Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da
1.1
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Beth i’w rannu?
Trafodwch pam bod gor-rannu yn gallu bod yn broblem ac esboniwch sut y bydd unrhyw beth y maen nhw’n ei rannu yn dal yn weledol ymhen 20 mlynedd. Gofynnwch iddyn nhw feddwl beth fydden nhw eisiau i’w rhieni, athrawon, eu bos yn y dyfodol neu eu ffrindiau yn y dyfodol ei ddarganfod amdanyn nhw ar-lein. Gofynnwch i’r disgyblion greu fideo ar gyfer disgyblion eu hoedran nhw yn esbonio pa fathau o bethau y dylid eu cadw’n breifat a beth sy’n iawn i’w rannu.
Trafod defnyddio’r Rhyngrwyd gydag Oedolion
Pwysleisiwch bwysigrwydd trafodaeth agored a gonest am weithgareddau ar-lein yn rheolaidd (gyda disgyblion a rhieni). Anogwch y disgyblion i drafod eu diddordebau ar-lein gyda’u rhieni.
Cryfder Cyfrinair
- Mae Gwers 1, Blwyddyn 5 o gynlluniau dysgu Diogelwch Ar-lein SWGfL yn delio gyda ‘Cyfrineiriau Cryf’.