Cyfathrebu
2.1
Gweithgaredd 1
Fy Llyfr Cyfeiriadau
Os ydy e-bostio wedi cael ei ddysgu’n dda ym Mlynyddoedd 3 a 4, yna fe ddylai eich disgyblion fod yn ei ddefnyddio’n rheolaidd erbyn hyn. Gallwn eu helpu drwy ychwanegu ychydig sgiliau ychwanegol i’w repertoire. Yn y gweithgaredd yma rydyn ni’n tywys y disgyblion drwy’r broses o greu llyfr cyfeiriadau e-bost.
Paratoi:
- Gwnewch yn siŵr bod gan pob plentyn fynediad i rhyw fath o ebost ysgol diogel. Gall hynny fod drwy Hwb neu G Suite for Education (Fe ddylen nhw erbyn hyn fod wedi graddio o’r system ebost 'replica' yn Purple Mash). Os nad ydy hyn wedi’i sefydlu eisoes yn eich ysgol, atgoffwch eich Arweinydd Technoleg o’i bwysigrwydd!
- Gwnewch yn siŵr bod gan eich disgyblion brofiad ebostio o Flynyddoedd 3 a 4. Os na, edrychwch ar weithgareddau Cyfathrebu ym Mlynyddoedd 3 a 4.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd gyda’r nodwedd Llyfr Cyfeiriadau/Cysylltiadau yn eich system ebost.
Gweithgareddau:
- Arweiniwch y disgyblion gam wrth gam drwy’r broses o ychwanegu pobl at eu llyfr cyfeiriad. Gofynnwch iddyn nhw ychwanegu aelodau’r dosbarth. (Fe fyddai’n gwneud pethau’n haws pe byddech yn rhoi eu cyfeiriadau ebost ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol.)
- Anfonwch neges ebost at eich disgyblion. Dangoswch iddyn nhw sut i ychwanegu eich cyfeiriad ebost o’r neges yma yn uniongyrchol i’w llyfr cyfeiriadau (‘Ychwanegu Cysylltiadau’).
- Rhowch y disgyblion mewn parau a gofynnwch iddyn nhw ebostio ei gilydd o’u Llyfr/Cysylltiadau Cyfeiriadau.
Ychwanegu i'r Llyfr Cysylltiadau
Cofiwch
- O ran ebost, mae gwir angen i chi wybod pa brofiad blaenorol sydd gan eich disgyblion. Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn disgwyl i ddisgybl Blwyddyn 5 fod wedi bod yn ebostio yn annibynnol ac yn rheolaidd ers Blwyddyn 4. Wrth gwrs, efallai nad ydy hynny’n wir o ran eich dosbarth chi ac os felly, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi edrych ar weithgareddau Blynyddoedd 3 a 4 i ddechrau cyn symud ymlaen i’r gweithgaredd Blwyddyn 5 yma.
- Mae angen i chi roi pwyslais mawr ar bwysigrwydd e-ddiogelwch wrth ddysgu ebost.
Gweithgaredd 2
Annwyl Syr. S’mai Ffrind!
Mae’r gweithgaredd yma yn ffordd o ddysgu’r gwahaniaeth i’r disgyblion rhwng negeseuon ebost anffurfiol a ffurfiol, ac mae hefyd yn rhoi cyfle iddyn nhw drafod gwahanol ffurfiau o gyfathrebu a’r amser gorau i ddefnyddio pob un.
Paratoi:
- Paratowch weithgaredd didoli neu gwis sydd yn rhoi cyfle i’r disgyblion drafod y ffurfiau o gyfathrebu sydd yn addas i wahanol achlysuron. Rydyn ni’n argymell Kahoot ar gyfer cwisiau ar-lein, neu gardiau wedi’u hargraffu iddyn nhw eu didoli.
- Ysgrifennwch ebost ffurfiol enghreifftiol i’r Pennaeth ac ebost anffurfiol at ffrind.
- Fel yng Ngweithgaredd 1, gwnewch yn siŵr bod gan eich disgyblion fynediad i gyfrif ebost ysgol a’u bod wedi dysgu ei ddefnyddio’n annibynnol yn y blynyddoedd blaenorol.
Gweithgareddau:
- Rhowch sawl enghraifft i’r disgyblion a gadewch iddyn nhw benderfynu pa ffurf o gyfathrebu fyddai orau ym mhob achos.
- Cais am swydd - llythyr
- Rhannu llun digrif gyda ffrind - neges chwim
- Dweud wrth eich Mam y byddwch yn hwyr i de – neges destyn/chwim
- Rhoi gwybod i’r ysgol bod eich plentyn yn sâl – galwad ffôn
- Diolch i rhywun am drefnu trip dosbarth – ebost
- Sgwrsio gyda ffrind mewn gwlad arall – galwad fideo
- Sgwrsio gyda’ch ffrind gorau yn yr ysgol – yn bersonol!
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod pob ateb yn drylwyr, ac yn rhoi cyfle i’r disgyblion fynegi barn.
- Dangoswch ddwy neges ebost, un gan ffrind ac un arall gan y Pennaeth. Beth ydy’r gwahaniaeth? (Ffurf o gyfeirio, ysgrifennu mewn paragraffau, ysgrifennu ffurfiol etc.)
- Gofynnwch i’r disgyblion ysgrifennu neges ebost at ffrind yn eu llyfr cyfeiriad i drafod, er enghraifft, y gêm rygbi dros y Sul, eu hoff fath o gi bach neu’r cerdyn Pokemon maen nhw’n ysu i’w gael (neu beth bynnag!)
- Yna gofynnwch i’r disgyblion ysgrifennu neges ebost, efallai at y Pennaeth neu eu tywysydd ar drip ysgol diweddar.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn amlygu enghreifftiau da o gynnwys ffurfiol yn yr ail neges ebost ac yn ei chymharu gyda’r wybodaeth yn y gyntaf.
Cofiwch
- Erbyn hyn fe ddylai eich disgyblion fod yn gyfforddus iawn wrth anfon negeseuon ebost, felly canolbwyntiwch ar y gwahaniaeth rhwng negeseuon ebost anffurfiol a ffurfiol a phryd i ddefnyddio gwahanol fathau o gyfathrebu.
Gweithgaredd 3
Galwad Fideo
Dydy galwadau fideo ddim y dull hawsaf i’w ddysgu i ddisgyblion am gyfathrebu ar-lein. Yn aml mae hidlwyr Awurdodau Lleol yn blocio mynediad i Skype a Facetime mewn ysgolion, a gall yr angen i gael rhywun ar ben arall yr alwad fod yn hunllef os ydy pob plentyn yn mynd i wneud galwad bersonol.
Yr ateb syml ydy cyfyngu Galwadau Fideo i weithgaredd dosbarth cyfan, gan ddefnyddio rhai o’r awgrymiadau isod. Fe fydd angen dadflocio Skype neu Facetime, ond dim ond ar gyfer cyfrifon athrawon. Gan fod Galwadau Fideo yn cael eu crybwyll yn benodol yn y Ffframwaith ni ddylai fod gan eich Awdurdod Lleol broblem gyda rhoi caniatâd i hyn.
Awgrymiadau ar gyfer Gweithgareddau
- Pan fyddwch ar drip ysgol, treuliwch amser ar Hangouts Meet, FaceTime neu Skype gyda dosbarth arall yn yr ysgol yn dweud wrthyn nhw sut hwyl rydych chi’n ei gael. Mae hyn yn gweithio hyd yn oed yn well ar drip preswyl.
- Trefnwch ‘Skype/Hangout Dirgel'. Mae hyn yn cynnwys trefnu galwad fideo rhwng eich dosbarth a dosbarth arall mewn ardal, sir neu wlad arall (o fewn parth amser tebyg). Mae’r dosbarthiadau yn gofyn cwestiynau i’w giydd ac yn ceisio dyfalu ym mha ardal neu wlad mae’r dosbarth arall yn byw. Gallwch ddarganfod ysgol i wneud Skype Dirgel gyda nhw trwy wefan Mystery Skype Microsoft.
- Treuliwch amser FaceTime gyda Siôn Corn! Os oes gennych wirfoddolwr sydd yn fodlon gwisgo fel Siôn Corn, gofynnwch iddyn nhw wneud galwad fideo gyda’r dosbarth cyfan cyn y Nadolig i ofyn cwestiynau ac i’w hatgoffa i fod yn dda.
- Siaradwch wyneb yn wyneb gyda Harri’r VIII. Os oes rhywun yn fodlon gwisgo’i fyny fel cymeriad hanesyddol, gofynnwch iddyn nhw gynnal galwad fideo gyda’r dosbarth i ateb cwestiynau.