Cyfathrebu
2.1
Gweitharedd 1
Trefnu eich Mewnflwch
Os ydy eich disgyblion wedi cael eu dysgu yn unol â’r Fframwaith ers Blwyddyn 3, fe ddylen nhw fod yn hyderus erbyn hyn wrth ddefnyddio e-bost. Mae’r gweithgareddau ‘Cyfatherbu’ felly ym Mlwyddyn 6 yn bennaf yn ymwneud â pharhau gyda’r defnydd rheolaidd yna.
Mae’r gweithgaredd yma yn eu dysgu sut i drefnu eu mewnflwch ac i flocio negeseuon e-bost digroeso.
Paratoi:
- Gwiriwch os oes gan eich disgyblion brofiad e-bostio o Flynyddoedd 3 i 5. Os na, edrychwch ar weithgareddau Blynyddoedd 3, 4 a 5 ar gyfer ‘Cyfathrebu’.
- Anfonwch 5 neges e-bost at eich disgyblion cyn y wers, pob un gyda chwestiwn ar bwnc rydych chi’n gweithio arno ar hyn o bryd. Fe ddylai dwy neges gynnwys cwestiynau daearyddiaeth, dwy ar hanes ac un gyda chwestiwn ar drydydd pwnc (e.e. Addysg Grefyddol)
Gweithgareddau:
- Tywyswch y disgyblion gam wrth gam drwy’r broses o greu ffolderi (neu os yn defnyddio Gmail, labeli) ar gyfer pob pwnc ac yna trefnu’r pump neges e-bost y maen nhw newydd eu derbyn.
- Dywedwch wrthyn nhw mai’r cwestiwn Daearyddiaeth cyntaf ydy’r pwysicaf iddyn nhw ei gadw’n ddiogel gan y byddan nhw’n ei ateb yn fuan. Dangoswch iddyn nhw sut i ddefnyddio Starred (Gmail) neu Flagged (Outbox) i nodi’r e-bost hwnnw fel un pwysig.
- Anfonwch neges e-bost arall atyn nhw, y tro yma gyda neges anghyfeillgar (e.e. “Rwyt ti’n annymunol, dwi ddim yn ffrind i ti”) Trafodwch beth ddylen nhw wneud os ydyn nhw’n derbyn neges o’r fath. (Peidio â’i ddangos i ffrindiau, peidio â’i ddileu, dweud wrth oedolyn). Dysgwch nhw sut i flocio negeseuon e-bost gan rhywun sydd yn bod yn annymunol (gwnewch yn siŵr eu bod yn eich dadflocio chi wedyn!)
Cofiwch
- O ran e-bost, mae angen i chi wybod pa brofiad blaenorol sydd gan y disgyblion. Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn disgwyl i ddisgybl Blwyddyn 6 fod yn e-bostio’n annibynnol ac yn rheolaidd ers Blwyddyn 4. Wrth gwrs, efallai nad ydy hynny’n wir am eich dosbarth chi. Os felly, gall fod o gymorth i chi edrych ar weithgareddau Blynyddoedd 3 a 4 cyn symud ymlaen i’r gweithgaredd yma.
- Mae angen i chi bwysleisio yr agwedd e-ddiogelwch wrth ddysgu e-bost. Mae angen iddyn nhw ddeall pa mor bwysig ydy ysgrifennu negeseuon e-bost priodol a pheidio â defnyddio geiriau annymunol.
Gweithgaredd 2
Galwad Fideo
Dydy galwadau fideo ddim y dull hawsaf i’w ddysgu i ddisgyblion am gyfathrebu ar-lein. Yn aml mae hidlwyr Awurdodau Lleol yn blocio mynediad i Skype a Facetime mewn ysgolion, a gall yr angen i gael rhywun ar ben arall yr alwad fod yn hunllef os ydy pob plentyn yn mynd i wneud galwad bersonol.
Yr ateb syml ydy cyfyngu Galwadau Fideo i weithgaredd dosbarth cyfan, gan ddefnyddio rhai o’r awgrymiadau isod. Ond, efallai eich bod yn teimlo’n ddigon hyderus yng ngallu Blwyddyn 6 i ganiatáu i’ch disgyblion wneud galwadau fideo unigol. Os felly, ewch drwy’r wers, un grŵp ar y tro er mwyn i chi allu eu harolygu’n haws a gwnewch yn siŵr eich bod wedi trafod mynediad i Skype neu Facetime gyda phwy bynnag sydd yn rheoli’r hidlwr rhyngrwyd (fel rheol eich Awdurdod Lleol) fel nad ydy’r wers yn chwalu ar y cam cyntaf!
Awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau
- Pan fyddwch ar drip ysgol, treuliwch amser ar FaceTime, Hangouts Meet neu Skype gyda dosbarth arall yn yr ysgol yn dweud wrthyn nhw sut hwyl rydych chi’n ei gael. Mae hyn yn gweithio hyd yn oed yn well ar drip preswyl.
- Trefnwch ‘Skype/Hangouts Dirgel'. Mae hyn yn cynnwys trefnu galwad fideo rhwng eich dosbarth a dosbarth arall mewn ardal, sir neu wlad arall (o fewn parth amser tebyg). Mae’r dosbarthiadau yn gofyn cwestiynau i’w gilydd ac yn ceisio dyfalu ym mha ardal neu wlad mae’r dosbarth arall yn byw. Gallwch ddarganfod ysgol i wneud Skype Dirgel gyda nhw trwy wefan Mystery Skype Microsoft.
- Treuliwch amser Facetime gyda chymeriad hanesyddol! Os oes rhywun yn fodlon gwisgo’i fyny, gofynnwch iddyn nhw wneud galwad fideo gyda’r dosbarth i ateb cwestiynau ac i drafod eu bywydau.
- Os nad ydych am roi cynnig ar alwadau fideo unigol, beth am drefnu galwad fideo rhwng disgyblion mewn gwahanol ddosbarthiadau gydag un yn tywys y llall i leoliad trysor cudd.
Defnyddio Google Meet i greu Galwadau Fideo
Nodyn Pwysig
Cyfathrebiadau Rheolaidd
Cofiwch y dylai cyfathrebu ar-lein fod yn rhan rheolaidd o weithgareddau ysgol eich disgyblion erbyn hyn. Peidiwch â’i neilltuo i un wers bob ychydig fisoedd. Mae angen ei gynnwys fel rhan o’u trefn. Mae cyflwyno gwaith cartref, rhannu gosodiadau caniatâd neu ysgrifennu adroddiadau ar lyfrau i gyd yn dda, cyfleoedd rheolaidd i ddefnyddio cyfathrebiadau ar-lein.