Menu

Cronfeydd Data

4.2 - Llythrennedd Gwybodaeth a Data

Cyflwyniad

Mae cronfa ddata yn hawdd iawn i’w addysgu a’i ddysgu, yn enwedig gyda dyfodiad meddalwedd fel 2Question a 2Information ar Purple Mash a J2Data ar J2E.

Ym Mlwyddyn 5 fe fydd y disgyblion yn symud ymlaen o gronfeydd data canghennog ac yn canolbwyntio ar adeiladu eu cronfeydd data llawn eu hunain o’r cychwyn. (Mae’n hanfodol felly eu bod wedi cael profiadau o weithgareddau Blynyddoedd 3 a 4).

Fframwaith

4.2 - Llythrennedd Gwybodaeth a Data

  • Creu, archwilio a dadansoddi setiau data, gan nodi perthynas oddi fewn iddynt, e.e. defnyddio taenlenni, cronfeydd data, tablau a siartiau.

Sgil wrth Sgil

  • Casglwch, paratowch a lluniwch gronfa ddata. Dechreuwch ddeall y gwahanol fathau o feysydd.
  • Gwnewch yn siŵr bod y cofnodion yn gywir a chywirwch unrhyw gamgymeriadau.
  • Cyflawnwch chwiliad penodol ar gronfa ddata fwy y maen nhw wedi ei llunio.
  • Dechreuwch ddidoli cofnodion.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

cofnod     meysydd     didoli     cywir

Gweithgaredd 1

Cronfa Ddata o’r Cychwyn

Creu Cronfa Ddata

Fe fydd y disgyblion yn gyfarwydd gyda chronfeydd data llawn o’u gwaith ym Mlynyddoedd 3 a 4, ar ôl ateb cwestiynau amdanyn nhw ac yn ychwanegu, symud a golygu cofnodion ynddyn nhw. Ym Mlwyddyn 5 fe fydd y disgyblion yn creu cronfa ddata gyfan eu hunain.

Paratoi:

  • Gwnewch yn siŵr bod gan y disgyblion gyfrifon mewngofnodi ar gyfer meddalwedd cronfa ddata (Purple Mash neu J2Data)
  • Ymgyfaryddwch gyda’r meddalwedd trwy ddilyn y canllaw fideo isod i greu eich cronfa ddata eich hun.

Gweithgareddau:

  1. Atgoffwch y disgyblion sut beth ydy cronfa ddata. Nodwch bod ‘cofnodion’ ynddi, sef eitemau neu wrthrychau neu unigolion i’w dadansodi yn y gronfa ddata, a bod ‘meysydd’ i bob cofnod gyda gwybodaeth am y cofnodion. Mae pob cofnod mewn cronfa ddata yn rhannu rhai nodweddion neilltuol a nodir yn y meysydd
  2. Esboniwch mai’r penderfyniad pwysicaf i’w wneud pan fyddwch yn creu cronfa ddata ydy pa feysydd i’w cynnwys. Er enghraifft, fe ddylai cronfa ddata am afonydd gynnwys meysydd sydd yn cofnodi hyd yr afonydd, eu gwledydd ffynhonnell, trwy ba gyfandir maen nhw’n llifo etc.
  3. Dangoswch iddyn nhw sut i greu cronfa ddata newydd, gan ychwanegu rhywfaint o destun syml a rhifo meysydd. (Does dim angen meysydd dewis lluosog ar y lefel oedran yma).
  4. Gofynnwch i’r disgyblion greu cronfa ddata ar eich pwnc (h.y. afonydd yn yr enghraifft yma).
  5. Unwaith y byddan nhw wedi creu cronfa ddata fe ddylen nhw ychwanegu ychydig gofnodion (e.e ychwanegu tair neu bedair afon adnabyddus a’u gwybodaeth).

Cofiwch

  • Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu Purple Mash neu J2E eto, mae’n hen bryd iddi wneud hynny. Mae’r J2E am ddim yn Hwb a gellir tanysgrifio i Purple Mash. Soniwch am hyn cyn gynted â phosibl wrth eich Arweinydd Technoleg neu’r Pennaeth!
  • Mae’n debygol na fydd gennych ddigon o ddyfeisiadau i bob disgybl yn y dosbarth gael un yr un. Peidiwch â chael eich temptio i rannu cyfrifiaduron. Nid dyna ydy diben yr elfen yma. Os ydy dyfeisiadau yn gyfyngedig, trefnwch i un grŵp weithio ar y tro.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu adeiladu cronfa ddata ac ychwanegu cofnodion ati.

Elfennau Fframwaith Eraill

2.3 – Storio a Rhannu

Mae defnyddio Purple Mash neu J2E bob amser yn gyfle i ddysgu sut i arbed i leoliadau penodol gan ddefnyddio enwau ffeiliau priodol.

3.3 - Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanasesiad arferol.

Geirfa

cofnodion     meysydd     testun     rhifiadol

Syniadau Amrywio

Gallwch newid ‘afonydd’ i unrhyw bwnc y gellir eu grwpio’n hawdd (anifeiliaid, gwledydd, hyd yn oed Pokemon!)