Storio a Rhannu
2.3
Arbed yn Fanwl
Rheoli Ffolder
Mae pob un ohonom yn gwybod sut beth ydy ffolder blêr. (Ydych chi wedi gweld gweinydd eich ysgol yn ddiweddar?) Edrychwch ar y gweithgaredd ‘Lle yn y Cwmwl’ yn 2.2. ‘Cydweithio’ i helpu i’w dysgu sut i ofalu am eu gyrrwyr ar-lein a gwyliwch y fideo isod i'ch helpu gyda rheoli eich gyrrwr.
Gyrrwyr Allanol
Gyda dyfodiad arbed yn y cwmwl, efallai nad ydy defnyddioldeb USB mor amlwg. Nodwch nad ydy mynediad i’r rhyngrwyd bob amser yn ddibynadwy a gyda gyrrwr allanol fel USB mae gennym rhywbeth wrth gefn os na allwn gael mynediad i’n dogfen cwmwl. Er na fydd angen hynny bob amser os ydyn ni’n mynd i roi cyflwyniad gweledol neu os oes rhaid argraffu dogfen neilltuol heddiw, yna mae cael cynllun B ar yrrwr USB yn syniad da!
Chwilio am Ffeiliau
Fe fydd gan pob gweinydd a chwmwl y mae eich disgyblion wedi bod yn eu defnyddio i arbed eu gwaith swyddogaeth chwilio. Ar weinydd yr ysgol y cyfan y gallwch ei wneud mewn gwirionedd ydy chwilio yn ôl enw, ond dangoswch iddyn nhw ddyfnder y chwiliad posibl mewn Google Drive neu OneDrive. Gallwch chwilio yn ôl enw, dyddiad, perchennog, math o ffeil etc. Mae hi mor hawdd darganfod y ffeil coll yna. Mae’r gweithgaredd ‘Lle yn y Cwmwl’ yn 2.2 ‘Cydweithio’ yn canolbwyntio ar hyn.
Rhannu
Pa bleser sydd yna mewn gwneud fideo neu ddylunio poster os nad oes neb yn ei weld? Fe ddylai pob tasg fideo gorffenedig gael ei ddangos i’r dosbarth o leiaf. Fe ddylid arddangos pob poster. Mae arbed yn y cwmwl yn galluogi disgyblion i rannu gyda’i rhieni hefyd, gan ddefnyddio codau QR. Dysgwch nhw sut i wneud hyn i arbed gorfod creu 30 o godau QR!
Dydy arbed ddim yn anodd i’w addysgu na’i ddysgu. Dangoswch iddyn nhw yn union sut i wneud hynny ac fe fyddan yn gwneud hynny’n berffaith drwy’r flwyddyn!