wrth Sgil

  • Fformatio celloedd cyfredol.
  • Dechrau tynnu gwybodaeth o’r daenlen i ateb cwetiynau penodol.
  • Defnyddio Llenwi i ddarganfod cyfansymiau ar gyfer nifer o resi.
  • Creu tabl a siart bar yn annibynnol.
  • Gyda chefnogaeth, ychwanegu borderi a graddliw.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

taenlen     cell     data     ychwanegu     fformat     fformiwla     rhes     colofn     cyfanswm     siart bar

Gweithgaredd 1

Holi Taenlen

Mae’r gweithgaredd cyntaf yma yn gyflym ac yn syml iawn. Mae’n anhebygol y byddwch yn treulio gwers gyfan arno. Fe fydd y disgyblion yn edrych ar daenlen rydych chi wedi ei llunio ac yn ateb cwestiynau syml yn berthynol i’r wybodaeth arni.

Paratoi:

  • Lluniwch amserlen trenau fel taenlen gan ddefnyddio Excel neu Google Sheets. Dylid cadw’r daenlen yn syml, yn debyg i’r enghraifft ar y chwith. (Neu defnyddiwch ein templed ni)
  • Ysgrifennwch bump neu chwech cwestiwn y gellir eu hateb drwy edrych ar y daenlen (e.e. faint o’r gloch mae’r trȇn yn gadael Pontypridd? Os ydw i eisiau cyrraedd Stryd y Frenhines Caerdydd cyn agosed â phosibl at 1pm, faint o’r gloch ddylwn i ddal fy nhrȇn o Ferthyr? Faint o amser mae’r trȇn gyntaf yn ei gymryd i deithio o Radur i Gaerdydd Canolog?)

Gweithgareddau:

  1. Dangoswch y daenlen i’r disgyblion. (Gall fod ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol neu gallwch ei argraffu, ond argymellir eu bod yn cael cyfle i agor copi ar gyfrifiadur er mwyn iddyn nhw ymgyfarwyddo gyda dyluniad Excel neu Google Sheets.
  2. Gofynnwch ychydig o gwestiynau enghreifftiol, i’w helpu i ymgyfarwyddo gyda fformat amserlen.
  3. Rhowch yr holl gwestiynau sydd i’w hateb iddyn nhw. I’r disgyblion mwy galluog gallwch wahaniaethu trwy ofyn cwestiynau sydd yn cynnwys mathemateg ychwanegol (e.e. Pa mor hir mae hi’n gymryd i’r trȇn deithio o Radur i Gaerdydd Canolog?)
  4. Gofynnwch i’r disgyblion ysgrifennu cwestiynau i herio ei gilydd.

Cofiwch

  • Mae hwn yn weithgaredd syml iawn, yn debyg i’r gweithgareddau darllen graff neu dabl yr ydych wedi’u gwneud ganwaith mewn gwersi Mathemateg.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu darganfod gwybodaeth ar daenlen.

Elfennau Fframwaith Eraill

2.2 - Storio a Rhannu

Mae darganfod y ddogfen yn y ffolder gywir a’i hagor yn ymarfer da.

Geirfa

taenlen     colofn     rhes     cell  

Syniadau Amrywio

Gallwch newid y gweithgaredd yma i  gynnwys unrhyw fath o amserlen.

Gweithgaredd 2

Beth am gael Parti

Ar ôl dysgu beth ydy taenlen yng Ngweithgaredd 1, fe fydd y disgyblion nawr yn dechrau ychwanegu eu data eu hunain i daenlen sydd wedi’i pharatoi a hyd yn oed defnyddio’r botwm fformiwla i greu fformiwlau adio a lluosi syml.

Paratoi:

  • Creu taenlen yn Excel neu Google Sheets (Neu defnyddio ein rhai ni). Fe ddylai’r daenlen gynnwys rhestr o eitemau y gellir eu prynu ar gyfer parti, gyda phris ar gyfer pob eitem yn y golofn nesaf.
  • Rhannwch y daenlen gyda'ch disgyblion fel fod copi yr un ganddynt.

Gweithgareddau:

  1. Esboniwch eu bod yn mynd i gynllunio parti i 30 o bobl a bod ganddyn nhw gyllideb o £100.
  2. Dangoswch y daenlen i’r disgyblion ac esboniwch sut i agor ac arbed eu copi eu hunain (neu os yn defnyddio Google Classroom, rhannu copi i bob disgybl.)
  3. Fe fydd y disgyblion yn creu trydydd colofn, yn ysgrifennu faint o bob eitem i’w brynu. Does dim angen iddyn nhw boeni gormod am y gost hyd yn hyn.
  4. Dangoswch iddyn nhw sut i droi’r bedwaredd golofn yn golofn cyfansymiau, gan ddefnyddio’r swyddogaeth fformiwla ar y rhes gyntaf i luosi cost fesul eitem gyda nifer yr eitemau. Yna maen nhw’n gallu copïo’r fformiwla honno a’i gludo i weddill y celloedd yn y bedwaredd golofn i ailadrodd y cyfrifiad ar gyfer yr holl eitemau.
  5. Yna fe ddylen nhw greu fformiwla yn adio’r cyfansymiau yn y bedwaredd golofn i ddarganfod cost terfynol eu parti.
  6. Os ydy’r pris yn sylweddol o dan neu dros £100, fe ddylen nhw addasu eu harcheb i ddod â’r gost yn nes at eu cyllideb.

Cofiwch

  • Fel estyniad i’r dasg yma, dywedwch wrthyn nhw eu bod wedi cael £50 ychwanegol i’w wario. Gofynnwch iddyn nhw addasu eu harcheb i gyrraedd y gyllideb newydd.
  • Dydy taenlenni ddim hanner mor gymhleth ag y mae pobl yn ei feddwl. Cymrwch eich amser gyda’r gweithgaredd yma ac arweiniwch y disgyblion gam wrth gam ac fe fydd yn hawdd (iddyn nhw ac i chi!)

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu fformatio celloedd fel cyfred.
  • Rwy’n gallu defnyddio fformiwlau i ychwanegu rhes gyfan o gelloedd.
  • Rwy’n gallu copïo a gludo fformiwla i’w ddefnyddio mewn nifer o resi.

Elfennau Fframwaith Eraill

3.3 - Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanasesiad arferol.

Geirfa

taenlen     cell     colofn     rhes     fformat     cyfred     fformiwla     copïo     gludo

Syniadau Amrywio

Gellir addasu’r gweithgaredd yma i gyd-fynd ag unrhyw bwnc sydd angen cyllideb (trip ysgol, trefnu stondin elusen).

Gweithgaredd 3

Graffiau Annibynnol

Ym Mlwyddyn 3 cafod y disgyblion eu tywys drwy’r camau o greu siart bar syml o Excel neu Google Sheets. Ym Mlwyddyn 4 does yna ddim sgiliau gwneud graff newydd i’r dysgu, ond fe ddylai’r disgyblion ddod yn hyderus mewn creu tabl a graff bar yn gyflym gyda thaenlenni. Er eich bod yn gallu gwneud graffiau yn hawdd mewn Purple Mash neu J2E hefyd, mae’r gweithgaredd yma yn ymwneud yn benodol gyda thaenlenni felly glynnwch at  Excel neu Google Sheets.

Graff Hoff Fwyd

Paratoi:

  • Cynhaliwch arbrawf gwyddonol neu arolwg mathemateg a  fydd yn casglu data fel cyfrif (y byddan nhw’n ei ddefyddio i greu siart bar yn y gweithgaredd yma).

Gweithgareddau

  • Mae’r disgyblion yn creu taenlen wag gyda Excel neu Google Sheets.
  • Atoffwch nhw bod angen iddyn nhw greu dwy golofn, un gyda’r dewisiadau ac un gyda’r cyfrif.
  • Rhowch yr holl ddata o’u siartiau cyfrif i mewn i’r daenlen.
  • Amlygwch y ddwy golofn a defnyddiwch y swyddogaeth graff i greu siart bar.
  • Gwnewch yn siŵr bod yr echelau wedi’u labelu’n gywir a bod teitl ar y graff.

Cofiwch

  • Mae hwn yn weithgaredd tebyg iawn i’r un ym Mlwyddyn 3. Y diben ydy datblygu eu hyder mewn creu tablau a graffiau o’r fath yn gyflym ac heb fawr o gymorth.
  • Er ei bod yn bwysig dysgu disgyblion i fod yn ddethol ynghylch argraffu, mae graff bar wedi’i gwblhau yn werth ei argraffu!

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu rhoi data i mewn i daenlen yn annibynnol.
  • Rwy’n gallu creu graff bar o fy nhaenlen yn annibynnol.

Elfennau Fframwaith Eraill

3.1 – Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

Gall y dosbarth greu Meini Prawf Llwyddiant ar gyfer graff da.

3.3 – Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanasesiad arferol.

Geirfa

colofn     rhes     cell     graff bar     echel     label

Syniadau Amrywio

Ar wahân i newid pwnc yr arolwg, does fawr o amrywiad yma. Mae’n dasg syml!