Cyflwyno
3.2 - Creu
Gweithgaredd 1
Cyflwyno fel Tîm
Erbyn hyn fe ddylai fod gan eich disgyblion brofiad sylweddol mewn creu cyflwyniadau gan ddefnyddio un neu ddau feddalwedd (e.e. PowerPoint, Google Slides). Mae’n debygol hefyd y byddan nhw’n gymharol gyfforddus gydag offer cydweitho oddi mewn i’r meddalwedd cyflwyno hynny. Mae’r gweithgaredd yma yn canolbwyntio’n bennaf ar ychwanegu sgiliau cyflwyno newydd i’w repertoire, ond mae hefyd yn gyfle gwych i ymarfer eu cydweithio.
Noder: Mae’r gweithgaredd yma yn dilyn ymlaen o’r gweithgareddau cyflwyno ym Mlynyddoedd 3 a 4. Os na ddysgwyd y gweithgareddau hynny i’r disgyblion ym Mlynyddoedd 3 a 4, efallai y byddwch eisiau dechrau yno.
Paratoi:
- Mae’r gweithgaredd yma yn canolbwyntio ar y sgiliau technoleg ac felly gwnewch yn siŵr bod eich disgyblion naill ai wedi ymchwilio i’w pwnc mewn gwersi blaenorol neu bod ganddyn nhw ddalenni ffeithiau clir o’u blaenau.
- Gwyliwch i fideo isod i ymgyfarwyddo gyda rhai o'r offer o fewn Google Slides.
Pontio, Animeiddio a Dolenni yn Google Slides
Gweithgareddau:
- Dechreuwch trwy ddangos cyflwyniad enghreifftiol ar eich pwnc. (Ar gyfer yr enghraifft yma fe wnawn ddefnyddio ‘Gwledydd’ fel pwnc, ond gall fod yn unrhyw beth). Dylid rhannu’r cyflwyniad yn sawl adran (e.e. 10 sleid i gyd; tudalen deitl, 3 sleid ar un agwedd o’r pwnc, 3 ar yr ail agwedd a 3 ar y drydedd agwedd).
- Esboniwch y bydd y disgyblion yn gweithio gyda’i gilydd mewn grwpiau i greu cyflwyniadau tebyg. Atgoffwch nhw bod yna sawl meddalwedd cyflwyno (e.e. Google Slides, Keynote, PowerPoint, Prezi) ond ar gyfer y gweithgarwch yma fe fydd pawb yn defnyddio’r un fath (o ddewis, Google Slides, Keynote neu Powerpoint).
- Trafodwch y gwahanol ‘adrannau’ y gallech eu defnyddio i bortreadu gwlad (e.e. daearyddiaeth, pobl, diwylliant, bwyd, chwaraeon, ffasiwn), yna gofynnwch iddyn nhw benderfynu pa dair adran fyddan nhw’n eu defnyddio yn eu cyflwyniad.
- Yn eu grwpiau, fe ddylai’r disgyblion fapio allan eu 10 sleid, a phenderfynu beth fydd y dair brif adran a pha deitl fydd ar bob sleid yn yr adrannau hynny (e.e. gyda’r adran ddaearyddiaeth gellid cael sleid ar leoliad y wlad, sleid ar y dinasoedd a’r rhanbarthau pwysicaf, a sleid ar fynyddoedd ac afonydd nodedig). Fe ddylen nhw fapio eu cynllun fel siart llif.
- Trafodwch bwysigrwydd dewis dyluniad lliw sydd yn berthnasol i’w pwnc. O ran gwledydd, gallai hyn gynnwys defnyddio lliwiau’r wlad fel cefndir a lliw ffont.
- Dangoswch iddyn nhw sut i greu dolenni o un sleid i’r llall fel eich bod yn gallu mynd ymlaen drwy glicio ar saeth neu fotwm ar y sleidiau. Rhowch gyfle iddyn nhw ymarfer y sgil yma.
- Atgoffwch nhw i animeiddio gwrthrychau (e.e. llun yn hedfan i mewn neu yn ymddangos) a dangoswch unrhyw osodiadau trawsnewid ar eich dewis meddalwedd (e.e. ar Google Slides gallwch gyflymu neu arafu’r animeiddio).
- Fe ddylai’r disgyblion nawr greu eu cyflwyniad yn ôl eu cynllun, gyda phob aelod o’r grŵp yn canolbwynto ar un adran. Ni ddylen nhw fod yn gweithio fel grŵp o un cyfrifiadur – fel rheol mae hyn yn esgor ar un person yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith. Os ydych chi a’ch disgyblion yn gyfarwydd gyda dulliau cydweithio Google Slides neu PowerPoint 365 yna mae hwn yn gyfle ardderchog i’w defnyddio. Os na, gofynnwch iddyn nhw greu cyflwyniadau ar wahân ar gyfrifiaduron ar wahân (h.y. pob un i wneud tair sleid yr un, yna agor y gwaith ar un cyfrifiadur a’u huno trwy gopïo a gludo)
- Gwnewch yn siŵr eu bod yn edrych yn rheolaidd ar waith aelodau eu grŵp ac yn cynnig sylwadau adeiladol.
- Unwaith y byddan nhw wedi gorffen mae angen i’r disgyblion gyflwyno i’r dosbarth. Pwysleisiwch bwysigrwydd darllen y sleidiau a hefyd ychwanegu at beth sydd wedi ei ysgrifennu arnyn nhw a bod yn barod i ateb cwestiynau, Gwnewch yn siŵr bod disgybl arall yn ffilmio eu cyflwyniad fel bod modd i’r grwp ei wylio yn nes ymlaen a chynnal hunanasesiad.
Cofiwch
- Pwysleisiwch y neges nad ydyn ni’n argraffu popeth, dim ond gwaith gorffenedig rydyn ni eisiau ei arddangos. Mae cyflwyniadau yno i’w cyflwyno yn bennaf ac nid i’w hargraffu.
Gweithgaredd 2
Dethol Cyflwyniad
Un agwedd bwysig o ennyn hyder mewn technoleg ydy gwneud tasgau tebyg gan ddefnyddio gwahanol feddalwedd. Er enghraifft, gellir gwneud cyflwyniad mewn Google Slides, PowerPoint, Keynote, Prezi neu gan ddefnyddio un o nifer o feddalwedd eraill. Mae’r rhan fwyaf o sgiliau yn drosglwyddadwy (h.y. unwaith y gallwch greu trawsnewid mewn un, dydy hi ddim yn rhy anodd i wneud yr un peth yn y lleill). Mae’r gweithgaredd yma yn gyfle i’r disgyblion ddewis sut i greu eu cyflwyniad.
Paratoi:
- Mae’r gweithgaredd yma yn canolbwyntio ar y sgiliau technoleg, felly gwnewch yn siŵr bod gan y disgyblion ddalen ffeithiau glir ar bwnc eu cyflwyniad.
Gweithgareddau:
- Atgoffwch y disgyblion o’r holl wahanol fathau o feddalwedd cyflwyno maen nhw wedi eu profi (e.e. Google Slides, Keynote, PowerPoint). Efallai y gallech gyflwyno meddalwedd hefyd nad ydyn nhw’n orgyfarwydd ag ef (e.e. Prezi).
- Rhowch set o ffeithiau iddyn nhw ar bwnc neilltuol.
- Gofynnwch iddyn nhw greu cyflwyniad gan ddefnyddio’r ffeithiau hynny ar unrhyw un o‘r meddlawedd hynny a rhowch wybod iddyn nhw y bydd dosbarth arall yn pleidleisio ar eu hoff un.
- Mae’r sialens yma yn ymwneud â dylunio a gwneud i’w cyflwynaid edrych yn ddenidol. Gall y disgyblion mwyf hyderus ddewis defnyddio’r meddalwedd mwy anarferol er mwyn bod yn wahanol.
- Dewiswch 3 neu 4 o’r cyflwyniadau sydd wedi’u dylunio a gofynnwch i’r dosbarth drws nesaf bleidleisio ar yr un maen nhw’n ei hoffi orau.