Cydweithio
2.2
Gweithgaredd 1
Byw yn y Cwmwl?
Os ydy eich disgyblion wedi dilyn y Fframwaith ers Blwyddyn 3 fe ddylen nhw bellach fod yn gyfarwydd iawn gyda gweithio ar ddogfennau cydweithio. (Os na, ewch i weithgareddau Blwyddyn 3 ar Gydweithio a dechreuwch yma). Ym Mlwyddyn 6, rydyn ni’n canolbwyntio ar eu gwneud yn gyfarwydd gyda threfnu eu gwaith yn y cwmwl.
Paratoi:
- Gwnewch yn siŵr bod gan pob plentyn fewngofnodion i yrrwr ar-lein (Google Drive neu OneDrive).
- Gwiriwch bod gan y disgyblion brofiad o waith cydweithio ym Mlynyddoedd 3-5. (Os na, yna dechreuwch gyda’r gweithgareddau ar gyfer Blwyddyn 3.)
Gweithgareddau:
1. Dangoswch iddyn nhw sut i rannu dogfennau gyda gwahanol ganiatâd
- Google: golygu, gweld neu roi sylwadau
- Office: gallu gweld, gallu golygu
2. Trafodwch pryd y byddai hyn yn ddefnyddiol. (Rhowch sylwadau dim ond pan rydych eisiau adborth, Edrych yn unig os nad ydych eisiau i eraill newid eich gwaith neu roi sylwadau mewn unrhyw ffordd). Gadewch iddyn nhw ymarfer rhannu ym mhob dull gwahanol.
3. Cael sesiwn dacluso yn eu cwmwl ar-lein (gwnewch hyn bob tymor!) Atgoffwch nhw i greu is-ffolderi i roi trefn ar eu ffeiliau.
Rhannu a Thacluso yn Drive
Cofiwch
- Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu G Suite for Education neu Office 365 eto, mae’n hen bryd iddi wneud hynny. Mae’r ddau am ddim a mae cyfrifon gan eich disgyblion drwy Hwb.
- Mae’n debygol na fydd gennych ddigon o ddyfeisiadau i bob disgybl yn y dosbarth gael un yr un. Peidiwch â chael eich temptio i rannu cyfrifiaduron. Nid dyna ydy diben yr elfen yma. Os ydy dyfeisidau yn gyfyngedig, trefnwch i un grŵp weithio ar y tro.
- Nawr bod eich disgyblion yn gallu cymryd rheolaeth dros eu gyrrwr, fe ddylen nhw ei gadw’n drefnus drwy gydol y flwyddyn. Cynhaliwch sesiwn dacluso fel hyn bob tymor i sicrhau nad ydy gyrrwr neb yn llanast llwyr!
- Mae hwn yn weithgaredd syml i’w dysgu sut i drefnu eu gyrrwr eu cwmwl. Edrychwch ar y rhestr o weithgareddau ar waelod y dudalen yma i weld sut y gallwch barhau i ymarfer cydweithio drwy gydol y flwyddyn.
Prosiectau
Unwaith y bydd y disgyblion wedi dysgu’r gwahanol ganiatâd rhannu, dydy hynny ddim yn ddiwedd o bell ffordd ar gydweithio ym Mlwyddyn 6! Fe ddylen nhw ddod yn hyderus wrth weithio ar y cyd a rhannu dogfennau, ymgorffori’r sgiliau yma yn rheolaidd yn eu gwaith. Dyma rai syniadau ar gyfer prosiectau y mae modd iddyn nhw eu gwneud ar y cyd.
Awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau
- Creu PowerPoint / Google Slide ar eich pwnc cyfredol. Mae un disgybl yn teipio, un arall yn ychwanegu delweddau ac un arall yng ngofal y dylunio a’r gwirio sillafu.
- Creu fideo ar yr iPad (gweler 3.2 'Creu'), uwchlwythwch i’r cwmwl a rhannu gyda chyd-ddisgybion er mwyn iddyn nhw allu gweld y fideo.
- Defnyddio Word 365 / Google Doc i ysgrifennu postiadau blog yn rheolaidd mewn parau.
- Rhannu gwaith yn rheolaidd ar gyfer asesiadau cymheiriaid gan ddefnyddio sylwadau.
- Y disgyblion yn creu gwaith yn rheolaidd yn y cwmwl ac yn ei rannu gyda chi.