Cydweithio
2.2
Gweithgaredd 1
Ble yn y Cwmwl?
Os gwnaethon nhw ddilyn y Fframwaith ym Mlynyddoedd 3 a 4 fe ddylai’ch disgyblion fod yn gyfforddus iawn erbyn hyn gyda gweithio ar ddogfennau cydweithio. (Os na, ewch yn ôl at weithgareddau Cydweithio Blynyddoedd 3 a 4 a dechrau yno). Ym Mlwyddyn 5 fe ddylen nhw ddechrau darganfod eu ffordd yn haws o gwmpas eu gyrrwyr cwmwl. Mae’r gweithgaredd yma yn eu dysgu sut i ddarganfod, ailenwi a symud ffeiliau.
Paratoi:
- Gwnewch yn siŵr bod gan bob plentyn fanylion mewngofnodi i gwmwl ar-lein (OneDrive neu Google Drive).
- Gwnewch yn siŵr bod y disgyblion wedi gwneud gwaith cydweithio ym Mlwyddyn 3 a 4. Os na, yna dechreuwch gyda’r gweithgareddau ar gyfer Blwyddyn 3.
Gweithgareddau:
- Dangoswch iddyn nhw sut i greu ffolderi yn y gyrrwr ar-lein. Gofynnwch i’r disgyblion greu ffolderi o’r enw Blwyddyn 3, Blwyddyn 4 a Blwyddyn 5.
- Rhowch amser i’r disgyblion drefnu eu gwaith blaenorol yn y blynyddoedd cywir. Os nad ydyn nhw’n sicr o ddyddiad dogfen, gellir ei gadael gan y bydd hyn yn cael ei drafod yng ngham 4.
- Yna, dangoswch i’r disgyblion sut i chwilio yn eu gyrrwyr cwmwl. Mae’r rhan fwyaf o yrrwyr cwmwl yn eich galluogi i chwilio yn ôl enw ffeil, yn ôl y geiriau sydd yn y ddogfen ac yn ôl llu o ffactorau eraill. Amlygwch y chwiliad yn ôl swyddogaeth dyddiad i ddangos iddyn nhw sut i ddarganfod gwaith sydd wedi’i greu rhwng dyddiadau neilltuol.
- Wrth ddefnyddio’r swyddogaeth chwilio yn ôl dyddiad, gall y disgyblion weithio allan pryd y cafodd unrhyw waith heb ei ffeilio ei greu a’i ddidoli i’r ffolderi cywir.
- Atgoffwch y disgyblion o’r ffordd orau i enwi dogfen (Teitl ac enw(au) y rhai sydd wedi’i chreu). Gofynnwch iddyn nhw ailenwi unrhyw ddogfen sydd ddim yn dilyn y fformat yma.
Rhannu a Threfnu yn Google Drive
Cofiwch
- Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu G Suite for Education neu Office 365 eto, mae’n hen bryd iddi wneud hynny. Mae’r ddau am ddim a mae cyfrifon gan eich disgyblion drwy Hwb.
- Mae’n debygol na fydd gennych ddigon o ddyfeisiadau i bob disgybl yn y dosbarth gael un yr un. Peidiwch â chael eich temptio i rannu cyfrifiaduron. Nid dyna ydy diben yr elfen yma. Os ydy dyfeisiadau yn gyfyngedig, trefnwch i un grŵp weithio ar y tro.
- Nawr bod eich disgyblion yn gallu cymryd rheolaeth dros eu gyrrwr, fe ddylen nhw ei gadw’n drefnus yn annibynnol wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi.
- Mae hwn yn weithgaredd syml, i’w dysgu sut i drefnu eu gyrrwr cwmwl. Edrychwch ar y rhestr o weithgareddau ar waelod y dudalen hon i weld sut y gallwch barhau i ymarfer cydweithio drwy gydol y flwyddyn.
Gweithgaredd 2
Blog ar y Cyd
Hyd yn hyn mae’ch disgyblion wedi bod yn cydweitho, ochr yn ochr yn y dosbarth yn bennaf. Yn y gweithgaredd yma fe fydd y disgyblion yn gweithio o gartref, heb unrhyw sicrwydd y bydd eu partner ar-lein ar yr un pryd.
Paratoi:
- Gwnewch yn siŵr bod gan bob plentyn fewngofnodion i yrrwr ar-lein (OneDrive neu Google Drive).
- Gwnewch yn siŵr bod y disgyblion wedi gwneud gwaith cydweithio ym Mlwyddyn 3 a 4. Os na, yna dechreuwch gyda’r gweithgareddau ar gyfer Blwyddyn 3.
Gweithgareddau:
- Esboniwch beth ydy blog i’ch disgyblion. (Yn debyg i erthygl, ond wedi’i gyhoeddi ar un dudalen rhyngrwyd mewn trefn gronolegol).
- Fel gwaith cartref, gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu post blog (gan ddefnyddio prosesydd geiriau fel Google Docs, Pages neu Word) ar bwnc neu drip dosbarth diweddar. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod pwy ydy eu partner, ond nodwch y dylen nhw fod yn gwneud eu gwaith cartref o’u cartref ac nid gyda’i gilydd.
- Atgoffwch nhw sut i greu a rhannu dogfen (fe ddylai hyn fod yn gyfarwydd iddyn nhw erbyn hyn) a sut i adael sylwadau ar ymyl y gwaith. Mae modd iddyn nhw adael negeseuon i’w partneriaid yn trafod syniadau ar gyfer y blog. Gallwch hefyd nodi y byddai ychwanegu delwedd yn gwneud y gwaith gorffenedig yn fwy diddorol.
- Unwaith y bydd y disgyblion wedi ysgrifennu eu post blog, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei arddanos yn rhywle ar-lein. Fe ddylen nhw deimlo bod yna bwrpas i’w hysgrifennu!
Cofiwch
- Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu G Suite for Education neu Office 365 eto, mae’n hen bryd iddi wneud hynny. Mae’r ddau am ddim a mae cyfrifon gan eich disgyblion drwy Hwb.
- Cofiwch bwysleisio na ddylen nhw gyfarfod gyda’i gilydd i wneud y gwaith carrtref. Holl bwrpas yr ymarferiad ydy cydweithio o wahanol leoedd ac ar wahanol adegau. Mae’r swyddogaeth sylwadau ar gael er mwyn iddyn nhw adael negeseuon i’w gilydd yn trafod eu camau nesaf etc.
Prosiectau
Unwaith y bydd y disgyblion wedi dysgu sgiliau gwahodd eraill i’w dogfen a gwneud sylwadau ar waith ei gilydd, peidiwch â meddwl mai dyna ydy diwedd ar waith cydweithio ym Mlwyddyn 5! Fe ddylen nhw ddod yn hyderus wrth gydweithio a rhannu dogfennau, gan ymgorffori’r sgiliau hynny yn rheolaidd yn eu gwaith. Dyma rai synadau ar gyfer prosiectau y gallan nhw gydweithio arnyn nhw.
Awgrymiadau am weithgareddau
- Lluniwch PowerPoint / Google Slide ar eich pwnc cyfredol. Mae un disgybl yn teipio, un yn ychanegu delwedd ac un yng ngofal y dyluniad a gwirio’r sillafu.
- Lluniwch fideo ar yr iPad (gweler 3.2 'Creu'), uwchlwythwch i’r cwmwl a rhannwch gyda’ch cyd-ddisgyblion er mwyn iddyn nhw gael gweld y fideo.
- Defnyddiwch Word / Google Doc i greu cynllun ar y cyd ar gyfer stondin elusen grŵp, gyda phawb yn cyfrannu eu syniadau.
- Rhannwch waith yn rheolaidd ar gyfer asesiad cymheiriaid gan ddefnyddio sylwadau.
- Gofynnwch i’r disgyblion greu gwaith yn rheolaidd yn y cwmwl a’i rannu gyda chi.