Prosesu Geiriau
3.2 - Creu
Gweithgaredd 1
Papur Newydd y Dosbarth
Mae papurau newydd yn defnyddio amrediad eang o fformatau ac effeithiau i ddenu darllenwyr. Maen nhw’n rhannu tudalennau yn golofnau, delweddau, penawdau, dyfyniadau a thestun o wahanol faint.
Mae ysgrifennu erthyglau papur newydd felly yn ffordd ardderchog o ddysgu amrediad ehangach o fformatio prosesu geiriau.
Paratoi:
- Dysgwch uned ar erthyglau papur newydd, sydd yn gorffen gyda chyfansoddi erthygl bapur newydd wedi’i theipio ar dudalen wag heb unrhyw fformatio arbennig.
- Dewiswch amrediad o erthyglau papur newydd sydd yn dangos nodweddion y dyluniad (h.y. pennawd, is-bennawd, colofnau, dyfyniadau, delweddau etc.)
Gweithgareddau:
- Agorwch ddogfen newydd ar brosesydd geiriau (Word 365 neu Google Docs neu Pages).
- Newidiwch faint yr ymylon gan ddefnyddio Cysodi Tudalen. Hefyd, dangoswch i’r disgyblion sut i ddewis rhwng portread a thirwedd.
- Defnyddiwch flychau testun i greu baner y papur newydd (enw’r papur newydd, dyddiad, pris). Noder: Yn Google Docs gallwch gael mynediad i flychau testun trwy’r nodwedd Insert -> Drawing. Peidiwch â defnyddio WordArt ar gyfer y pennawd. Gofynnwch i’ch disgyblion ddewis ffont priodol yn lle hynny.
- Ychwanegwch bennawd ac is-bennawd, gan newid maint y ffont fel bo angen. Dangoswch iddyn nhw sut i ailinio’r pennawd i ganol y dudalen.
- Dangoswch iddyn nhw sut i ychwanegu colofnau o dan y pennawd. Yna gall y disgyblion agor eu gwaith erthygl a’i gopïo a’i ludo i’r colofnau.
- Unwaith y byddan nhw wedi gorffen copïo a gludo eu gwaith ysgrifenedig (a gwirio’r sillafu gyda gwirydd sillafu) fe ddylen nhw chwilio am ddelwedd berthnasol, naill ai ar eu cyfrifiadur neu wedi’i gopïo a’i ludo o’r we, a’i fewnosod i’w dyluniad. Fe ddylen nhw wybod sut i wneud hyn, ond fe fydd angen i chi dangos iddyn nhw sut i newid cyfliniad y ddelwedd er mwyn iddyn nhw allu ei symud o gwmpas a’i osod lle maen nhw eisiau.
- Ychwanegwch ddyfyniadau at y ddelwedd, gyda blwch testun. Defnyddiwch aliniad i’w ganoli yn fertigol yn ogystal ag yn llorweddol.
- Argraffwch yr erthygl gydag argraffydd penodol. Dangoswch iddyn nhw sut i argraffu dwy dudalen ar un tudalen A4 fel bod y rhai gydag erthyglau hirach yn gallu ffitio eu gwaith ar un dudalen.
Sgiliau Fformatio yn Google Docs - Bl 5/6
Cofiwch
- Dylid ysgrifennu’r erthygl o flaen llaw oherwydd dydy hon ddim yn wers sydd yn canolbwyntio ar iaith. Mae’r pwyslais yma ar gyflwyno sgiliau digidol newydd a fydd yn anghyfarwydd i’r rhan fwyaf o ddisgyblion.
- Dangoswch enghreifftiau o’r sgiliau yma. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd y disgyblion yn gwybod sut i’w gwneud – fydd y rhan fwyaf ddim yn gwybod.