Iechyd a Lles
1.2
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Does yr un o’r gwersi Blwyddyn 6 a luniwyd gan SWGfL yn delio gyda gormod o amser sgrin ac felly rhaid i chi sicrhau eich bod chi yn delio gyda hynny.
Y ffordd orau o ddelio gyda’r pwnc yma ydy trwy drafodaethau dosbarth a gweithgaredd dadl dwyn perswâd.
Gofynnwch i’r disgyblion beth maen nhw’n ei hoffi am ddefnyddio technoleg gartef. (Mae hyn yn cynnwys fideo, teledu, gemau cyfrifiadur, cyfryngau cymdeithasol, tabledi). Pam bod rhai pobl yn treulio oriau bob nos gyda thechnoleg? Yna gofynnwch pa broblemau y gall treulio cymaint o amser ar dechnoleg eu creu? Os ydyn nhw’n cael trafferth i feddwl am unrhyw broblemau, gofynnwch iddyn nhw greu rhestr o’r gweithgareddau eraill y gallech eu gwneud pe na bai gennych unrhyw dechnoleg (e.e. chwarae pêl droed, ymweld â ffrind, gwneud celf a chrefft, coginio, chwarae gemau bwrdd, gemau sy’n defnyddio’r dychymyg etc.)
Ystyriwch gynnal cystadleuaeth araith dwyn perswâd ar y pwnc. Mae pob disgybl yn paratoi araith gan ddewis un o’r teitlau canlynol:
- Fe ddylen ni ddefnyddio cymaint o dechnoleg â phosibl i’n paratoi ar gyfer y dyfodol
- Fe ddylen ni gyfyngu ar ein defnydd o dechnoleg. Mae yna bethau pwysicach.
Gellid gosod hyn fel gwaith cartref, gyda’r disgyblion yn rhoi cyflwyniad yn y dosbarth a’r 3 gorau yn mynd ymlaen i roi cyflwyniad yng ngwasanaeth yr ysgol lle caiff ennillydd ei ddewis.