Lluniau a Fideo
3.2 - Creu
Gweithgaredd 1
Hud y Sgrin Werdd
Roedd technoleg sgrin werdd yn arfer bod yn offer drud i wneuthurwyr ffilm proffesiynol. Ond y dyddiau yma y cyfan rydych ei angen ydy iPad cynfas werdd (neu las!) neu hyd yn oed wal werdd blaen. Mae’r gweithgaredd yma’n dangos pa mor hawdd ydy sgrinio gwyrdd mewn gwirionedd.
Paratoi:
- Fe fyddwch angen rhywbeth i fod yn sgrin werdd. Gall fod yn wal werdd blaen neu ddarn o ddeunydd gwyrdd llachar wedi’i grogi yn eich dosbarth. Mae glas yn gweithio cystal â gwyrdd, ond peidiwch â defnyddio lliwiau eraill. Gwyrdd neu las trwm, llachar sydd yn gweithio orau.
- Penderfynwch beth fydd eich disgyblion yn ei drafod yn eu fideo. Ar gyfer yr enghraifft yma, rydyn ni’n cadw pethau’n syml gyda fideo ffeithiol am y corff, ond gallwch ofyn iddyn nhw greu fideo ffeithiol neu actio ar unrhyw beth.
- Mae eich ysgol angen system i gael fideos oddi ar yr iPad (neu dabled) i’w arbed ar y gweinydd neu yn y cwmwl. Y dewisiadau a argymhellir ydy Google Drive, J2E neu OneDrive.
Gweithgareddau:
- Gan ddefnyddio’r ap Camera ar yr iPad, gweithiwch mewn parau o ddau neu dri a recordiwch dri neu ragor o glipiau o aelodau’r grŵp yn trafod eu pwnc. Yn yr enghraifft yma fe fyddwn yn recordio ffeithiau am sut mae gwahanol organau’n gweithio.
- Ewch ar y rhyngrwyd ar yr iPad a defnyddiwch Chwilio i ddarganfod delwedd i fod yn gefndir i bob clip (e.e. delweddau o’r organau maen nhw’n eu trafod).
- Agorwch sgrin werdd (rydyn ni’n argymell Green Screen gan Do Ink) a mewnosodwch eich llun cyntaf fel y cefndir.
- Ychwanegwch eich fideo cyntaf ar ben y ddelwedd.
- Ar ddiwedd y fideo mewnosodwch eich delwedd nesaf ac yna’r fideo arall ar ben hynny.
- Ailadroddwch gam 5 ar gyfer unrhyw glipiau a delweddau eraill sydd gennych.
- Chwaraewch o gwmpas gyda gosodiadau sensitifrwydd yr ap fel bod y ddelwedd gefndir a’r person sy’n siarad yn glir.
- Allforiwch y fideo o ap y sgrin werdd.
- Mewnforiwch y fideo i iMovie i ychwanegu teitl a chredydau (ac o bosibl cerddoriaeth gefndir).
- Allforiwch y fideo o iMovie a’i chael oddi ar yr iPad.
- Gwyliwch y fideos gorffenedig fel dosbarth gan drafod beth oedd yn dda am bob un a beth y gellid ei wella.
Cofiwch
- Mae rhai ysgolion wedi buddsoddi symiau mawr ar sgriniau gwyrdd sydd yn edrych yn broffesiynol i fod yn gefndir i’w fideos – ond peidiwch â thrafferthu! Fe fydd wal werdd neu darn o ddeunydd neu hyd yn oed papur cefndir glas yn gwneud y tro yn berffaith!
- Dwy reol gwneud fideos holl bwysig:
- Rhaid dal yr iPad ar ei ochr wrth wneud pob fideo (tirwedd). Dysgwch y plant i beidio byth â ffilmio mewn portread gan mai dim ond rhan fechan o’r sgrin y mae hynny’n ei lenwi.
- Gwnewch yn siŵr bod y person camera yn sefyll yn ddigon agos at y person sy’n siarad. Dydy meicroffonau iPad ddim yn gryf iawn.
- Arbedwch ddelwedd o chwiliad we i’ch Camera Roll drwy ddal eich bys yn llonydd ar y ddelwedd a dewis ‘Arbed Delwedd’. Mae hon yn sgil hanfodol i’w dysgu gan ei bod yn angenrheidiol ar gyfer cymaint o brosiectau ar yr iPad.
- Gwnewch yn siŵr bod y dosbarth yn cael cyfle i wylio fideos ei gilydd. Mae fideos wedi cael eu gwneud i’w gwylio!
Creu Fideo Sgrin Werdd
Gweithgaredd 2
Animeiddio Stori
Mae animeiddio yn cael ei anwybyddu braidd ym Mlwyddyn 5, ond mae’r llunio stop-symudiad mwy cymheth sydd yn cymryd amser yn dychwelyd eto ym Mlwyddyn 6. Mae yna nifer o apiau adnabyddus, ac mae pa un i’w ddewis ar gyfer eich animeiddio yn dibynnu ar y pwnc. Ar gyfer yr enghraifft yma fe fyddwn yn adrodd stori ac i hyn rydyn ni’n argymell yr ap Toontastic.
Paratoi:
- Gwnewch yn siŵr bod eich ap dewisiedig wedi’i osod
- Dysgwch uned ysgrifennu stori neu sgript, gyda 3 – 5 golygfa. Cyn ysgrifennu eu straeon neu sgriptiau dangoswch y cymeriadau a’r gosodiadau sydd ar gael yn yr ap Toontastic (mae yna lawer ohonyn nhw). Fe ddylai eu stori neu sgript ddefnyddio rhai o’r gosodiadau a’r cymeriadau hynny.
Gweithgareddau:
- Agorwch yr ap Toontastic (eich hun neu gyda phartner).
- Dewiswch y cymeriadau a’r gosodiadau ar gyfer golyga gyntaf eich stori/sgript ysgrifenedig.
- Recordiwch y stori neu sgript gan ddefnyddio amrywiol leisiau ar gyfer y cymeriadau a’u llusgo o amgylch y sgrin wrth iddyn nhw gerdded a siarad.
- Ailadroddwch gamau 2 a 3 ar gyfer pob golygfa.
- Allforiwch y fideo gorffenedig i’r Camera Roll ac yna ei dynnu oddi ar yr iPad gan ddefnyddio dull arferol eich ysgol.
- Trefnwch awr sinema yn y dosbarth lle mae pawb yn gwylio straeon ei gilydd. (Dewch â phopcorn!).
Cofiwch
- Fe fydd angen i chi gael y fideos oddi ar yr iPad i weinydd eich ysgol neu gyfrif cwmwl (Google Drive, OneDrive). Fe fydd bywyd cymaint haws i chi os byddwch, yn ystod y tymor cyntaf, yn dysgu eich disgyblion i wneud hyn eu hunain!
Animeiddio Gyda Toontastic
Gweithgaredd 3
Podlediadau
Mae’r trydydd gweithgaredd yma yn wahanol i’r holl weithgareddau CA2 eraill oherwydd ei fod yn canolbwyntio ar sain yn unig ac nid ar fideo neu ddelweddau. Yr her yma ydy creu podlediad, gyda newyddion yr ysgol, cyfweliad a rhywfaint o gerddoriaeth.
Paratoi:
- Fe fyddwch angen rhywfaint o gerddoriaeth i’r disgyblion ei gynnwys yn eu podlediad. Arbedwch rhai dewisiadau i ffolder ar gyfrif gweinydd neu gwmwl yr ysgol. Tra bod rhaid i chi fod yn ofalus rhag torri hawlfraint fe ddylech fod yn iawn cyn belled nad ydy’r podlediad yn cael ei chwarae yn gyhoeddus.
- Fe fyddwch angen ap neu feddalwedd golygu sain. Mae GarageBand yn gweithio’n dda ar iPads a Macs tra bod Audacity yn feddalwedd syml, am ddim sydd yn gweithio’n dda ar gyfrifiadur.
Gweithgareddau:
- Gwrandewch ar ychydig o bodlediadau fel dosbarth yn ystod yr ychydig wythnosau cyn dechrau’r uned yma fel bod y disgyblion yn deall y cyfrwng. Amlygwch glipiau o raglenni radio a fydd yn gweithio. (Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eu bod yn briodol i oedran eich disgyblion o flaen llaw).
- Trafodwch beth y gallai’r disgyblion ei gynnwys yn eu podlediadau ysgol e.e. newyddion ysgol, cyfweliadau (gyda’r Pennaeth, athro/athrawes, aelod o gyngor yr ysgol), cerddoriaeth, digwyddiadau i ddod.
- Ymarfer sut i ddefnyddio’r meddalwedd. Dangoswch iddyn nhw pa mor debyg ydy e i iMovie, sef eich bod yn ychwanegu neu recordio darnau ac yna yn eu llusgo o gwmpas i’w rhoi yn y drefn gywir.
- Rhannwch y disgyblion yn grwpiau (parau neu drioedd).
- Gall pob pâr greu cyflwyniad i’r podlediad drwy ychwanegu rhywfaint o gerddoriaeth generig (mae dewis ar gael yn GarageBand gyda throslais yn ailadrodd enw eu podlediad). Arbedwch hwn fel ei ffeil ei hun.
- Ewch i recordio’r cyfweliad. Mae’n well paratoi rhai cwestiynau o flaen llaw.
- Dewiswch ddwy gân boblogaidd (priodol i oedran) rydych eisiau yn y podlediad.
- Ysgrifennwch sgriptiau byr o’r darnau canlynol:
- Dolen groeso
- Newyddion
- Cyflwyno cân
- Cyflwyno cyfweliad
- Trafodwch ddigwyddiadau ysgol sydd i’w cynnal
- Cyflwyno ail gân
- Dolen ffarwelio
- Ychwanegwch y gerddoriaeth gyflwyno a’r ddwy gân i brosiect newydd. Recordiwch y darnau uchod a’u rhoi yn y drefn gywir.
- Arbedwch y prosiect a chliciwch allforio fel MP3.
- Chwaraewch y podlediad yn y neuadd dros ginio un wythnos.
Cofiwch
- Dydy hwn ddim yn weithgaredd cyflym. Fe fydd yn cymryd ychydig o wersi i gynllunio, ysgrifennu sgriptiau a recordio.
- Gallech ofyn i gyflwynwyr radio lleol i recordio darnau i chi i’w gollwng rhwng eitemau. Cliciwch isod am enghreifftaiau a dderbyniodd un ysgol gan DJs Capital Radio a Radio y BBC (mae rhai yn Gymraeg)
Esiamplau Stings Radio
Nodyn Pwysig
Rhannu, Rhannu, Rhannu
Gan fod y disgyblion bellach yn dod yn fwy hyderus wrth greu fideos ac animeiddio, mae’n holl bwysig eu bod yn gweld bod eu gwaith yn cael cynulleidfa. Dyma rai ffyrdd o sicrhau bod y plant yn teimlo eu bod wedi gweithio i bwrpas:
- Dangoswch y fideos yn y dosbarth a thrafodwch yr adborth.
- Dyma’r math mwyaf sylfaenol o rannu ac fe ddylid ei wneud gyda phob fideo a gwblheir.
- Gwahodd rhieni/dosbarthiadau eraill/ y pennaeth i ‘Brynhawn Sinema’ i wylio eich gwaith gorffenedig. Dewch â phopcorn!
- Uwchlwytho i gyfrif cwmwl (One Drive, Google Drive), ac anfon dolen i rieni drwy e-bost.
- Uwchlwytho i gyfrif cwmwl (One Drive, Google Drive), creu codau QR i’w arddangos yn y dosbarth, o amgylch yr ysgol ac mewn llyfrau gwaith.
- Mae hwn yn ddull syml iawn o rannu, a dylech ddysgu’r disgyblion sut mae modd ei wneud (neu fel arall fe fydd rhaid i chi ei wneud 30 gwaith eich hun, gan wastraffu llawer o amser!)